Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau'r chwiliad

Wedi canfod 47 prosiect a ariennir. Caiff prosiectau a ariennir eu didoli mewn trefn gronolegol o chwith.

I gael gwybodaeth bellach ar bob prosiect, dewiswch deitl y prosiect

Effaith: Adrodd CSR i BBaCh adeiladu
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Newid diwylliant y diwydiant, Technoleg ddigidol a newydd, Adnoddau dysgu, Sectorau a rolau, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Arwain a Rheoli
Arweinydd y prosiect:
Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr
Swm a ddyfarnwyd:
£231,945
Crynodeb diwedd y prosiect:

Yn aml mae cyflogwyr bach yn brin o'r sgiliau i gyflwyno Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, ac felly gallant fethu'r buddion iddynt hwy eu hunain a'r gymuned, gan gynnwys ennill contractau newydd.

Bydd y prosiect yn datblygu a darparu offeryn diagnostig ar-lein sy'n nodi aeddfedrwydd sefydliad o ran Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau a galluoedd cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y maes hwn.

Cyflwyniad i sgiliau adeiladu treftadaeth
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Adnoddau dysgu, Sectorau a rolau, Cymwysterau a chyrsiau newydd
Arweinydd y prosiect:
Cymdeithas Hyfforddi Adeiladu Sir Gaerfyrddin
Swm a ddyfarnwyd:
£13,012
Crynodeb diwedd y prosiect:

Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar adeiladu ym maes treftadaeth.  Bydd 30 o unigolion sydd eisoes yn dilyn NVQ2 a 3 yn elwa o'r hyfforddiant hwn.

Adeiladwyd traean o adeiladau yng Nghymru cyn 1919 ac maent yn wahanol o ran y deunyddiau a ddefnyddir a'r strwythur o gymharu ag adeiladau modern.  Nid yw'r cyrsiau NVQ presennol yn darparu unrhyw hyfforddiant ar wneuthuriad a model hen adeiladau. Eto, mae'n debygol y bydd gofyn i ddysgwyr weithio ar hen adeiladau yn ystod eu gyrfa. Bydd yr hyfforddiant hwn yn sicrhau cadw treftadaeth.

L5 Rhaglen cyflym graddedigion mewn arwain a rheoli yn y sector llogi
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Arwain a Rheoli, Cymwysterau a chyrsiau newydd, Sectorau a rolau
Arweinydd y prosiect:
Cymdeithas Llogi Ewrop [Hire Association Europe]
Swm a ddyfarnwyd:
£52,500
Crynodeb diwedd y prosiect:

Bydd y prosiect hwn yn treialu Rhaglen Cyflym Graddedigion Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli sydd wedi ei ddatblygu a'i ysgrifennu yn beneodol ar gyfer y sector llogi a rhentu.  Bydd pum modiwl yn cael eu rhoi mewn cyd-destun: ysgogi pobl; gwneud yr achos ariannol; cysylltiadau cwsmeriaid; rheoli recriwtio; arweinyddiaeth effeithiol.

Yr amcan tymor hir yw i annog graddedigion i ddewis gyrfa yn y diwydiant llogi a rhentu er mwyn negyddu effaith gweithlu sy'n heneiddio a'i gadw'n ddiwydiant cyneiladwy