You are here:
Diweddariadau pwysig am y lefi
Asesiad Lefi 2021 – Diweddariad
Mae cyfraddau lefi ar gyfer Asesiad Lefi 2021 bellach wedi’u cadarnhau fel 0.35% ar gyfer TWE a 1.25% ar gyfer CIS Net.
Rydym yn atgoffa unrhyw un sydd â Ffurflen Lefi 2021 heb ei chyflwyno, i'w chyflwyno ar unwaith. Bydd methu â chyflwyno eich Ffurflen Lefi 2021 wedi'i chwblhau cyn 22 Mai 2022 yn arwain at amcangyfrif o Asesiad Lefi 2021.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi Hysbysiadau Asesu Lefi 2021 yng nghanol mis Mehefin gyda dyddiad talu o 28 Gorffennaf 2022. Bydd cyflogwyr yn dal i allu manteisio ar y cynllun debyd uniongyrchol di-log llawn o 10 mis, a fydd yn rhedeg yn awr o fis Gorffennaf 2022 i fis Ebrill. 2023.