Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau Chwilio

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Canfuwyd 31 o erthyglau

Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

Rôl adeiladu yn her fwyaf ein hoes

"Mae cyfnod berwi byd-eang wedi cyrraedd.” Pe bai ymadrodd erioed wedi eich gwneud yn ymwybodol o’r perygl o beidio â chyrraedd targedau sero net, yna’r dyfyniad diweddar hwn, gan ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, ydyw. Rwy’n angerddol dros yr amgylchedd ar lefel broffesiynol a phersonol fel y bydd darllenwyr fy mlogiau’n gwybod. Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom ac mae ei effaith gynyddol yn amlwg. Yn y blog hwn byddaf yn rhannu ffeithiau diweddar ar newid hinsawdd. Byddaf hefyd yn amlinellu sut y mae CITB yn gweithio gyda diwydiant, Llywodraethau a darparwyr hyfforddiant i wasanaethu’r cyhoedd ar fater mwyaf dybryd ein hoes.

LHDTC+ yn y Diwydiant Adeiladu: Creu Gweithle Cynhwysol

A yw ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu fel unigolyn LHDTC+ yn codi braw arnoch? Gall pryderon am dderbyniad a chynwysoldeb digalonni unigolion. Fodd bynnag, mae’r oes wedi newid, ac mae’n bwysig siarad am sut mae’r diwydiant adeiladu’n esblygu’n gyson ac yn dod yn fwy amrywiol.

“Mae arwain o’r tu blaen yn rhan o fod yn gynghreiriad LHDTC+ da”

“Mae yna lawer o bobl o hyd sy’n meddwl bod bod yn agored ac yn dryloyw am eich rhywioldeb yn rhy anghyfforddus, bod Pride a’i ddathliadau yn estyniad o hyn yn unig, yn ogystal â bod yn wastraff arian ac adnoddau cwmni.”

Canolfan Profiad ar y Safle yn cynnig gobaith i Emmy

Weithiau gall gwaith gynnig gobaith pan fydd rhannau eraill o fywyd yn anodd. Roedd hyn yn wir i'r Gweithiwr Dymchwel, Emmy Jones. Mae Emmy wedi gwneud cynnydd gwych yn ei bywyd ers iddi ymuno â’r Ganolfan Profiad ar y Safle yng Nghaerlŷr. Mae’r Ganolfan Profiad ar y Safle, sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor a’i chyllido ar y cyd gan CITB, yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl sy’n chwilio am yrfa yn y diwydiant adeiladu.

Ein cynllun i roi cyflogwyr o flaen y gad

Rwy’n hoffi cadw pethau’n syml a dyna pam mae gan Gynllun Busnes newydd CITB un nod hollbwysig: rhoi cyflogwyr ar flaen y gad o ran sgiliau a hyfforddiant.

Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr tir

“Hyd yn oed a finnau’n 58 oed, rydw i’n dysgu technolegau newydd.” Dyma eiriau Hyfforddwr CITB a chyn-weithiwr tir, Tim Heads. Daeth Tim, gŵr 58 oed o Bircham, yn weithiwr tir ar ôl gadael yr ysgol. Mae’n enghraifft dda o oedran, sgiliau ac amrywiaeth swyddi ym maes adeiladu.

Cymraeg yn CITB

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn tynnu sylw at ymrwymiad CITB i gefnogi’r iaith Gymraeg.

Prentisiaethau: mynd i'r afael â'r galw am sgiliau

Rwy’n gefnogwr mawr o brentisiaethau. Mae ennill tra'n dysgu yn ffordd wych o ddechrau bywyd gwaith. Dwi'n gwybod, achos pan ddes i'n brentis peiriannydd gwasanaeth ar ddechrau'r 1980au, fe newidiodd fy mywyd.

Rhagolygon sgiliau adeiladu newydd yn adlewyrchu amseroedd cythryblus

Roedd 2022 yn flwyddyn anodd. Gellid dadlau mai goresgyniad Wcráin gan Rwsia oedd y gwrthdaro mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. Yn y cyfamser - gartref - gwelwyd cynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog, ac argyfwng costau byw. Mae’r newidiadau yma, ac ar draws y byd, wedi effeithio ar lawer o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant adeiladu, un o brif sbardunau twf y Deyrnas Unedig. Mae’r cyfnod cythryblus hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein hadroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN) newydd.

Dyddiadur Cynghorydd Ymgysylltu CITB

Fy swydd i yw helpu cwmnïau i gael yr holl gyllid y maen nhw'n gymwys i'w gael, yn ôl Cynghorydd Ymgysylltu CITB, Abbie Langridge.