Y mathau o brentisiaethau a gynigir gan CITB
Mae Prentisiaethau CITB yn cynnig yr ystod ehangaf o grefftau adeiladu unrhyw ddarparwr prentisiaeth gyda swyddfeydd rhanbarthol ledled Lloegr, yr Alban a Chymru
Prentisiaethau Traddodiadol - gan gynnwys Prentisiaethau Technegol a Goruchwylio ar Lefel 3
Mae Prentisiaeth Draddodiadol yn cyfuno astudio yn y coleg (neu ddarparwr hyfforddiant) â phrofiad ar y safle dros gyfnod o ddwy i dair blynedd (neu bedair blynedd yn yr Alban). Dyma'r ffordd fwyaf cyffredin o gymhwyso ac mae ar gael ledled y DU.
Mae prentisiaethau yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant a fydd yn cymhwyso'ch prentis ar gyfer un o gynlluniau cerdyn y diwydiant - sy'n hanfodol i gael mynd ar y safle.
Fel cyflogwr efallai y gallwch hefyd hawlio Grant CITB o hyd at £10,250 i'ch cefnogi trwy brentisiaeth tair neu bedair blynedd.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen ar hawlio'r grantiau sydd ar gael.
Rhaglenni Sgiliau Cymhwysol Arbenigol (SAP)
Datblygir SAPs trwy bartneriaethau â chymdeithasau crefft, ffederasiynau a chyflogwyr mewn sectorau arbenigol.
Mae'r rhaglenni prentisiaid hyn yn cynnwys yr holl gynhwysion ar gyfer rhaglen brentis wedi'i dilysu'n llawn sy'n arwain at Gymhwyster Galwedigaethol (NVQ / SVQ).
Ar hyn o bryd, y rhaglenni newydd hyn yw'r unig ffynhonnell hyfforddiant newydd a gydnabyddir gan grant CITB ar gyfer y sectorau dan sylw (hyd nes y bydd unrhyw brentisiaethau trailblazer ar gael).
Rhaid i newydd-ddyfodiaid fod â chontract llawn amser o gyflogaeth uniongyrchol gyda chyflogwr sydd wedi'i gofrestru â Lefi CITB. Nid oes cyfyngiad oedran, 16+ oed; fodd bynnag, mae dewis cyflogwr yn tueddu i fod yn 18+ oed.
Cynllun Prentisiaeth a Rennir
Mae'r Cynllun Prentisiaeth a Rennir (SAS) yn ddull newydd o hyfforddiant ac mae'n gaddo mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a busnesau ym maes adeiladu.
Mae prentisiaid yn cael amrywiaeth o brofiad ar y safle trwy weithio ar brosiectau proffil uchel i fwy nag un cyflogwr, ynghyd â chwblhau Prentisiaeth Lefel 3 lawn.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth