Facebook Pixel
Skip to content

Polisi Preifatrwydd

Mae CITB wedi'i ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a sicrhau na chaiff unrhyw wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch ei chamddefnyddio.

Mae'r polisi hwn yn esbonio pa wybodaeth a gasglwn, sut a pham rydym yn ei defnyddio, sut rydym yn ei chadw'n ddiogel, a beth yw'ch hawliau.

Trwy ddefnyddio ein gwefannau, gwasanaethau a chynhyrchion, rydych chi'n cytuno i'r ffordd rydym yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn unol â thelerau'r polisi preifatrwydd hwn.

  • Ynglŷn â ni a'r polisi hwn
  • Sut rydym yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth
  • Eich hawliau
  • Ein cynhyrchion a gwasanaethau>

Ynglŷn â ni a'r polisi hwn

Ni yw Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (rhif 264289) ac yn yr Alban (rhif SC044875).

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon ynghylch agwedd ar y polisi hwn neu unrhyw broblem ynghylch preifatrwydd neu ddiogelu data, anfonwch neges e-bost at ein Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn  neu ysgrifennwch at:

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
CITB
Sand Martin House
Bittern Way
Peterborough
PE2 8TY

Ein Swyddog Diogelu Data yw Matt Smith, y gallwch gysylltu ag ef yn  neu drwy ysgrifennu at y cyfeiriad uchod.

Mae'r 8 egwyddor hyn yn crynhoi ein hymrwymiad i ddiogelu'ch preifatrwydd:

  • Rydym ond yn casglu ac yn defnyddio'r wybodaeth bersonol sydd arnom ei hangen i ddarparu neu wella ein cynhyrchion a'n gwasanaethau
  • Gallwch wirio pa wybodaeth bynnag sydd gennym amdanoch chi
  • Byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel
  • Rydym yn deg ac agored ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'ch manylion
  • Ni fyddwn ni byth yn gwerthu'ch manylion na'u rhannu heblaw am y ffyrdd a grybwyllir yn y polisi hwn neu oni bai eich bod yn gofyn i ni
  • Byddwn ni'n rhoi gwybod ichi os oes newidiadau pwysig sy'n effeithio ar eich gwybodaeth neu sut rydym yn ei defnyddio
  • Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi
  • Dim ond am gymaint o amser ag y bo angen y byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth.

Pan fyddwn ni'n adolygu ein polisi preifatrwydd, byddwn ni'n nodi'r dyddiad y cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf a cheisio rhoi gwybod i chi trwy e-bost, os yw gennym, am unrhyw newidiadau.

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei adolygu a'i ddiweddaru ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2018

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys:

  • Deddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982 ac unrhyw Orchymyn Ardoll perthnasol
  • Deddf Diogelu Data 1998 (DPA)
  • Cyfarwyddeb Diogelu Data yr UE 95/46/EC
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
  • Rheoliadau Telathrebu (Arfer Busnes Cyfreithlon) (Rhyng-gipio Cyfathrebiadau) 2000
  • Cyfarwyddeb Diogelu Data Cyfathrebiadau Electronig 2002/58/EC
  • Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb CE) 2003
  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ((UE) 2016/679) (GDPR) fel y'i cyflwynwyd i gyfraith genedlaethol ar 25 Mai 2018
  • Yr holl ddeddfau, rheoliadau ac is-ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â phrosesu data personol a phreifatrwydd
  • Cyfarwyddyd a chodau ymarfer a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth
  • Unrhyw ddeddfwriaeth olynol i'r DPA a GDPR.

Sut rydym yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth

Rydych chi'n rhoi gwybodaeth inni pan ddefnyddiwch ein gwefannau, ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, gan gynnwys pan fyddwch chi'n: 

  • Cyflwyno un o'n ffurflenni
  • Gohebu â ni dros y ffôn, trwy e-bost neu fel arall
  • Cofrestru â ni
  • Tanysgrifio i'n gwasanaethau
  • Chwilio am gynnyrch
  • Cymryd rhan yn ein byrddau trafod, sgwrsio neu gyfryngau cymdeithasol
  • Cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu hyrwyddiad
  • Ymateb i arolwg.

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn ymweld â'n gwefannau trwy ddefnyddio cwcis (darllenwch yr adran Cwcis isod i gael manylion llawn).

Efallai y byddwn ni hefyd yn cael gwybodaeth gan ffynonellau eraill, gan gynnwys:

  • Trydydd partïon, megis sefydliadau hyfforddi allanol
  • Y gwefannau a gwasanaethau hynny rydym yn eu helpu i weithredu neu'n cyfrannu atynt 
  • Teledu cylch cyfyng (CCTV) (darllenwch yr adran CCTV isod am fanylion llawn).

Gallai'r wybodaeth a gasglwn ni gennych gynnwys eich:

  • Enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Gwybodaeth ariannol a gwybodaeth ynghylch cardiau credyd
  • Disgrifiad personol
  • Ffotograff
  • Statws teuluol
  • Ffordd o fyw
  • Amgylchiadau cymdeithasol
  • Cyfeiriad IP
  • Lleoliad daearyddol
  • Math o borwr
  • Matho ddyfais
  • System weithredu
  • Data pori, fel amseroedd mynediad
  • Hanes llywio.

Efallai y bydd gennym wybodaeth sensitif hefyd, gan gynnwys ynghylch eich:

  • Iechyd corfforol
  • Iechyd meddyliol
  • Tarddiad hiliol neu ethnig
  • Credau crefyddol neu eraill.

Defnyddiwn ni'ch gwybodaeth at lawer o ddibenion, gan gynnwys:

  • Cyflawni ein rolau, ein dyletswyddau a swyddogaethau statudol fel bwrdd hyfforddi diwydiannol
  • Gweinyddu ein cofnodion a chyfrifon aelodaeth, gan gynnwys codi ardoll
  • Codi arian a hyrwyddo ein buddiannau
  • Rheoli ein cyflogeion a gwirfoddolwyr
  • Darparu gwasanaethau addysg, hyfforddiant, ymwybyddiaeth yrfaol a chyngor i'n buddiolwyr
  • Darparu gwasanaethau addysg, hyfforddiant, ymwybyddiaeth yrfaol a chyngor i'n buddiolwyr
  • Hysbysebu, hyrwyddo a marchnata ein gwasanaethau
  • Ymgymryd ag ymchwil
  • Gweinyddu cynlluniau ardystio, cymhwyso a cherdyn
  • Cyflawni ein dyletswyddau fel rheolwr data cofrestredig ac awdurdod cyhoeddus
  • Cadarnhau hunaniaeth ac atal troseddu
  • Cynnal ein rhwymedigaethau diogelu ar gyfer dysgwyr, gweithwyr ac ymwelwyr
  • Eich hysbys am newid i'n gwasanaeth
  • Cynnal ein rhwymedigaethau contractiol
  • Darparu a gwella ein gwasanaethau
  • Dadansoddi'ch ymddygiad ar wefannau
  • Gwella gweithrediad, diogelwch a chyflwyniad ein gwefannau
  • Targedu ein hysbysebion ar-lein i'ch diddordebau a dewisiadau
  • Mesur a deall effeithiolrwydd ein cynnwys a marchnata ar-lein
  • Eich galluogi i gymryd rhan mewn nodweddion rhyngweithiol ar ein gwefan.

Sut rydym yn ei chadw'n ddiogel

Rydym yn cymryd diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn ddifrifol iawn. 

Rydym yn defnyddio mesurau technegol, megis amgryptio, ac rydym yn cynnal adolygiadau diogelwch rheolaidd i gadw ein diogelwch yn gyfredol. Rydym hefyd yn rheoli mynediad yn llym ac yn sicrhau bod staff sydd â hawl i gael mynediad wedi'u hyfforddi'n ddigonol i gadw'ch gwybodaeth yn ddiogel. 

Mae ein gweithdrefnau'n golygu y gallwn ni ofyn ichi brofi'ch hunaniaeth cyn i ni rannu'ch gwybodaeth bersonol gyda chi.

Bydd gan wefannau trydydd parti y byddwch yn eu cyrchu trwy ddolenni ar ein gwefannau eu polisïau preifatrwydd eu hunain. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nag atebolrwydd amdanynt.

Nid ydym yn rhannu'ch gwybodaeth gydag eraill oni bai eich bod wedi cydsynio neu fod angen gwneud hynny oherwydd:

  • Ein rôl a dyletswyddau statudol fel bwrdd hyfforddi diwydiannol
  • Mae'r gyfraith yn ei wneud yn ofynnol i ni
  • Anghenion gweinyddol neu weithredol
  • Mae'n rhan o'n telerau defnydd.

Pan fydd rhaid i ni rannu gwybodaeth, mae'n debygol y bydd ag/â:

  • Ein darparwyr gwasanaeth neu asiantau
  • Eich cyflogwr neu ddarpar gyflogwyr
  • Defnyddwyr ein cynlluniau cerdyn a chofrestrau hyfforddi
  • Darparwyr hyfforddiant
  • Cyrff cyllido
  • Asiantaethau gorfodi'r gyfraith.
  • Gweithwyr proffesiynol meddygol.

Rhannu'ch cyflawniadau

Efallai y byddwn ni am rannu'ch cyflawniadau achrededig gan CITB â phapurau newydd, gwefannau a chyfryngau eraill. Cysylltwch â ni ar 0344 994 4333 neu  os byddai'n well gennych inni beidio â gwneud hynny.

Rydym yn recordio galwadau ffôn rydym yn eu gwneud neu'n eu derbyn ar gyfer hyfforddiant, sicrwydd ansawdd ac i'n helpu ni i ddelio ag ymholiadau, er enghraifft, lle efallai y bydd angen i ni gadarnhau manylion sgwrs flaenorol. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os ydym yn cofnodi.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn nodi galwadau a recordiwyd gan ddefnyddio'r rhif ffôn gwreiddiol ac amser a dyddiad yr alwad. Gall recordiad gynnwys eich gwybodaeth bersonol yn ymwneud â'r cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigiwn. Efallai y byddwn ni’n gofyn i chi am wybodaeth bersonol dros y ffôn i gadarnhau eich hunaniaeth, yn dibynnu ar natur eich ymholiad, er mwyn atal twyll ac amddiffyn eich data. Rydym yn defnyddio swyddogaeth 'oedi ac ailddechrau' fel nad ydym yn recordio unrhyw ran o'ch galwad sy'n cynnwys manylion talu.  

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Rydym yn cadw galwadau a recordiwyd yn ddiogel, a dim ond staff CITB penodol, neu staff penodol proseswyr wedi’u penodi gan CITB, sydd wedi'u hawdurdodi i'w hadolygu. Rydym yn contractio cwmni i gynnal recordio galwadau a swyddogaeth 'oedi ac ailddechrau'. Mae'r cwmni wedi'i awdurdodi i gyrchu galwadau a recordiwyd dim ond ar gyfer dibenion diagnosio diffygion, profi a gweinyddu.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn dileu galwadau a recordiwyd ar ôl 24 mis, oni bai eu bod yn rhan o ymchwiliad gweithredol.

Weithiau gallem drosglwyddo'ch manylion i drydydd partïon y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Os bydd hyn yn digwydd, byddwn ni'n sicrhau bod trosglwyddo a storio'ch gwybodaeth yn dal i gydymffurfio â deddfau'r DU neu'r EEA a'r polisi preifatrwydd hwn. 

Ffeiliau bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich dyfais gan y gwefannau rydych yn ymweld â nhw neu e-byst penodol rydych yn eu hagor. Maent yn helpu gwefannau i fod yn fwy hygyrch a gweithio’n iawn, yn ogystal â rhoi gwybodaeth farchnata a busnes a helpu CITB i deilwra’ch profiad o ddefnyddio ei wefannau.

Gallwch reoli cwcis drwy fynd i osodiadau'ch porwr. I gael gwybod sut mae CITB yn defnyddio cwcis a sut i'w rheoli, gweler Polisi Cwcis CITB.

Mae sawl ffordd y gallwch gyfathrebu â ni ar-lein, gan gynnwys:

  • Sgwrsio a negeseua gwib (fel Skype ar gyfer Busnes)
  • E-bost
  • Cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook, Yammer neu Twitter)
  • Fideogynadledda (fel GoToMeeting)
  • Platfformau rhannu ffeiliau (fel OneDrive a SharePoint)

Yr hyn a wnawn

Pan fyddwch yn defnyddio e-bost, sgwrsio, cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein eraill, mae'n debygol eich bod chi'n gwybod pa wybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni.

Mae'r modd rydym yn defnyddio a phrosesu'ch gwybodaeth, pwy sy'n ei chyrchu, a faint o amser rydym yn ei chadw, yn dibynnu ar y cyd-destun y gwnaethom ei chasglu, ond mae'n dilyn telerau ein polisi preifatrwydd a chyfraith y DU.

Fel rheol, mae ein staff awdurdodedig yn ymdrin â'r wybodaeth, ond os ydym yn bwriadu ei rhannu â thrydydd partïon, gwnawn bob ymdrech i roi gwybod ichi. 

Mae delweddau gan deledu cylch cyfiyg (CCTV) o unigolyn y gellir ei adnabod yn cael eu trin fel data personol yn ôl cyfraith ddiogelu data.

Sut rydym yn defnyddio CCTV

Rydym yn defnyddio CCTV i:

  • Gynnal diogelwch a diogeledd ein heiddo, safleoedd, a phobl
  • Atal ac ymchwilio i droseddau
  • Monitro staff
  • Cynorthwyo gweithdrefnau disgyblu mewn achosion o gamymddygiad difrifol.

Ble rydym yn defnyddio CCTV

Mae CCTV yn cael ei ddefnyddio yn lleoliadau ein swyddfeydd, sef;

  • Bircham Newton - Kings Lynn Norfolk PE31 6RH
  • Glasgow - 4 Fountain Avenue, Inchinnan, Renfrewshire, PA4 9RQ
  • • Pen-y-bont Ar Ogwr - Unedau 4 a 5, Canolfan Fusnes Pen-y-bont Ar Ogwr, David Street, Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont Ar Ogwr Pen-y-bont Ar Ogwr, CF31 3SH
  • Caint - Manor Road, Erith, Caint, DA8 2AD
  • Birmingham - 83 Lifford Lane, King’s Norton, Birmingham, B30 3JH
  • Llundain - 12 Carthusian Street, Llundain, EC1M 6EZ
  • Caerlŷr - Unedau 1 a 2, 674 Melton Road, Thurmaston, Swydd Gaerlŷr, LE4 8BB
  • Llundain (Waltham forest) - Hollydown Way, Leytonstone, Llundain, E11 4DD

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Gweithredir ein system CCTV o ystafell reoli diogelwch hunangynhaliol, y mae mynediad ati wedi'i gyfyngu i'r goruchwyliwr diogelwch, staff diogelwch contract, Rheolwr Ystadau a Chyfleusterau CITB, Swyddog Cydymffurfio Contractau Ystadau CITB, a Derbynnydd CITB.

Lle bo angen, efallai y byddwn ni'n rhannu gwybodaeth delwedd CCTV â/ag:

  • Yr unigolyn yn y ddelwedd
  • Cyflogeion ac asiantau
  • Darparwyr gwasanaethau
  • Heddluoedd
  • Sefydliadau diogelwch
  • Unigolion sy'n gwneud ymholiad.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Oni bai fod arnom eu hangen ar gyfer ymchwiliad gweithredol, rydym yn cadw delweddau sydd wedi'u recordio am 30 diwrnod. Wedi hynny, mae'r delweddau'n cael eu trosysgrifio'n awtomatig gan y cyfarpar recordio.

Rydym yn dinistrio recordiadau sy'n rhan o ymchwiliad gweithredol cyn gynted ag nad oes eu hangen mwyach.

Eich hawliau

Gallwch ofyn am gopi o'ch gwybodaeth a recordiwyd gan CCTV, ac eithrio o dan rai amgylchiadau a ddisgrifir gan ddeddfwriaeth berthnasol. Nid oes gennych yr hawl i fynediad di-oed.

Rydym yn defnyddio'ch manylion talu i brosesu archebion, casglu taliadau ardoll a dosbarthu arian, megis grantiau hyfforddi.

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Nid ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth at unrhyw ddiben nad ydych wedi'i awdurdodi, nac yn ei ddatgelu i drydydd parti heb eich caniatâd. Rydym yn prosesu trafodion cerdyn credyd a debyd gan ddilyn Safon Diogelwch Data Cerdyn Talu'r Diwydiant (PCI DSS ).

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Mae gan staff CITB a phroseswyr data dan gontract fynediad at eich manylion talu i gynnal eich trafodiad. 

Yr hyn a wnawn

Ar gyfer trafodion cyfrif banc a chymdeithas adeiladu, efallai y byddwn ni'n gwneud cofnod o'ch:

  • Enw
  • Cyfeiriad cangen
  • Cod didoli
  • Rhif cyfrif
  • Llofnod

Lle bo modd, byddwn ni ond yn storio cod dilysu trafodion cerdyn a data arall sydd ei angen i ni brosesu'r taliad unwaith y bydd y trafodiad wedi'i gwblhau. Lle nad yw hyn yn ymarferol, rydym yn defnyddio dulliau diogelwch eraill i gadw'ch data yn ddiogel. Gallem brosesu data megis:

  • Enw deiliad y cerdyn
  • Rhif y cerdyn
  • Cod diogelwch y cerdyn (CSC)
  • Dyddiadau dilysrwydd a dod i ben
  • Rhif cyhoeddi

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn cadw manylion eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu cyn belled â'ch bod yn awdurdodi a'u dileu pan nad oes eu hangen mwyach. Nid ydym yn cadw gwybodaeth gerdyn talu.

Nid yw ein gwefannau, gwasanaethau a chynhyrchion wedi'u hanelu at blant ac nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth ganddynt yn fwriadol.

Gofynnwn i blant beidio â chofrestru â ni neu roi unrhyw wybodaeth i ni.

Pan fyddwn ni wedi casglu gwybodaeth gan blentyn yn anfwriadol, byddwn ni'n ei dileu cyn gynted ag y bo modd.

Os ydych chi'n gwybod bod plentyn wedi rhoi eu gwybodaeth i ni, cysylltwch â ni yn .

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i:

  • Ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi
  • Tynnu'n ôl unrhyw ganiatadau a roddwyd gennych
  • Cyflwyno cwyn i ni neu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth  neu i unrhyw awdurdod goruchwylio perthnasol arall ynglŷn â sut rydym yn trin eich data personol
  • Gofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi
  • Gofyn i ni ddileu eich gwybodaeth o'n cofnodion
  • Gofyn i ni anfon copi o'ch gwybodaeth i drydydd parti mewn fformat data cludadwy.

Gallwch newid eich dewisiadau cysylltu neu dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu atom yn  or:

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
CITB
Bircham Newton
King’s Lynn
Norfolk
PE31 6RH

I weld y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, dylech wneud Cais Mynediad Pwnc yn ysgrifenedig, gan gynnwys eich:

  • Enw llawn, gan gynnwys enwau blaenorol neu enwau eraill, os yw'n briodol
  • Cyfeiriad
  • Ffôn
  • Rhif cofrestr unigryw neu rifau adnabod CITB, os yw'n briodol
  • Dyddiad geni, os nad oes gennych rif cofrestru unigryw

a'i anfon at:

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
CITB
Bircham Newton
King’s Lynn
Norfolk
PE31 6RH

Ein cynhyrchion a gwasanaethau

Rydym yn rheoli system archebu ar gyfer cyrsiau hyfforddi adeiladu. 

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth 

Rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth i ddod o hyd i'r cwrs, lleoliad ac, os yw'n briodol, llety cywir, i gyflwyno'r cwrs, ac i brosesu'ch archeb. 

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Mae gan gyflogeion CITB sy'n gweithredu system archebu'r cwrs neu sy'n darparu hyfforddiant fynediad.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn defnyddio'ch:

  • Manylion cyswllt i weinyddu'r cwrs
  • Gwybodaeth adnabod i atal twyll
  • Data proffil fel y gwyddom eich dewisiadau cysylltu ac ati.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn cadw'ch gwybodaeth broffil am ddim mwy na 6 blynedd o'r dyddiad y gwnaethoch chi drefnu'ch archeb ddiwethaf, ac rydym yn dileu gwybodaeth am y cyrsiau a fynychwyd gennych ar ôl 6 blynedd.

Rydym yn dileu gwybodaeth archebu llety 12 mis ar ôl eich dyddiad ymadael.

Mae gennym bwerau statudol i gasglu ardoll (Yr Ardoll Hyfforddiant Diwydiannol) gan gyflogwyr adeiladu i gyllido hyfforddiant fel bod gan y sector y gweithlu medrus sydd arno ei angen.

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn cadw cofrestr o gyflogwyr adeiladu, yr hyn rydym yn ei defnyddio i gasglu'r ardoll o'r rhai y mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith iddynt ei thalu.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Mae mynediad gan staff CITB a phroseswyr data dan gontract yn unig.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn defnyddio'ch:

  • Manylion cyswllt i ofyn i chi gadarnhau ein cofnodion amdanoch chi, i brosesu'ch asesiad ardoll, i gyhoeddi hysbysiad casglu ardoll ac i brosesu'ch taliad
  • Manylion cyflogwr i benderfynu a ydych chi'n gymwys i dalu'r ardoll
  • Data proffil fel y gwyddom eich dewisiadau cysylltu ac ati.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn dinistrio Cofnodion Ardoll ar ôl 7 mlynedd.  Rydym yn cadw'ch data proffil am 7 mlynedd ar ôl nad ydych chi neu'ch cwmni'n gorfod cwblhau Ffurflen Ardoll bellach.

Cronfa ddata ar-lein yw'r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu sy'n dangos pwy sydd wedi ennill cyraeddiadau a chymwysterau hyfforddiant cysylltiedig â gwaith adeiladu. 

Gall cyflogwyr chwilio'r gofrestr i wirio sgiliau a rheoli eu hanghenion hyfforddi.

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth 

Defnyddiwn eich gwybodaeth i gyflawni ein rôl statudol fel bwrdd hyfforddi diwydiannol. Mae hyn yn cynnwys cynnal cofnod o'ch cyraeddiadau a'ch cymwysterau hyfforddi â Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO). 

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Gall staff CITB, eich cyflogwr wrth archebu lle ichi ar gwrs hyfforddi, a'r ATO perthnasol gael mynediad i'ch cofnodion.

Gall unrhyw un sydd â'ch enw ac o leiaf un darn arall o data adnabod sy'n unigryw i chi, megis eich Rhif Dysgwr Unigryw neu Fodd Adnabod Unigol CITB gyrchu'ch cofnodion.  

Yr hyn a wnawn

Rydym yn defnyddio'ch:

  • Manylion cysylltu i ofyn i chi gadarnhau ein cofnodion amdanoch chi
  • Gwybodaeth adnabod i atal twyll
  • Gwybodaeth am gyflawniad i wirio bod gennych yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y diwydiant adeiladu
  • Data proffil fel y gwyddom eich dewisiadau cysylltu. 

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Efallai y byddwn ni'n cadw a defnyddio'ch data personol am gymaint o amser â bod arnom ei angen i ni gyflawni ein swyddogaethau statudol.

Rydym yn cadw cofnod o'ch cyflawniadau am hyd at 50 mlynedd, ac eithrio lle mae'r cyflawniad ar gyfer bywyd. 

Rydym yn rheoli nifer o gynlluniau cerdyn, sy'n helpu i sicrhau diogelwch a hyfedredd gweithlu adeiladu'r DU. Trwyddynt, mae'n bosibl gwirio hunaniaeth a chyflawniadau neu gymwysterau rhywun.

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn cofnodi cyflawniadau achrededig a gewch chi mewn cronfa ddata, y gall ein staff gael mynediad ati am y cynlluniau cerdyn. Gall unrhyw un a all ddarparu gwybodaeth chwilio penodol i ni amdanoch chi (megis eich Rhif ID Unigol neu Rif Cofrestru CITB, rhif Yswiriant Gwladol a manylion personol eraill), wirio'ch hunaniaeth a chyflawniadau achrededig CITB gan ddefnyddio:

  • Ein Gwiriwr Cerdyn Ar-lein
  • Ein gwasanaeth dilysu ffôn
  • Darllenwyr cerdyn lleol i weld gwybodaeth a gedwir ar y cerdyn
  • Rhyngwyneb rhaglen gais (API) a roddwn ni i gyflogwyr awdurdodedig fel y gallant wirio'ch cyflawniadau gan eu systemau TG eu hunain.

Mae chwiliad llwyddiannus yn dychwelyd y wybodaeth ddilynol amdanoch chi:

  • Rhif cofrestru CITB
  • Cyfenw a'r flaenlythyren gyntaf
  • Ffoto
  • Aelodaethau
  • Pasiau prawf iechyd a diogelwch
  • Cyrsiau

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Mae gan unrhyw un sydd â'r wybodaeth chwilio gywir amdanoch chi fynediad. Fel arfer hyn yw:

  • Ein staff sy'n prosesu'ch gwybodaeth i redeg y cynlluniau cerdyn a chyrsiau llyfr
  • Sefydliadau rydym yn rhedeg cynlluniau cerdyn ar eu rhan
  • Gweinyddwyr safleoedd adeiladu
  • Cyflogwyr
  • Eich teulu neu ffrindiau.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn defnyddio'ch:

  • Manylion cysylltu i ofyn i chi gadarnhau ein cofnodion amdanoch chi
  • Gwybodaeth adnabod i atal twyll
  • Gwybodaeth am gyflawniad i wirio bod gennych yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y diwydiant adeiladu
  • Data proffil fel y gwyddom eich dewisiadau cysylltu ac ati.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth am ddim mwy na 50 mlynedd o ddyddiad dod i ben eich cyflawniad diwethaf.

Rydym yn darparu grantiau a chyllid arall i hyrwyddo gyrfaoedd a chefnogi cyflogwyr, ffederasiynau, cymdeithasau masnach a grwpiau hyfforddi yn y diwydiant adeiladu yn y DU.

Sut rydym yn casglu'ch gwybodaeth

Gall cyflogwyr, ffederasiynau, cymdeithasau masnach a grwpiau hyfforddi fynegi diddordeb neu wneud cais am gyllid trwy ffurflen ar ein gwefan. Rydym yn storio'r wybodaeth hon mewn cronfa ddata ddiogel nas rhennir â thrydydd partïon. 

Yr hyn a gasglwn ni

Mae'r wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar y math o gais am gyllid a gyflwynir, ond gallai gynnwys:

  • Sefydliad
  • Cymhwysedd am gyllid
  • Opsiwn cyllido
  • Manylion sylfaenol y cwmni
  • Manylion Cyswllt
  • Manylion partneriaeth
  • Manylion y prosiect
  • Darpariaethau a buddiolwyr
  • Tystiolaeth o angen.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Dim ond ein staff a phroseswyr data dan gontract sydd â mynediad at y wybodaeth.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn cadw'ch gwybodaeth am o leiaf 7 mlynedd, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth gyfrifyddu, ac am fwy o amser os oes ei hangen gan yr awdurdod cyllido.

Rydym yn darparu 3 gwefan e-fasnach i werthu ein cynhyrchion ar-lein:

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Defnyddiwn eich gwybodaeth i brosesu'ch archeb. Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt a'ch taliad.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Mae ein staff prosesu archebion yn derbyn manylion ynghylch yr holl archebion. Mae staff a systemau â Pearson VUE yn defnyddio'ch data i brosesu'ch archeb. Efallai y byddwn ni'n trosglwyddo'ch manylion at Promotional Logistics Ltd , ein partner cyflawni. 

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn cadw gwybodaeth archebu am 2 flynedd, a gwybodaeth ariannol am 7 mlynedd.

Mae prawf Iechyd, diogelwch a'r amgylchedd CITB yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant. 

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn cofnodi'ch gwybodaeth adnabod, manylion cyswllt, a chanlyniadau HS&E mewn cronfa ddata y gall ein staff ei chyrchu er mwyn profi gweinyddu ac i ddilysu a ydych chi'n gymwys i dderbyn hyfforddiant neu ardystiad ychwanegol.  I gyflawni'r prawf, mae CITB yn defnyddio darparwyr prawf trydydd parti gan gynnwys Pearson VUE, a Chanolfannau Prawf Rhyngrwyd trydydd parti.  Efallai y bydd canlyniadau'ch prawf hefyd yn cael eu trosglwyddo i gynlluniau cerdyn cymhwysedd trydydd parti i ganiatáu iddynt brosesu eich cais am gerdyn.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

  • Ein staff sy'n prosesu'ch gwybodaeth
  • Staff Pearson VUE sy'n cyflwyno ac yn goruchwylio'r prawf
  • Y Ganolfan Brawf Rhyngrwyd lle gwnaethoch sefyll eich prawf
  • Darparwyr cynlluniau cerdyn cymhwysedd
  • Efallai y bydd eich cyflawniadau hefyd ar gael trwy Ein Gwiriwr Cerdyn Ar-lein neu'r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu

Yr hyn a wnawn

Rydym yn defnyddio'ch:

  • Manylion cysylltu i ofyn i chi gadarnhau ein cofnodion amdanoch chi
  • Gwybodaeth adnabod i atal twyll
  • Gwybodaeth am gyflawniad i wirio bod gennych yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y diwydiant adeiladu
  • Data proffil fel y gwyddom eich dewisiadau cysylltu ac ati.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth am ddim mwy na 50 mlynedd o ddyddiad dod i ben eich cyflawniad diwethaf.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau adeiladu ledled Prydain Fawr.

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni i ddeall eich nodau gyrfaol ac anghenion datblygu, fel y gallwn ni'ch rhoi â'r coleg a'r cyflogwr cywir.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Ni chaiff eich data ei rannu â sefydliadau allanol heblaw'r rhai sy'n gysylltiedig â'ch lleoliad, gan gynnwys asiantaethau cyllido, darpar gyflogwyr a cholegau a'r rhai presennol.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn defnyddio'ch:

  • Manylion cyswllt i ofyn i chi gadarnhau ein cofnodion amdanoch chi a phrosesu eich cais am brentisiaeth
  • Gwybodaeth adnabod i atal twyll
  • Gwybodaeth am gyflawniad i wirio bod gennych yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y diwydiant adeiladu
  • Data proffil fel y gwyddom eich dewisiadau cysylltu ac ati.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Efallai y byddwn ni'n cadw'ch data personol am gymaint o amser â bod arnom ei angen i ni gyflawni ein swyddogaethau statudol.

Rydym yn cadw cofnodion cwrs prentisiaeth am o leiaf 6 blynedd. Gall darparwyr cyllid sy'n sybsideiddio prentisiaeth nodi bod angen iddynt gadw cofnodion am fwy o amser.

Rydym yn cadw cofnod o'ch cyflawniadau am hyd at 50 mlynedd, ac eithrio lle mae'r cyflawniad am oes. 

Mae SkillBuild yn gystadleuaeth sgiliau ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid yn y diwydiant adeiladu, a allant gymryd rhan ynddi trwy ddarparu eu manylion trwy ein gwefan. 

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Defnyddiwn eich gwybodaeth i weinyddu a gwella'r gystadleuaeth. Efallai y byddwn ni hefyd yn cysylltu â chi am eich caniatâd i gymryd rhan yn y gweithgarwch hyrwyddol ar gyfer SkillBuild, megis astudiaethau achos a blogiau.

Rydym yn storio'ch gwybodaeth mewn cronfa ddata ddiogel nas rhennir â thrydydd partïon heb eich caniatâd.  

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Mae mynediad gan staff CITB a phroseswyr data dan gontract sydd angen y wybodaeth i weinyddu'r gystadleuaeth.

Yr hyn a gasglwn ni

Gall yr hyn a gasglwn ni gynnwys eich:

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth ddeietegol
  • Maint dillad
  • Ethnigrwydd
  • Gwybodaeth am anabledd
  • Cymwysterau.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn cadw'ch gwybodaeth tan 28 Chwefror yn y flwyddyn yn dilyn eich cofrestriad, ac eithrio canlyniadau cystadleuaeth, y byddwn ni'n eu cadw nes nad ydynt bellach yn angenrheidiol i gadw cofnodion ar gyfer cyflawnwyr y gorffennol ac i olrhain cynnydd trwy gylchoedd cystadleuaeth. 

Rydym yn cynnal a chomisiynu ymchwil a dadansoddiad o'r sector diwydiant adeiladu i'w helpu i wella a llwyddo, fel yr awdurdodwyd gan Ddeddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982.

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Lle bo'n bosibl, defnyddiwn wybodaeth ddienw na ellir ei chysylltu â chi, neu wybodaeth ffugenwol sy'n disodli'ch enw neu ddata adnabod arall â rhywbeth arall i'w wneud yn amhosib i'ch adnabod chi.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Mae mynediad gan staff CITB a phroseswyr data dan gontract sy'n gwneud ymchwil i ni. Efallai y byddwn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth â chwsmeriaid a chleientiaid, asiantau, darparwyr gwasanaethau, a sefydliadau arolygu ac ymchwilio os oes angen.

Yr hyn a wnawn

Efallai y byddwn ni'n defnyddio unrhyw wybodaeth a gasglwyd amdanoch chi ar ein gwefannau, cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer ein hymchwil, gan gynnwys eich:

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Statws teuluol
  • Ffordd o fyw
  • Amgylchiadau cymdeithasol
  • Manylion ariannol
  • Diddordeb yn ein nwyddau a gwasanaethau neu ddefnydd ohonynt.

Efallai y byddwn ni hefyd yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o arolygon, a allai fod yn sensitif, gan gynnwys eich:

  • Iechyd corfforol
  • Iechyd meddyliol
  • Tarddiad hiliol neu ethnig
  • Credau crefyddol neu eraill.

Am faint o amser rydym yn ei chadw

Rydym yn cadw gwybodaeth ymchwil yn unol â deddfwriaeth diogelu data.