Canlyniadau Chwilio
Chwilio am newyddion a digwyddiadau
Math
Newyddion lleol a digwyddiadau
Canfuwyd 174 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

CITB yn cyflawni Consensws ar gyfer ei Gynigion Lefi 2026-29
Mae'r canlyniadau'n dangos bod 67% o gyflogwyr adeiladu yn cefnogi cynlluniau Lefi CITB - gan wella ar ganlyniadau Consensws 2021. Yn ogystal, mae 12 o'r 14 Sefydliad Rhagnodedig yn cytuno â'r Cynigion Lefi.

CITB yn cefnogi dros 52,000 o weithwyr adeiladu i gwblhau hyfforddiant iechyd meddwl
I nodi dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (12 Mai – 18 Mai 2025), mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw wedi cyhoeddi ei ffigyrau diweddaraf ar gyfer ei hyfforddiant iechyd meddwl. Ers 2018, mae CITB wedi cefnogi dros 52,000 o weithwyr adeiladu i gwblhau hyfforddiant iechyd meddwl – cefnogaeth hanfodol i ddiwydiant sy’n wynebu argyfwng iechyd meddwl.

CITB yn darparu bron i £130m mewn cymorth grant i gyflogwyr adeiladu
Heddiw, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi rhyddhau ei ffigyrau diwedd blwyddyn ar gyfer cefnogi cyflogwyr a dysgwyr adeiladu trwy ei Gynllun Grantiau. Darparodd CITB bron i £130m mewn cymorth grant yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25.

Rhwydweithiau Cyflogwyr CITB wedi helpu dros 50,000 o ddysgwyr gael mynediad at hyfforddiant adeiladu yn 2024-25
Mae'r Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw wedi rhyddhau ei ffigurau diwedd blwyddyn ar gyfer ei fenter Rhwydweithiau Cyflogwyr. Hon oedd yr ail flwyddyn lawn o weithredu'r fenter, ac mae'r ffigurau'n dangos bod y Rhwydweithiau wedi cefnogi 50,966 o ddysgwyr yn y flwyddyn ariannol (FY) 2024-25, cynnydd o 11,468 y flwyddyn gyntaf flaenorol.

Bodloni anghenion esblygol y diwydiant adeiladu gyda Chynlluniau Sgiliau Sector
Mae’r diwydiant adeiladu mewn cyfnod hollbwysig, gyda’r Llywodraeth yn gweithio tuag at dargedau adeiladu tai uchelgeisiol, ac yn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr – fel cynlluniau i ehangu Croesfan Isaf Tafwys a Maes Awyr Luton gwerth £9 biliwn, a gymeradwywyd ym mis Mawrth ac Ebrill eleni yn y drefn honno.

Penodi Cadeirydd newydd Cyngor Cenedl Cymru CITB
Mae CITB yn falch o gyhoeddi penodiad Martyn Osborne, Rheolwr gyfarwyddwr Borne Consult Ltd, yn Gadeirydd newydd Cyngor Cenedl Cymru.

Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn lansio ei Gynllun Busnes 2025-26
Mae’r Cynllun Busnes hwn yn cyd-fynd â Chynllun Strategol 2025-29 CITB a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a ddatblygwyd yn dilyn ymgynghoriad helaeth â chyflogwyr adeiladu, darparwyr hyfforddiant, Llywodraethau cenedlaethol, a rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae’r Cynllun Busnes hwn yn nodi sut y bydd CITB yn mynd i’r afael â’r heriau sgiliau a hyfforddiant sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu yn 2025-26.

Tîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid arbenigol CITB yn helpu dros 4,000 o brentisiaid i ymuno â’r diwydiant yn 2024-25
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw wedi rhyddhau ei ffigurau diwedd blwyddyn ar gyfer ei Dîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (NEST) . Mae’r ffigurau’n dangos bod NEST wedi cefnogi 4,128 o ddechreuwyr o brentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2024-25, cynnydd ar 2,340 y flwyddyn flaenorol.

CITB yn lansio ei broes Consensws ar gyfer Cynigion Lefi 2026-29
Bydd y broses Consensws yn digwydd rhwng dydd Llun 17 Mawrth a dydd Gwener 9 Mai 2025

Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu yn dychwelyd ar gyfer 2025
Mae’n bleser gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) gyhoeddi lansiad Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu ar gyfer 2025. Gan ddychwelyd am y bedwaredd flwyddyn, bydd y gwobrau’n parhau i amlygu cyfraniadau sylweddol menywod o bob rhan o’r diwydiant adeiladu ac arddangos menywod yn y sector er mwyn gwneud modelau rôl benywaidd ac anneuaidd yn fwy gweladwy a hygyrch.