Facebook Pixel
Skip to content

Bovey Construction yn gweld gwelliannau o hyfforddiant a ariennir

"Fe wnaeth hyfforddiant godi sgiliau a darparu gwelliannau ar unwaith"

Roedd gan Bovey Construction uchelgeisiau i redeg busnes diwastraff, effeithlon.

Wedi'i leoli yn Nyfnaint, mae Bovey yn arbenigo mewn prosiectau cymhleth o ansawdd uchel ac yn cyflogi dros 30 o weithwyr proffesiynol ym maes adeiladu. Roedd eisiau cynyddu proffidioldeb trwy gynllunio'n well, gan leihau gwastraff a diffygion.

Derbyniodd Bovey £3,857 gan CITB i hyfforddi staff ar yr heriau hyn trwy fynychu cymysgedd o fodiwlau dosbarth a safle - gan gynnwys "Systemau Rheoli Data a Gweledol" a "Datrys Problemau a Gwelliant Parhaus" - gwnaeth staff Bovey welliannau cyflym ymhob ardal.

"Cododd hyfforddiant sgiliau ein staff yn ein swyddfa a'n staff ar safle a gwnaeth gwelliannau i'r feysydd a dargedwyd ar unwaith," meddai Emma Hudson, Rheolwr Swyddfa.

"Roedd hyfforddiant hefyd wedi arwain at well perthynas ag isgontractwyr; cynnydd ym morâl ein staff ynghyd â'u creadigrwydd a rhyngweithio staff"

Adeiladu di-wastraff

Dywedodd Emma fod hyfforddiant a ariannwyd gan CITB wedi "Gwella" ymwybyddiaeth Bovey o adeiladu diwastraff :"yn fawr iawn" Egwyddor adeiladu diwastraff yw craffu ar y prosesau gwaith presennol a chael gwared ar y gwastraff sy'n atal gwerth rhag cael ei ddarparu'n effeithiol.

Meddai Emma: "Roeddem yn awyddus iawn ynghylch egwyddorion adeiladu diwastraff er budd ein cwmni, ein hamgylchedd gwaith a'n datblygiad personol.

"Rhoddodd hyfforddiant ddealltwriaeth gynhwysfawr ac esiampl ymarferol o ddulliau a manteision troi at adeiladu diwastraff dros amserlen fer"

Gan fod CITB wedi ariannu'r hyfforddiant, mae Bovey wedi ymgymryd â rhaglen ddatblygu ar gyfer gwelliant parhaus sydd wedi'i ymgorffori yng nghyd-destun diwylliant gwaith y cwmni.

Meddai Emma: "Bydd gweithwyr newydd yn cael eu cyflwyno i ddiwylliant cwmni y gallan afael ar a'i dderbyn fel y gweithdrefnau arferol o weithio effeithiol ac economaidd."

"Roedd hyfforddiant a ariannwyd gan CITB "wedi gwella'n fawr" ymwybyddiaeth Bovey o adeiladu diwastraff."

Emma Hudson, Rheolwraig Swyddfa gyda Bovey Construction

Hawdd

Mae Emma yn dweud bod cyflwyno cais am arian gan CITB yn broses hawdd, profiad a oedd yn werthfawr i Bovey a phrofiad sydd hefyd wedi arwain at fanteision hyfforddi parhaus i staff y cwmni.

Dywedodd: "Roedd gwneud cais am gyllid yn syml iawn ac roedd cefnogaeth bob amser ar gael gan CITB os oedd angen.

"Roeddem eisiau hyfforddiant a fyddai'n hyrwyddo effeithlonrwydd, sgiliau a pherchenogaeth gwaith dirprwyedig.

"Roedd cyllid CITB wedi ein galluogi i gael yr hyfforddiant hwn ar waith yn gyflym."

Ciplun

Cwmni: Bovey Construction

Sector: Adeiladu adeiladau newydd, gwaith adfer, hanesyddol

Lleoliad: Dyfnaint

Her: Nod'r meysydd mwyaf aneffeithlon y busnes trwy Raglen Wella Adeiladu Diwastraff.

Cyllido: £3,857 o Gronfa Hyblyg CITB – Dewisiad Sgiliau a Hyfforddi

Effaith: Mae cyllid ar gyfer hyfforddi wedi:

  • codi sgiliau staff ar safle a staff swyddfa Bovey
  • darparu gwelliannau ar unwaith i ardaloedd a dargedwyd
  • rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr ac esiampl ymarferol o ddulliau a manteision adeiladu diwastraff dros amserlen fer"
  • galluogi Bovey i ennill budd y gwersi a ddysgwyd gan eu cyfoedion
  • arweiniwyd at raglen ddatblygu ar gyfer gwelliant parhaus wedi'i fewnosod o fewn diwylliant y sefydliad

Ewch i wefan Bovey Construction am ragor o wybodaeth ynghylch sut mae'r cwmni wedi elwa ar gyllid CITB