Facebook Pixel
Skip to content

Gwneud cais am Brentisiaeth CITB

Mae CITB yn darparu'r gefnogaeth ymarferol gorau i wneud popeth mor syml â phosibl. Gallwn ni helpu gyda chostau a chyngor trwy neilltuo un o'n swyddogion prentisiaethau i'w wneud mor hawdd â phosibl.

Rydych chi'n ddau gam i ffwrdd o ddod yn Brentis CITB:

Cam 1

Dysgu rhagor â'n canllaw defnyddiol  Cymorth ag ymgeisio am brentisiaeth adeiladu.

Cam 2

Cofrestru a gwneud cais yn awr.

Byddwn ni'n e-bostio allwedd ymgeisio atoch pan fyddwch yn cofrestru. Gallwch ddefnyddio'r allwedd i ddychwelyd i'ch cais yn ddiogel os oes angen i chi adael y ffurflen cyn iddi gael ei chwblhau.

Er mwyn cwblhau ein ffurflen gais bydd arnoch angen:

  • Cyfeiriad e-bost
    • Byddwn ni'n cysylltu â chi trwy e-bost i'ch annog i gwblhau eich cais, i'ch cefnogi drwy'r broses o ddod yn Brentis ac ar adegau yn ystod eich Prentisiaeth
    • Mae angen i'ch cyfeiriad e-bost fod yn un rydych yn ymweld ag ef yn rheolaidd. Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost yna chwiliwch y rhyngrwyd i ganfod gwasanaeth a fydd yn gadael i chi greu eich cyfeiriad e-bost eich hun am ddim
    • Cofiwch ddefnyddio cyfeiriad e-bost na fydd yn digio unrhyw gyflogwyr yn y dyfodol.
  • Rhif Yswiriant Gwladol (YG)
    • Mae arnom angen eich rhif YG i gwblhau llawer o ffurflenni er mwyn hawlio cyllid ar gyfer eich Prentisiaeth
    • Os nad oes gennych Rif YG, nodwch rif dros dro sy'n dechrau â TN ac yna 6 rhif sy'n gorffen ag M neu F (yn dibynnu ar eich rhyw).
  • Rhif Ymgeisydd Albanaidd os ydych yn byw yn yr Alban
  • Canlyniadau Saesneg a Mathemateg os ydych yn byw yn Lloegr (neu'ch canlyniadau disgwyliedig)
  • Eich llwybr gyrfa ddewisol
    • Bydd angen i chi ddweud wrthym am o leiaf un dewis yn eich ffurflen gais
    • Efallai y byddwn ni'n cynnig Prentisiaeth i chi mewn crefft arall ond byddwn ni bob amser yn gofyn i chi cyn i ni wneud hyn. 
  • Manylion cyswllt unrhyw gwmni sydd wedi cynnig cyflogaeth adeiladu i chi
    • Mae hyn yn cynnwys ID cyfeirnod y gallech fod wedi'i gael gan gyflogwr
    • Peidiwch â phoeni os nad ydych eto wedi canfod cyflogwr; byddwn ni'n eich helpu ar hyd y ffordd
    • Gallwch ddechrau'r broses trwy chwilio am unrhyw swyddi gwag ar y wefan hon neu â'r Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol (yn Lloegr).
  • Mae angen i chi ystyried a ydych chi'n barod i deithio ac o bosibl aros i ffwrdd o gartref gan mai dim ond mewn un neu ddau leoliad y gellir cyflenwi rhai cyrsiau.

Os cewch neges gwall

Os cewch neges ar y sgrîn yn dweud bod eich cyfeiriad e-bost wedi'i gofrestru â chais o'r blaen, chwiliwch am e-bost awtomataidd yn eich mewnflwch sy'n cynnwys allwedd eich cais.

Ar ôl i chi ganfod yr allwedd ymgeisio, cliciwch ar y botwm 'Adfer y ffurflen a gadwyd' sydd yng nghornel chwith isaf y ffurflen a nodwch allwedd y cais a'r cyfeiriad e-bost i adfer ac ailddechrau eich cais anghyflawn.

Hysbysiad Prosesu Teg

Bydd y wybodaeth a ddarperir i Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (“CITB”) yn y ffurflen hon yn cael ei defnyddio ar gyfer cymhwyso a gweinyddu prentisiaeth ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â'n rôl fel Bwrdd Hyfforddi Diwydiannol yn unol â Deddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982.

Bydd eich data'n cael ei ddal a'i drin yn gyfrinachol ac ni chaiff ei ddatgelu i bartïon allanol heblaw am fel y bo'n ofynnol at y dibenion a ddisgrifir uchod, a fydd yn cynnwys:

  • Rhannu gyda sefydliadau Addysg Bellach neu ddarparwyr hyfforddiant
  • Rhannu gyda chyflogwyr cyfredol neu ddarpar gyflogwyr
  • Cyhoeddi eich cyflawniadau ar Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu CITB
  • Rhannu gyda sefydliadau dyfarnu neu gynlluniau cardiau cymhwysedd os ydych yn gwneud cais am eu cynhyrchion.

Am wybodaeth sy'n esbonio'ch hawliau cyfreithiol a sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd

Efallai byddwch hefyd eisiau gwybod am...