Cyfraddau lefi cyfredol
Mae faint o LefiCITB blynyddol a dalwch yn seiliedig ar gyfanswm eich bil cyflog (y swm rydych yn ei dalu i'ch cyflogeion mewn blwyddyn).
At ddibenion y Lefi cyfredol, mae gweithwyr yn cynnwys cyflogeion a delir drwy'r gyflogres ac is-gontractwyr y Cynllun Diwydiant Adeiladu (CIS) rydych yn gwneud didyniadau CIS ganddynt.
Y cyfraddau yw:
- 0.35% ar staff y gyflogres
- 1.25% ar isgontractwyr CIS rydych yn gwneud didyniadau CIS ganddynt (CIS a delir net)
Nid yw'r lefi'n gymwys i isgontractwyr CIS nad ydych yn gwneud didyniadau CIS ganddynt.
Gostyngiad ar gyfer busnesau bach
Os yw cyfanswm eich bil cyflogau (cyflogres a CIS Net) rhwng £80,000 a £399,999, bydd eich sefydliad yn derbyn gostyngiad o 50 y cant ar eich lefi. Gelwir hwn y 'Gostyngiad Lefi Busnesau Bach'
Esemptiad ar gyfer busnesau bach
Os yw cyfanswm eich bil cyflogau (cyflogres a CIS Net) o dan £80,000, ni fydd rhaid i'ch sefydliad dalu'r lefi. Gelwir hwn yr 'Esemptiad Lefi Busnesau Bach'
Mae'n rhaid i chi ddal i gwblhau Ffurflen Lefi hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu'r Lefi, gan ei fod yn ofyniad statudol.