Facebook Pixel
Skip to content

Pa gefnogaeth fyddaf yn ei gael?

O'r diwrnod y cyflwynwch eich ffurflen gais, bydd Swyddog Prentisiaeth pwrpasol wrth law i gydlynu eich rhaglen hyfforddiant a'ch cefnogi drwy gydol eich prentisiaeth. Mae CITB yn cyflogi mwy na 200 o Swyddogion Prentisiaethau sy'n gweithio ym mhob ardal yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Y Swyddog Prentisiaethau yw'r cyswllt rhyngoch chi, y coleg (neu'r darparwr hyfforddiant) a'ch cyflogwr. Eu gwaith nhw yw monitro eich cynnydd ar y safle ac mewn hyfforddiant trwy adolygiadau o'ch cynnydd er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni eich nod terfynol.

Bydd Swyddogion Prentisiaethau CITB yn eich cefnogi drwy gydol eich prentisiaeth. Byddant yn cynnig cymorth i chi wneud y dewisiadau cywir, gweithio tuag at eich targedau, manteisio ar y cyfleoedd a gynigir i chi a thrafod eich nodau hirdymor.

Ar ôl i chi gael eich lleoli gyda chyflogwr ac archebu lle gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant, byddwch yn cymryd ein hasesiad cychwynnol ar-lein i bennu eich anghenion unigol.

Anawsterau dysgu

Os oes gennych anawsterau dysgu, a bod gennych Ddatganiad cyfredol o Anghenion Addysgol Arbennig neu Anghenion Dysgu Ychwanegol, gallwn ni ddarparu cefnogaeth yn ystod yr ymarfer.

Bydd rhaid i chi ddarparu'r dystiolaeth ddogfennol berthnasol i CITB er mwyn derbyn y gefnogaeth sydd arnoch ei hangen.

Sgiliau Allweddol/Sgiliau Hanfodol

Mae Sgiliau Ymarferol, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol yn rhan bwysig o'r brentisiaeth.  Os ydych am wella'ch darllen, ysgrifennu neu fathemateg, bydd digon o help ar gael. Bydd CITB yn eich cefnogi'n llawn ar bob cam o'ch taith ddysgu.

Mae CITB wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae hynny'n wir heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chredau, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir economaidd-gymdeithasol.

Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiol sy'n amlddiwylliannol ac yn amlieithog, lle mae pawb yn wahanol ac mae ganddo rywbeth gwahanol i'w gyflwyno i gymdeithas a'r gweithle.

Mae adeiladu yn ddiwydiant sydd angen amrywiaeth o sgiliau a galluoedd gwahanol. Mae'n bwysig bod pobl o wahanol gefndiroedd, profiadau bywyd a galluoedd yn cael eu cyflogi i'n galluogi i gyflawni'r lefelau uchel o sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinwyr byd.

Mae CITB am ddenu a chefnogi'r bobl fwyaf cymwys i weithio yn y diwydiant adeiladu. Dim ond i wneud pethau'n well i chi ac i eraill y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio. Os nad ydym yn gwybod pwy sy'n gwneud cais am brentisiaeth, ni allwn wneud popeth yr hoffem ei wneud i'ch cefnogi, p'un a ydych chi'n wyn/du, yn hŷn/ifanc, yn briod/sengl, yn strêt/hoyw, yn ddyn/menyw. Rydym am sicrhau ein bod yn deg a bod pobl o bob cefndir yn cael y cyfle i wneud prentisiaeth mewn adeiladu. Fe ddiogelir unrhyw wybodaeth a ddarparwch gan y gyfraith sy'n sicrhau ein bod yn diogelu'r wybodaeth hon ac yn delio â hi'n gyfrifol. Ni ddefnyddir yr wybodaeth hon mewn unrhyw benderfyniad recriwtio neu ddethol ac ni chaiff ei throsglwyddo i unrhyw gyflogwyr heb eich caniatâd.

Er mwyn i'ch amgylchedd hyfforddi fod yn un lle gallwch roi eich gorau a gwireddu'ch potensial llawn, bydd CITB yn sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg, ag urddas a pharch drwy gydol eich prentisiaeth.

Mae CITB yn cymryd ei gyfrifoldebau i brentisiaid o ddifrif ac mae'n ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch drwy'r amser.

Rhaid i holl gyflogwyr Prentisiaid CITB gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch a chodau ymarfer cyfredol.

Cyn i chi ddechrau'ch prentisiaeth, bydd eich Swyddog Prentisiaeth yn cynnal ymweliad fetio cyn-leoli gyda'ch cyflogwr. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich lleoli â chwmni a fydd yn cymryd eich hyfforddiant a'ch iechyd a diogelwch o ddifrif.

Os nad yw'r cwmni'n diwallu ein safonau, yna ni chaniateir i chi symud ymlaen at eich Prentisiaeth gyda'ch cyflogwr.

Y math o bethau y byddwn ni'n chwilio amdanynt yw:

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr a Chyhoeddus
  • Polisi diogelwch
  • Asesiadau risg
  • Gweithdrefnau cymorth cyntaf a llyfr damweiniau
  • Darpariaeth Cyfarpar Diogelu Personol (yn rhad ac am ddim).

Er mwyn i ni fod yn sicr y byddwch yn ddiogel drwy gydol eich prentisiaeth, bydd hefyd yn ofynnol i'ch cyflogwr:

  • Ddarparu cwrs cynefino iechyd a diogelwch i chi
  • Gwneud yr holl asesiadau risg angenrheidiol i sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i leihau'r risg o unrhyw beth anffodus yn digwydd i chi
  • Cael gweithdrefnau ar waith i roi gwybod i CITB am unrhyw ddamweiniau.

Mae hyn oll yn bwysig ac yn helpu i sicrhau eich diogelwch ar y safle.

Mae Llais y Dysgwr yn rhoi cyfle i brentisiaid roi adborth ar y gwasanaeth maent yn ei dderbyn gan CITB a'u coleg (neu ddarparwr hyfforddiant).

Mae prentisiaid yn llenwi holiaduron cyfrinachol ar wahanol gamau yn eu rhaglen i amlygu unrhyw faterion neu broblemau maent yn eu hwynebu. Mae swyddogion prentisiaethau hefyd yn rhedeg cyfarfodydd Llais y Dysgwr gyda'u prentisiaid.

Mae pob cwyn ac argymhelliad a roddir gan brentisiaid yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn helpu CITB a'r colegau (neu ddarparwyr hyfforddiant) i wella ar y gwasanaeth mae'n ei ddarparu.

Weithiau, efallai y bydd angen i chi gael llety i ffwrdd o'ch cartref pan fyddwch chi'n hyfforddi yn y coleg.

Bydd eich Swyddog Prentisiaeth yn trefnu hyn i chi. Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel, dim ond i lety cymeradwy CITB yn agos at eich coleg (neu ddarparwr hyfforddiant) y byddant yn eich lleoli a thalu amdano.

Hefyd gallwch hawlio rhai costau teithio ar gyfer teithiau i ac o'ch coleg (neu'ch darparwr hyfforddiant) a bydd CITB yn talu treuliau dros £20 y dydd. Fodd bynnag, chi fydd yn gyfrifol am gostau teithio i'ch gweithle ac oddi yno.

Telir holl ffioedd y coleg gan CITB.

Fel prentis, mae angen i chi wybod eich bod ar y trywydd iawn i gyflawni eich nodau gyrfaol.

Mae adolygiadau rheolaidd yn darparu cyfle i chi edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn eich hyfforddiant a bydd yn eich helpu i gynllunio ymlaen. Bydd eich swyddog prentisiaeth yn cynnal yr adolygiadau hyn gyda chi, eich tiwtor a'ch cyflogwr.

Mae'r adolygiadau'n edrych ar yr hyn rydych wedi'i gyflawni ac yn cofnodi sut rydych yn dod ymlaen â'ch hyfforddiant. Maent hefyd yn cynllunio'r hyn y dylech ei wneud cyn eich adolygiad nesaf ac yn nodi unrhyw gymorth y gallai fod arnoch ei angen i'ch helpu i gyflawni eich prentisiaeth.

Fe gewch y cyfle i drafod pob agwedd ar eich cynnydd gyda'ch swyddog prentisiaeth, eich tiwtor a'ch cyflogwr.
Cymorth Sgiliau Sylfaenol a Mentora

Mae'n rhaid i bob prentis gwblhau asesiad llythrennedd a rhifedd sylfaenol i ganfod ble y gallai fod arnynt angen cymorth ychwanegol i'w helpu gyda'u prentisiaeth. Os oes angen cymorth sgiliau sylfaenol, gellir ei gyflwyno:

  • Yn ffurfiol - gall eich coleg (neu'ch darparwr hyfforddiant) drefnu gwersi ychwanegol, cymorth un wrth un, darllenwyr ar gyfer profion neu amser ychwanegol i gwblhau profion
  • Yn anffurfiol - gall eich tiwtor eich cefnogi trwy wersi yn ôl yr angen gan eich swyddog prentisiaeth sydd hefyd ar gael i'ch cefnogi.

Mae CITB yn cydnabod bod eich lles bob amser yn hollbwysig ac mae gan bob prentis yr hawl i gael amddiffyniad cyfartal rhag pob math o niwed neu gam-drin.

Rydym yn diogelu prentisiaid trwy:

  • Eu gwerthfawrogi, gwrando arnynt, a'u parchu
  • Mabwysiadu Canllawiau Diogelu trwy weithdrefnau a Chod Ymddygiad ar gyfer staff
  • Recriwtio staff yn ddiogel trwy ddarparu Canllawiau Arfer Gorau i sicrhau y cynhwysir Diogelu yn y broses recriwtio a dethol
  • Rhannu gwybodaeth ynghylch pryderon ag asiantaethau sydd ei hangen, a chynnwys dysgwyr a'u rhieni/gofalwyr yn briodol.

Mae CITB yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl brentisiaid yn:

  • Cael amgylchedd dysgu diogel, yn y gweithle ac â cholegau/darparwyr hyfforddiant
  • Cael eu cynnwys wrth adolygu a gwella'n barhaus y gwasanaethau a ddarparwn.

Mae pob prentis yn cael cefnogaeth a chyfarwyddyd gan swyddog prentisiaeth dynodedig sydd â chyfrifoldebau dynodedig ym maes amddiffyn plant.