Facebook Pixel
Skip to content

Polisi apelio'r Cynllun Grantiau

Diweddarwyd Polisi Apelio’r Cynllun Grantiau y tro diwethaf ar 24 Ebrill 2023

  • Mae’r polisi apelio yn diffinio sut bydd CITB yn rheoli apeliadau mewn perthynas â’r Cynllun Grantiau. Mae’r polisi hwn yn hyrwyddo effeithlonrwydd, tegwch a chysondeb wrth benderfynu ar apeliadau’r Cynllun Grantiau.
  • Gall Cyflogwr apelio yn erbyn cais am grant sydd wedi cael ei wrthod (“Cais wedi’i Wrthod”) os yw wedi llenwi POB Ffurflen Lefi angenrheidiol yn gywir ac wedi cyflwyno pob ffurflen o’r fath i CITB a bod HOLL rwymedigaethau’r Lefi wedi cael eu talu’n llawn neu fod trefniadau talu ar waith.

  • Gellir apelio am y rhesymau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain:
    • Dilysu Grant
    • Ceisiadau wedi’u gwrthod

  • Nid oes hawl i apelio yn erbyn Cais wedi’i Wrthod:
    • os nad yw’r Cyflogwr yn gymwys i gael grant (er enghraifft, os yw’r Cyflogwr eisoes wedi cyrraedd uchafswm y dyraniad grant ar gyfer math penodol o grant neu wedi rhoi’r gorau i fasnachu pan gwblhawyd yr hyfforddiant neu’r cyflawniad);
    • os nad yw’r hyfforddiant neu’r cymhwyster y gwneir cais am y grant ar ei gyfer wedi cael ei wneud, ei gwblhau, ei basio na’i gyflawni gan y dysgwr neu’r prentis;
    • os oes cymorth grant wedi cael ei dderbyn yn barod ar gyfer dysgwr neu brentis ar gyfer yr hyfforddiant neu’r cymhwyster y gwneir cais amdano.
  • Dim ond mewn perthynas â’r canlynol y caniateir apelio:
    • grant presenoldeb ar gyfer dyddiadau presenoldeb nad ydynt yn hwy na 2 flynedd cyn dyddiad yr apêl; a
    • grant cyflawni os nad yw'r dyddiad cyflawni yn fwy na 2 flynedd cyn dyddiad yr apêl.
  • Rhaid i apeliadau ddod i law cyn pen 90 diwrnod calendr i ddyddiad derbyn yr hysbysiad o’r Cais wedi’i Wrthod neu fel y cytunwyd fel arall gan CITB, yn ôl ei ddisgresiwn, yn ysgrifenedig (“Apêl Gyntaf”).

  • Pan fydd y Cyflogwr yn cyflwyno apêl arall (“Ail Apêl”), rhaid ei derbyn cyn pen 30 diwrnod calendr i ddyddiad derbyn yr hysbysiad o ganlyniad yr Apêl Gyntaf. Ni fydd unrhyw Ail Apêl a dderbynnir y tu allan i’r cyfnod o 30 diwrnod calendr yn cael ei hystyried oni chytunir fel arall gan CITB, yn ôl ei ddisgresiwn, yn ysgrifenedig.
  • Rhaid cyflwyno’r Apêl Gyntaf a’r Ail Apêl yn ysgrifenedig, gan nodi’n fanwl y rhesymau dros apelio ynghyd â’r holl ddogfennau ategol. Dylid eu hanfon naill ai drwy e-bost at GrantsScheme.Appeals@citb.co.uk neu drwy lythyr at CITB, Blwch 30, D/O SSCL, Phoenix House, Casnewydd, NP10 8FZ. Cyfrifoldeb y Cyflogwr yw sicrhau bod CITB wedi cael y dogfennau apêl o fewn yr amserlen y cytunwyd arni fel y nodir uchod.

  • Gellir gofyn am ragor o wybodaeth er mwyn bwrw ymlaen â’r Apêl Gyntaf neu’r Ail Apêl. Rhaid i’r Cyflogwr gyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol yn dilyn cais am ragor o wybodaeth cyn pen 14 diwrnod calendr i ddyddiad y cais gan CITB neu fel y cytunir fel arall yn ysgrifenedig gan CITB, yn ôl ei ddisgresiwn. Os na lwyddir i ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani erbyn y dyddiad penodol, bydd CITB yn parhau â’r broses apelio gyda’r holl wybodaeth sydd gan CITB.
  • Rhaid ystyried apeliadau cyn pen 30 diwrnod calendr i dderbyn yr wybodaeth ysgrifenedig a’r dogfennau ategol a ddarperir gan y Cyflogwr. Mae gan CITB 30 diwrnod calendr arall i roi gwybod i’r Cyflogwr am ganlyniad yr Apêl Gyntaf. Ni fydd cynrychiolaeth bersonol.

  • Os bydd yr apêl yn llwyddiannus, telir y grant yn unol â pholisi’r Cynllun Grantiau ar yr amod bod yr holl Ffurflenni Lefi angenrheidiol wedi dod i law a bod yr holl Lefi wedi’i thalu neu fod trefniadau ar waith i dalu.

  • Er bod cynllun Lefi a chynllun Grant CITB yn ddau gynllun ar wahân, mae system gweithredu ariannol gyfredol CITB yn caniatáu i CITB osod y grant yn awtomatig erbyn unrhyw rwymedigaeth Lefi sy’n ddyledus.

  • Yn amodol ar unrhyw ostyngiad neu dynnu taliadau grant a/neu gyfraddau yn ôl, bydd grantiau (ac eithrio grantiau prentisiaethau) yn cael eu talu ar y gyfradd a roddir yn y manylion am y math o grant ar yr adeg y cynhaliwyd yr hyfforddiant neu pan enillwyd y cymhwyster.

  • Gall CITB gadw’r grant yn ôl yn ystod y cyfnod pan fydd gan Gyflogwr apêl grant yn yr arfaeth.

  • Gall CITB ymestyn y cyfnod ar gyfer ystyried yr Apêl Gyntaf, er enghraifft, ar gyfer achosion cymhleth, a bydd CITB yn rhoi gwybod i’r Cyflogwr yn ysgrifenedig am unrhyw estyniad amser.

  • Bydd CITB yn sicrhau mai gweithwyr CITB nad oeddent ynghlwm â gwneud y penderfyniad gwreiddiol fydd yn adolygu’r apeliadau
  • Os nad yw Cyflogwr yn fodlon â chanlyniad yr Apêl Gyntaf, mae ganddo hawl i gyflwyno Ail Apêl.

  • Rhaid cyflwyno’r Ail Apêl yn ysgrifenedig gan nodi’n fanwl wrthwynebiadau’r Cyflogwr i ganlyniad yr Apêl Gyntaf. Ni fydd cynrychiolaeth bersonol.

  • Bydd yr Ail Apêl yn cael ei hadolygu cyn pen 90 diwrnod calendr i dderbyn y cyflwyniad arall gan y Cyflogwr. Bydd CITB yn rhoi gwybod i’r Cyflogwr am ganlyniad yr Ail Apêl cyn pen 30 diwrnod calendr ar ôl y cyfnod adolygu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, y cyfnod hwyaf i’r Cyflogwr gael canlyniad yr Ail Apêl yw 120 diwrnod calendr (sy’n cynnwys hyd at 90 diwrnod calendr i adolygu’r Ail Apêl a'r dogfennau pellach a 30 diwrnod calendr arall i roi gwybod i’r Cyflogwr am y canlyniad).

  • Bydd canlyniad yr Ail Apêl yn derfynol. Nid oes hawl bellach i apelio ar ôl yr Ail Apêl.

  • Os bydd apêl yn llwyddiannus, telir y grant yn unol â pholisi’r Cynllun Grantiau ar yr amod bod yr holl Ffurflenni Lefi angenrheidiol wedi dod i law a bod yr holl Lefi sy’n ddyledus wedi’i thalu neu fod trefniadau ar waith i dalu.

  • Yn amodol ar unrhyw ostyngiad neu dynnu taliadau grant a/neu gyfraddau yn ôl, bydd grantiau (ac eithrio grantiau prentisiaethau) yn cael eu talu ar y gyfradd a roddir yn y manylion am y math o grant ar yr adeg y cynhaliwyd yr hyfforddiant neu pan enillwyd y cymhwyster.

  • Gall CITB gadw’r grant yn ôl yn ystod y cyfnod pan fydd gan Gyflogwr apêl grant yn yr arfaeth.

  • Gall CITB ymestyn y cyfnod ar gyfer ystyried yr Ail Apêl, er enghraifft, ar gyfer achosion cymhleth, a bydd CITB yn rhoi gwybod i’r Cyflogwr yn ysgrifenedig am unrhyw estyniad amser.

  • Bydd CITB yn sicrhau mai gweithwyr CITB nad oeddent ynghlwm â gwneud y penderfyniad gwreiddiol fydd yn adolygu’r apeliadau