Facebook Pixel
Skip to content

Trefnu prawf Iechyd, diogelwch a’r amgylchedd

Dewch i archebu eich prawf Iechyd, diogelwch a’r amgylchedd (HS&E) yn Gymraeg

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer y rhai hynny sydd am drefnu prawf Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd (HS ac E) CITB

On this page:

Archebu eich prawf Iechyd a Diogelwch

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y telerau ac amodau archebu safonol telerau ac amodau archebu safonol (PDF, 174KB) cyn i chi archebu.

Gallwch archebu eich prawf HS&E gyda Pearson VUE ar-lein/dros y ffôn neu'n uniongyrchol gyda'ch Canolfan Profi Rhyngrwyd (ITC) leol.

Archebu ar-lein

Mae'r swyddogaeth chwilio sedd newydd yn eich galluogi i gymharu argaeledd canolfannau prawf yn eich ardal leol ar yr un pryd.

Trefnu prawf

Archebu dros y ffôn

I archebu dros y ffôn, ffoniwch 0344 994 4488. Mae'r llinellau ar agor o 8am i 8pm (dydd Llun i ddydd Gwener), ac o 8am i 12pm (dydd Sadwrn). Mae'r lein ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau Banc.

Llinell Archebu Cymraeg: 0344 994 4490.

Archebu trwy Ganolfan Brawf Ar-lein (ITC)

I ddod o hyd i'ch Canolfan Brawf Ar-lein leol cliciwch yma.

Nid yw pob ITC yn ymddangos ar y Map ITC ar hyn o bryd, mae croeso i ITCs presennol ychwanegu eu manylion trwy Arolwg Mapiau ITC

Gwybodaeth y mae angen i chi ei rhoi wrth archebu

  • pa fath o brawf Iechyd, diogelwch a’r Amgylchedd rydych am ei gymryd
  • pa ganolfan brawf rydych chi am sefyll y prawf ynddi
  • eich cyfeiriad llawn
  • eich rhif cofrestru CITB os ydych wedi cymryd prawf HS&E yn flaenorol neu wedi gwneud cais am gerdyn CSCS, CPCS neu CISRS
  • y dull talu a ddewiswyd gennych; rydym yn derbyn cardiau debyd a chredyd. Fel arall, gallwch dalu gyda thalebau a brynwyd o’n siop ar-lein (sylwer mai dim ond yng Nghanolfannau Proffesiynol Pearson y gellir defnyddio talebau)
  • a oes angen cymorth arbennig arnoch (e.e. cyfieithwyr, ac ati) yn ystod eich prawf.

Beth i’w wneud ar ddiwrnod y prawf

  • cyrraedd o leiaf 15 munud cyn i'ch prawf ddechrau
  • dewch â'ch e-bost neu lythyr cadarnhau archeb
  • dod ag ID sy'n cynnwys eich llun a'ch llofnod; darllenwch y Polisi ID llawn.*
  • Ar ôl eich prawf, rhaid i chi gadw'ch Adroddiad Sgorio yn ddiogel gan fod ganddo wybodaeth bwysig amdano sy'n ymwneud â'ch cais cerdyn

* Os ydych yn sefyll eich prawf mewn carchar, anfonwch e-bost at testingservicesfeedback@citb.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am ffurfiau derbyniol o ID.

Os ydych o dan 16:

Bydd angen i chi fynd â ffurflen caniatâd rhieni wedi'i chwblhau (PDF, 120KB) gyda chi i'ch prawf, ynghyd â ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod. Gwiriwch y Polisi ID am fanylion.

Cost y prawf Iechyd, diogelwch a’r Amgylchedd

Cost sefyll y prawf Iechyd a Diogelwch yw £22.50.

Gall cyfanswm y gost sy'n daladwy mewn Canolfan Profi Rhyngrwyd (ITC) gynnwys taliadau ychwanegol megis ffioedd gweinyddol. Rhaid i'r ITC roi dadansoddiad i chi o'r costau.

Cymorth arbennig ar gyfer y prawf

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch wrth sefyll eich prawf, gwiriwch beth sydd ar gael i chi.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ail-drefnu neu ganslo prawf:

Ail-drefnu neu ganslo ar-lein

I ganslo neu aildrefnu prawf, mae angen i chi fewngofnodi i'r system archebu profion Pearson VUE. Bydd arnoch angen yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair a ddefnyddioch pan wnaethoch gofrestru i ddefnyddio'r system yn y lle cyntaf.

Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif  i reoli eich archeb am brawf.

Aildrefnu'r prawf

Mae'n rhaid i chi aildrefnu eich prawf o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf:

  • Mae'n rhad ac am ddim i newid i ddyddiad prawf gwahanol ar-lein os gwnewch hynny o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf
  • Ni allwch aildrefnu eich prawf lai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf; byddwch yn colli eich ffi prawf yn llwyr yn yr achos hwn.

Canslo'r prawf

I ganslo eich prawf a chael ad-daliad llawn o'ch ffi prawf, mae angen i chi wneud hyn ar-lein o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf.

Ni fydd eich ffi prawf yn cael ei had-dalu os byddwch yn canslo'ch prawf lai na 72 awr cyn dyddiad y prawf.

Gwneir ad-daliadau:

  • I'r cerdyn debyd neu gredyd a ddefnyddiwyd ar adeg archebu
  • Drwy siec o fewn 15 diwrnod gwaith o'r dyddiad y gwnaethoch ganslo'r prawf a archebwyd ar-lein.

Ni fyddwch yn cael ad-daliad os gwnaethoch dalu trwy dalebau. Yn lle hynny, gallwch ail-drefnu'r prawf am ddyddiad arall, cyn belled â'ch bod yn gwneud hyn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf.

Aildrefnu neu ganslo dros y ffôn

I aildrefnu neu ganslo eich prawf, ffoniwch 0344 994 4488. Mae'r llinell ar agor 8am i 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, ac 8am i 12pm ar ddyddiau Sadwrn Mae'r llinell ar gau yn ystod Gwyliau Banc.

Aildrefnu'r prawf

  • Os byddwch yn aildrefnu dros y ffôn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf, codir tâl o £5 arnoch i newid y dyddiad.
  • Ni allwch aildrefnu eich prawf lai na 72 awr cyn dyddiad y prawf; byddwch yn colli eich ffi prawf yn llwyr yn yr achos hwn.

Canslo'r prawf

  • Os byddwch chi'n canslo dros y ffôn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf, byddwch yn cael ad-daliad, llai ffi weinyddol o £10
  • Os byddwch yn canslo dros y ffôn llai na 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf, ni fyddwch yn cael unrhyw ad-daliad o'ch ffi prawf.

Gwneir ad-daliadau:

  • I'r cerdyn debyd neu gredyd a ddefnyddiwyd ar adeg archebu
  • Drwy siec o fewn 15 diwrnod gwaith o'r dyddiad y gwnaethoch ganslo'r prawf a archebwyd ar-lein.

Ni fyddwch yn cael ad-daliad os gwnaethoch dalu trwy dalebau. Yn lle hynny, gallwch ail-drefnu'r prawf am ddyddiad arall, cyn belled â'ch bod yn gwneud hyn o leiaf 72 awr cyn dyddiad y prawf (gweler aildrefnu'r prawf dros y ffôn uchod).

Mae manylion llawn y telerau ac amodau archebu ar gael i'w lawrlwytho (PDF, 174KB)

Ar gyfer 3 ymgeisydd neu lai, mae angen archebu profion yn unigol ar-lein neu drwy ffonio 0344 994 4488.

Archebion grŵp mawr (4 neu fwy o ymgeiswyr)

Gellir gwneud archebion grŵp ar gyfer 4 neu fwy o ymgeiswyr ar-lein gan ddefnyddio ein System Archebion Grŵp Navigator.

I ddechrau, mae angen i chi ofyn am gyfrif archebu grŵp trwy lenwi'r ffurflen hon. Os oes gennych gyfrif yn barod, archebwch ar-lein yma.

Ar gyfer ailosod cyfrinair neu i ofyn am newidiadau i'ch cyfrif, e-bostiwch groupbookings@citb.co.uk (mae dolenni sefydlu ac ailosod cyfrif yn ddilys am 7 diwrnod)

Mae System Archebion Grŵp Navigator yn caniatáu ichi archebu profion ar gyfer ymgeiswyr lluosog ar y tro trwy:

  • ychwanegu enwau'r holl ymgeiswyr yr ydych yn archebu ar eu cyfer
  • dewis ble rydych am iddynt sefyll y prawf
  • dewis dyddiad ac amser ar gyfer y prawf (yn amodol ar argaeledd)
  • talu am yr holl brofion gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd

Ar gyfer ymgeiswyr sydd angen cymorth arbennig, gallwch drefnu troslais a fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) drwy'r system. Am fathau eraill o gymorth arbennig, e-bostiwch citb.additionalsupport@pearson.com  neu ffoniwch 0344 994 4491 i ofyn am hyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y telerau ac amodau archebu (PDF, 175KB) cyn gwneud yr archeb.

Noder, o 1 Ebrill 2026 ymlaen, mai pris cymryd y prawf HS&E gan ddefnyddio'r gwasanaeth profi symudol fydd £32.75.

Beth yw'r gwasanaeth profion symudol?

Mae'r gwasanaeth profion symudol yn cynnwys sefydlu canolfan brawf dros dro mewn lleoliad neu safle gwaith o'ch dewis unrhyw le yn y DU, gan gynnwys Gogledd Iwerddon.

Gall y gwasanaeth hwn fod yn fwy buddiol i chi a'ch gweithlu oherwydd:

  • Mae'n arbed amser a chostau teithio eich gweithwyr gan na fydd rhaid iddynt deithio i ganolfan brawf disymud
  • Gallwch ddewis dyddiad ac amser i'r prawf sy'n addas i chi a'ch gweithwyr

Os oes gennych anghenion parhaus am brofion, gallwch ofyn am sefydlu canolfan brawf lled-barhaol (caban cludadwy) ar y safle.

Archebu'r gwasanaeth profion symudol

  1. Cyn i chi trefnu’r gwasanaeth, darllenwch a deallwch delerau ac amodau’r profi symudol yn llawn (PDF, 139KB)
  2. Yna mae angen i chi lenwi’r ffurflen Gwybodaeth i Ymgeiswyr (Excel, 49KB), gan sicrhau eich bod:
    • Yn rhoi enw’r ymgeisydd (ymgeiswyr) sy’n sefyll y prawf – gwnewch yn siŵr bod yr enwau yn union fel y dangosir ar yr ID y bydd yn rhaid iddynt ddod gyda nhw i’r prawf.
    • Yn rhoi cyfeiriad e-bost yr ymgeisydd (ymgeiswyr) sy’n sefyll y prawf.
  3. Unwaith y bydd y ffurflen Gwybodaeth i Ymgeiswyr wedi’i chwblhau mae angen ei huwchlwytho i’r ffurflen gais archebu. Ar y ffurflen hon:
    • Llenwch bryd a ble rydych chi eisiau’r gwasanaeth, a hefyd y dull darparu sydd orau gennych
    • Rhowch eich rhif cyfrif credyd CITB, os oes gennych un
    • Nodwch eich dull talu dewisol – os nad ydych yn defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd i dalu am y gwasanaeth, byddwn yn trefnu galwad yn ôl i gymryd taliad.
    • Cwblhewch y ffurflen Gwybodaeth i Ymgeiswyr a’r ffurflen gais archebu yn gyfan cyn cyflwyno, fel arall bydd eich archeb yn cael ei gwrthod a bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.
  4. Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen a thalu am y gwasanaeth, byddwch yn derbyn cadarnhad ar gyfer eich archeb drwy e-bost diogel
    • Gofynnwn am daliad o leiaf 10 diwrnod cyn dyddiad y prawf.
    • Rhaid i’r taliad fod wedi clirio i’n cyfrif banc o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf cyn i ni anfon cadarnhad o’ch archeb.

Bydd ymgeisydd(wyr) a fydd yn sefyll y prawf yn cael e-bost/llythyr o gadarnhad yn cadarnhau eu slot prawf. Os ydych wedi gofyn i'ch ymgeisydd(wyr) gael eu hatgoffa o'u slot prawf, byddant yn derbyn neges e-bost neu neges destun 4 diwrnod cyn y dyddiad.

Newid y rhestr o ymgeiswyr

Os oes angen i chi newid pwy fydd yn sefyll y prawf, rhaid i chi wneud hyn o leiaf 6 diwrnod gwaith cyn dyddiad y prawf. Ni allwn wneud unrhyw newidiadau i'r rhestr ar ôl y cyfnod hwn.

Ymholiadau a chymorth pellach

E-bostiwch citb.mobiletesting@pearson.com os oes arnoch angen cymorth ychwanegol ag archebion profi symudol.