Ar gyfer beth y gallwch chi gael cyllid
Rydym yn cynnig cefnogaeth i ddiwydiant trwy ein grantiau a'n cronfeydd. Mae grantiau CITB yn ymdrin â hyfforddiant o ddydd i ddydd ac mae ein cronfeydd yn ymdrin â phrosiectau a chomisiynau penodol.
Grantiau
Mae ein grantiau'n cefnogi cyflogwyr sy'n darparu hyfforddiant o ddydd i ddydd i'w gweithlu.
Mae ein grantiau'n cyfrannu at gost hyfforddi a chymhwyso'ch gweithlu mewn pynciau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ar draws y tri chategori canlynol:
Gweld mwy am sut mae grantiau CITB yn gweithio
Cronfeydd
Rydym yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau penodol sy'n ymwneud â gyrfaoedd, arloesi a hyfforddiant. Os gallwch chi ddarparu cynllun i ni ar gyfer eich anghenion hyfforddi, neu os oes gennych chi syniad am brosiect i wella perfformiad i'ch gweithwyr neu'r diwydiant cyfan, efallai y byddwn ni'n gallu helpu trwy ein cronfeydd:
- Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant
Hyd at £10m ar gyfer sgiliau a hyfforddiant ar gyfer cyflogwyr bach neu ficro- a hyd at £25m ar gyfer cyflogwyr canolig. - Cronfa datblygu arweinyddiaeth a rheoli
Cyllid ar gael i gyflogwyr adeiladu mawr (gyda mwy na 250 o staff a gyflogir yn uniongyrchol) i wella sgiliau arwain a rheoli.