Facebook Pixel
Skip to content

Gwasanaethau Ar-lein CITB

Gwasanaethau Ar-lein CITB yw ein porth lle gall cyflogwyr gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau Lefi a Grantiau.

Cofrestrwch neu fewngofnodwch yma

Fel cyflogwr, gallwch ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CITB i:

Lefi Ar-lein

  • Cyflwyno Ffurflenni Lefi sydd heb eu cwblhau
  • Gweld Ffurflenni Lefi ac Asesiadau o flynyddoedd blaenorol.

Grant Ar-lein

  • Gwneud cais am grantiau Prentisiaeth, Cymhwyster, a Chyrsiau Cyfnod Byr
  • Rheoli mynediad grant ar-lein i'ch cyflogwr
  • Awdurdodi grantiau presenoldeb
  • Gweld datganiadau grant neu ofyn am adroddiadau grant
  • Mynediad i'r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu (CTR) i weld cofnod hyfforddiant gweithiwr neu ddysgwr.

Sut mae cael mynediad at Wasanaethau Ar-lein CITB?

  1. Ewch i borth Gwasanaethau Ar-lein CITB.
  2. Cliciwch ‘Mewngofnodi’ yng nghornel dde uchaf y dudalen.
  3. Os oes gennych gyfrif ar-lein Lefi neu Grantiau eisoes, gallwch fewngofnodi gyda’ch manylion presennol.
  4. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein eisoes, cliciwch ‘Cofrestru nawr’ a chreu eich cyfrif gyda chyfeiriad e-bost a chyfrinair
  5. Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein, gofynnwch am fynediad i’ch cyflogwr ar gyfer mynediad ar-lein Lefi neu Grantiau (gwnewch yn siŵr bod eich rhif cofrestru CITB 7 digid wrth law, a geir ar lythyrau a gohebiaeth arall gan CITB).

Sylwch fod mynediad at Lefi a Grantiau yn cael eu gofyn ar wahân. Os oes gennych fynediad Lefi a gallwch gwblhau eich Ffurflen Lefi, ond nad oes gennych fynediad Grantiau i wneud cais am grantiau, neu i’r gwrthwyneb, rhaid i chi ‘gofyn am fynediad i’ch cyflogwr’ a dewis y math priodol o fynediad sydd ar goll gennych.

Mae canllawiau a fideos ar gofrestru a gofyn am fynediad i’ch cyflogwr ar gael yma.

Defnyddwyr Grantiau Ar-lein Gweinyddol

Ar gyfer pob cyflogwr cofrestredig â CITB, y defnyddiwr cyntaf sy'n cael mynediad grantiau ar-lein, neu'r prif gyswllt grantiau ar gyfer y rhai sydd â defnyddwyr grantiau ar-lein presennol, fydd gweinyddwr grantiau ar gyfer y cyflogwr.

Gall gweinyddwyr:

  • Gweld defnyddwyr eraill sydd â mynediad Grantiau i gyfrif y cyflogwr drwy'r porth.
  • Rheoli mynediad grantiau ar-lein defnyddwyr eraill, gan gynnwys eu tynnu neu newid eu rôl i fod yn weinyddwr hefyd, a diweddaru pa ddefnyddiwr grant sy'n derbyn adroddiadau grant ac e-byst awdurdodi.
  • Ychwanegu defnyddwyr newydd i gael mynediad at grantiau ar-lein yn erbyn cyfrif y cyflogwr fel y gallant wneud cais am grantiau, awdurdodi grantiau presenoldeb, a mwy.
  • Gweld a chymeradwyo neu wrthod ceisiadau mynediad grant ar-lein a anfonir gan ddefnyddwyr porth eraill at eich cyflogwr.

Sylwch nad oes modd cwblhau'r tasgau hyn ar hyn o bryd ar gyfer mynediad ar-lein Lefi.

Dewch o hyd i ganllawiau a fideos ar fod yn weinyddwr grant ar-lein yma.

Mae gennym amrywiaeth o ganllawiau PDF a fideos i'ch helpu i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CITB.

Mae'r canllawiau hyn yn eich tywys gam wrth gam trwy'r gweithgareddau canlynol:

  • Cofrestru i'r porth
  • Gofyn am fynediad i'ch cyflogwr
  • Gwneud cais am un grant (ac eithrio grant cyrsiau cyfnod byr)
  • Gwneud cais am grant mewn swmp (ac eithrio grant cyrsiau cyfnod byr)
  • Gweld ceisiadau grant drafft a cheisiadau grant a gyflwynwyd
  • Bod yn weinyddwr grant i'ch cyflogwr

Dod o hyd i ganllawiau a fideos ar sut i wneud cais am grantiau cyrsiau cyfnod byr.

Dod o hyd i ganllawiau a fideo ar sut i gwblhau eich Ffurflen Lefi.

Dod o hyd i ganllawiau ar gael mynediad at y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu (CTR) i weld cofnod hyfforddiant gweithiwr neu ddysgwr.

Os oes angen help arnoch i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CITB, neu os ydych chi'n profi unrhyw broblemau, anfonwch e-bost at levygrant.online@citb.co.uk.