Facebook Pixel
Skip to content

Negeseuon brys

Problem gyda systemau TG

Rydym wrthi’n cael problemau technegol sydd wedi effeithio ar systemau TG CITB. Diolch yn fawr am eich amynedd wrth i ni weithio’n galed i ddatrys y sefyllfa hon. Mae rhestr o’r effeithiau hysbys i’w gweld isod. Bydd y neges hon yn cael ei diweddaru pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.

Os oes gennych chi ymholiad brys, cysylltwch â’n blychau negeseuon e-bost pwrpasol ac fe wnawn ni geisio eich helpu os oes modd.

Oedi wrth Brosesu Profion Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Efallai y bydd rhai ymgeiswyr yn cael problemau wrth geisio llenwi cais am gerdyn oherwydd oedi wrth gyflwyno canlyniadau profion Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd i ddarparwyr cynlluniau cardiau. Os bydd hyn yn effeithio ar unrhyw ymgeisydd, dylid disgwyl 24 awr ac wedyn ceisio gwneud cais am y cerdyn eto. Ymddiheuriadau am unrhyw anhwylustod mae hyn yn ei achosi.

Oedi gyda Thalu Grantiau

Mae oedi wrth dalu grantiau i rai cyflogwyr. Cyn gynted ag y bydd y mater wedi’i ddatrys yn llwyr, bydd y rhai yr effeithiwyd arnynt yn derbyn eu gwaith papur hysbysu arferol.

 

Diweddaru: 12/01/23 3.35pm