Facebook Pixel
Skip to content

Grantiau Prentisiaeth Yr Alban

Rydym yn talu grantiau am bresenoldeb a chyflawniadau Prentisiaethau cymeradwy yn Lloegr.

Trosolwg

Mae’r grant ar gyfer Prentisiaethau’n cynnwys:

  • Presenoldeb i ffwrdd o'r gwaith gyda darparwr Prentisiaeth gymeradwy
  • Cyflawni Prentisiaeth.

Rhaid i chi ddefnyddio darparwr Prentisiaeth gymeradwy sydd gan gyswllt uniongyrchol â SDS a chymeradwyaeth cyfredol gyda chorff gwobrwyo priodol, megis Awdurdod Cymwysterau yr Alban.

Mae grant presenoldeb yn daladwy hyd at ddyddiad olaf y prentis ym myd addysg ar gyfer rhwng 1 a 6 mlynedd. Gall prentisiaethau ar Lefelau 5 a 6 SCQF gymryd mwy na 3 blynedd, ond nid oes unrhyw grantiau presenoldeb pellach yn daladwy ar ôl y drydedd flwyddyn.

Gallwch wneud cais am grantiau ar gyfer unigolion a gyflogir yn uniongyrchol yn unig.

Gweler pa gyrsiau sy’n gymwys i gael grant.

Os na welwch Brentisiaeth yn y rhestr gyfredol o'r rhai sy'n gymwys i gael grant, gallwch gwblhau ffurflen ar-lein i'w hawgrymu i gael ei ystyried.

Mae Prentisiaethau Modern ac Uwch yn yr Alban yn cael eu llywodraethu gan Dempled Cynnig ac Arweiniad a Phrentisiaethau Graddedigion yr Alban.

Gallwch wneud cais os ydych wedi cofrestru â lefi gyda CITB a bod eich ffurflenni lefi’n gyfoes. Mae angen i chi hefyd fodloni amodau a thelerau ein Cynllun Grantiau cyffredinol

Prentisiaethau CITB

Os mai ni yw eich darparwr Prentisiaeth, bydd eich Swyddog Prentisiaeth ddynodedig yn eich helpu i gwblhau eich cais yn gywir. Cyn belled â'n bod yn derbyn y gwaith papur cywir cyn pen 20 wythnos ar ôl dechrau'r Brentisiaeth, byddwn yn dechrau gwneud eich taliadau grant, wedi'u hôl-ddyddio i'r dyddiad cychwyn hwn.

Bydd eich grant presenoldeb yn cael ei dalu'n awtomatig bob 13 wythnos.

Darparwyr Prentisiaethau eraill

Os nad ni yw eich darparwr Prentisiaeth, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais.

Lawr lwythwch ac arbedwch y ffurflen gais am grant Prentisiaeth (Excel 191KB) a sicrhewch eich bod yn cwblhau pob adran. Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Sylwer: Defnyddiwch Chrome neu Firefox i lawr lwytho’r ffurflen. Argymhellwn nad ydych yn defnyddio Internet Explorer gan y gallwch gael problemau gyda’i lawr lwytho.

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth gan eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant bod eich prentis wedi'i gofrestru ar raglen Brentisiaeth gymeradwy.

Rhaid i'r dystiolaeth hon fod yn adroddiad DAS y llywodraeth, neu gan y coleg neu'r darparwr hyfforddiant ar naill ai eu papur pennawd neu yn ôl eu cyfeiriad e-bost a rhaid iddo gynnwys y wybodaeth ganlynol.

  • Enw llawn y prentis
  • Teitl a lefel cwrs safonol Prentisiaeth lawn, gan gynnwys yr is-gategori (os yw'n berthnasol)
  • Dyddiad cychwyn y prentis gyda'r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau a'ch tystiolaeth ategol at: customer.servicesYNET@citb.co.uk

Cyn belled â'n bod yn derbyn y gwaith papur cywir cyn pen 20 wythnos o ddechrau'r Brentisiaeth, byddwn yn dechrau gwneud eich taliadau grant, wedi'u hôl-ddyddio i'r dyddiad cychwyn hwn.

Byddwn yn anfon ffurflen gais neu hysbysiad e-bost atoch bob 13 wythnos i gadarnhau bod eich prentis o dan hyfforddiant a chyflogaeth o hyd. Rhaid i chi gadarnhau hyn cyn pen 3 mis o'r dyddiad cyhoeddi er mwyn i chi barhau i dderbyn taliadau.

Os bydd eich prentis yn gadael eich cyflogaeth rhaid i chi ein hysbysu a byddwn yn talu grant presenoldeb hyd at y dyddiad y gadawodd eich prentis.

Cyflwyniadau hwyr

Os na fyddwch yn cyflwyno'ch cais cyn pen 20 wythnos o ddyddiad cychwyn y Brentisiaeth, byddwn ond yn ôl ddyddio eich taliadau grant presenoldeb hyd at y dyddiad y byddwn yn derbyn eich gwaith papur.

Grantiau cyflawniad

Efallai y byddwch yn derbyn ffurflen gais neu hysbysiad e-bost i awdurdodi grant cyflawniad pan fydd eich prentis yn cwblhau safon Prentisiaeth yn llwyddiannus.

Dylech awdurdodi'r grant cyn pen 3 mis o'i gyhoeddi i dderbyn y grant cyflawniad.

Os na fyddwch yn derbyn ffurflen gais neu hysbysiad e-bost cyn pen mis o'r dyddiad cyflawni, cwblhewch y ffurflen gywir isod.

  • Ar gyfer cyflawniadau a ddyfarnwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, lawr lwythwch y ffurflen gais am grant cyflawniad Prentisiaeth (Excel 639KB). Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
  • Arbedwch a chwblhewch adran cyflawniad Prentisiaeth y ffurflen
  • Dylech gyflwyno'ch ffurflen gais i grant.claimforms@citb.co.uk gyda chopi o'r dystysgrif cyflawniad neu e-bost yn hysbysu am y cyflawniad gan y corff dyfarnu cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021.
  • Ar gyfer cyflawniadau a ddyfarnwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, lawr lwythwch ffurflen gais grant 2021-2022 (Excel 190KB). Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
  • Arbedwch a chwblhewch adran cyflawniad Prentisiaeth y ffurflen
  • Dylech gyflwyno'ch ffurflen gais i grant.claimforms@citb.co.uk gyda chopi o'r dystysgrif cyflawniad neu e-bost yn hysbysu am y cyflawniad gan y corff dyfarnu cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2022.

Mae cyfraddau'n sefydlog trwy gydol y Brentisiaeth fel y'u rhoddir ym mlwyddyn y Cynllun Grantiau y mae'r Brentisiaeth yn cychwyn, hyd yn oed os ydynt yn newid ym mlynyddoedd diweddarach y Cynllun Grantiau, neu os bydd y prentis yn newid cyflogwr.

Mae grant presenoldeb yn daladwy hyd at ddyddiad olaf y prentis ym myd addysg. Gall fframweithiau prentisiaeth ar Lefelau 5 a 6 SCQF gymryd mwy na 3 blynedd, ond nid oes unrhyw grantiau presenoldeb pellach yn daladwy ar ôl y drydedd flwyddyn.

Y gyfradd grant presenoldeb ar gyfer dechreuwyr o 1 Ebrill 2020 yw £2,500 y flwyddyn.

Y grant cyflawniad yw £3,500 ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus.

Mae grant cyflawniad ychwanegol o £3,500 yn daladwy ar ôl cyflawni'r Wobr Datblygiad Proffesiynol (PDA) neu ar ddiwedd yr ail flwyddyn o bresenoldeb.

Os bydd prentis yn newid cyflogwr yn ystod eu Prentisiaeth, telir grantiau presenoldeb a chyflawniad pro-rata yn ôl cyfran cyfanswm y pecyn hyfforddi a gwblhawyd gyda phob cyflogwr.

Ar gyfer prentisiaid a ddechreuodd eu hyfforddiant ac a gofrestrodd ar gyfer cymorth grant cyn dechrau blwyddyn Cynllun Grantiau 2019/2020 (1 Ebrill 2019), bydd y taliadau hyn yn aros ar y gyfradd flaenorol o bresenoldeb blwyddyn 1af £1,965, presenoldeb 2il flwyddyn £1,660 a phresenoldeb 3ydd blwyddyn £ 1,125.

Bydd cyflogwyr a gymhwysodd am grant atodol cyn mis Ebrill 2018 yn derbyn hwn ar daliadau presenoldeb yn unig, ar gyfer prentisiaid a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2018.

Talu grantiau

Byddwch yn gymwys i gael grantiau presenoldeb unwaith y bydd eich prentis wedi cwblhau 13 wythnos o gyflogaeth barhaus dan gontract.

Grantiau eraill

  • Tra byddwch yn derbyn grant Prentisiaeth ni allwch wneud cais am unrhyw grantiau eraill ar gyfer yr un prentis, ac eithrio cyflawniadau cwrs byr sy'n angenrheidiol, yn briodol ac nad ydynt wedi'u cynnwys yn y Brentisiaeth.
  • Rhaid i chi dalu cost hyfforddiant ychwanegol arall.