Facebook Pixel
Skip to content

eGyrsiau

I sefyll yr arholiad diwedd cwrs mae'n rhaid i chi gael mynediad at liniadur neu gyfrifiadur pen desg, ni ellir ei gymryd ar ffôn symudol neu lechen.

Dysgu ar eich cyflymder eich hun, unrhyw bryd, unrhyw le

Mae cyrsiau ar-lein yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i amser neu le cyfleus i fynychu cwrs hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth, naill ai'n bersonol neu o bell, ac mae astudio ar-lein yn golygu y gallwch chi ddysgu ar eich cyflymder eich hun, unrhyw bryd, unrhyw le.

Y cyfan sydd arnoch ei angen yw cyfrifiadur, mynediad i'r rhyngrwyd ac ychydig o oriau i astudio a sefyll yr arholiad.

Mae cychwyn arni mor hawdd ag 1, 2, 3

  1. Dewiswch eich cwrs a thalu ar-lein - gallwch brynu cwrs i chi'ch hun, neu gall cyflogwyr brynu taleb i weithwyr ei defnyddio pan fyddant yn barod i ddechrau'r cwrs.
  2. Creu cyfrif
  3. Mewngofnodi a dechrau'r hyfforddiant

Cofiwch: Cyflogwyr - peidiwch ag anghofio ychwanegu eich Rhif Lefi i allu hawlio grant ar gyfer cyrsiau sy'n gymwys i gael Grant.

Ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân mewn adeiladu a'r amgylchedd adeiledig

Mae’r cwrs lefel 1 (ymwybyddiaeth) hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu eu dealltwriaeth o ddiogelwch tân yn y gweithle, gyda ffocws penodol ar y diwydiant adeiladu.

Rhennir y cwrs yn 3 modiwl:

  • Deall tân
  • Canfod a diogelu
  • Dihangfa a chanlyniadau

Cost: AM DDIM

Gwybodaeth am y cwrs ymwybyddiaeth diogelwch tân mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig (PDF, 125KB)

Cofrestrwch ar gyfer eGwrs am ddim

Diogelwch tân mewn adeiladau

Datblygwyd y cwrs lefel 1 (ymwybyddiaeth) hwn mewn partneriaeth ag arbenigwyr Build UK a'r diwydiant tân ac fe'i cynlluniwyd i wella gwybodaeth unigolyn am fesurau diogelwch tân mewn adeiladau. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ym maes dylunio, adeiladu neu gynnal a chadw adeiladau, gyda ffocws penodol ar osodwyr.

Mae'r cwrs wedi'i rannu'n 5 modiwl:

  • Grenfell
  • Defnyddiau
  • Amddiffyn tân
  • Cymhwysedd
  • Arsefydliad

Mae'r ardystiad yn para 5 mlynedd.

Cost: AM DDIM

Gwybodaeth am gyrsiau diogelwch tân mewn adeiladau (PDF, 127KB)

Cofrestrwch ar gyfer eGwrs am ddim

Gwaith dros dro ymwybyddiaeth gyffredinol

Mae'r cwrs lefel 1 (ymwybyddiaeth) hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu eu dealltwriaeth o waith dros dro yn y diwydiant adeiladu.

Rhennir y cwrs yn 4 modiwl:

  • Trosolwg
  • Rheolaeth a chynllunio
  • Deddfwriaeth
  • Defnyddio gwaith dros dro

Cost: AM DDIM

Gwybodaeth cwrs ymwybyddiaeth gyffredinol gwaith dros dro (PDF, 228KB)

Cofrestrwch ar gyfer eGwrs am ddim

Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch (HSA)

Cymeradwywyd gan CSCS ar gyfer ceisiadau cerdyn llafurwyr. Gweler ein fideo byr ar sut i gwblhau'r cwrs.

I gyflogwyr: Taliad grant Haen 1 ar gael (£30)

Cost: £99.00

Gwybodaeth cwrs Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch (HSA) (PDF, 121KB)

Prynwch nawr neu prynwch y daleb

Gwybodaeth Pwysig

  1. Er y gall unigolion sefyll arholiadau rhwng 16 a 18 oed, mae yna rai rheolau i'w hystyried.
  2. Cyn sefyll arholiad, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y Cytundeb Rheolau i Ymgeisydd.