Facebook Pixel
Skip to content

Darparwr hyfforddiant masnachol:proses i fod yn ATO CITB 

Os hoffech chi fod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy CITB (ATO), mae yna sawl cam y mae'n rhaid i chi fynd drwyddynt er mwyn cael eich derbyn. Y newyddion da yw mai dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi wneud hyn.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud a beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno cais:

Cyn i chi wneud cais i ddod yn ATO CITB, mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Adolygu'r rhestr o gysiau hyfforddiant cyfnod byr a'r safonau cysylltiedig i gyd-fynd â'ch cyrsiau hyfforddi mewnol.
  2. Lawr lwytho a darllen y dogfennau canlynol yn ofalus cyn cyflwyno'ch cais:
    Gofynion ar gyfer Sefydliadau Hyfforddiant Cymeradwy (PDF, 588kb)
    Telerau safonol cytundeb y Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (PDF, 417kb)
    Telerau cytundeb y Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy - atodiad A (PDF, 25kb)
    Amodau a thelerau i ddefnyddwyr Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu a Chofrestr Hyfforddiant Adeiladu (PDF, 197kb)

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y gofynion a'r telerau cytundeb hyn yn llawn gan fod y rhain yn sail i'ch contract gyda CITB.

Bydd angen i chi gael y darnau canlynol o wybodaeth ar gael pan fyddwch chi'n cwblhau'ch cais i ddod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy CITB (ATO):

    • manylion cwmni - rhaid i'r rhain fod yr enw a'r cyfeiriad fel y'u cofrestrwyd gyda Thŷ'r Cwmnïau (h.y. eich endid cyfreithiol)
    • Rhif cofrestredig gyda Tŷ'r Cwmnïau neu rif elusen gofrestredig (fel sy'n berthnasol)
    • manylion canolfan hyfforddi / cyfleuster (os yw'n wahanol i fanylion y cwmni)
    • manylion cyswllt adran cyfrifon eich cwmni
    • os yw'n berthnasol, manylion cymwysterau cysylltiedig ag adeiladu gan sefydliad dyfarnu yr ydych wedi'ch cymeradwyo i'w cyflawni.

    Cwblhewch ffurflen gais CITB ATO ar-lein.

    Gallwch hefyd wylio'r fideo hon i ddarganfod sut i lenwi'r ffurflen gais.

https://www.youtube.com/watch?v=iaJhVayWViQ&t=3s

Ar ôl i chi gyflwyno'ch ffurflen gais ar-lein, bydd CITB yn adolygu'ch cais a chynnal diwydrwydd.

Os ydych wedi llwyddo yn y cam hwn, bydd CITB wedyn yn rhoi mynediad i chi i'r Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu (CTD) i lofnodi'r ffurflen (ni) cytundeb a chwblhau hunanasesiad:

    • dylech gael e-bost gyda dolen i'r CTD fel y gallwch greu manylion mewngofnodi gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost
    • gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost a roddwyd yn eich cais wrth fewngofnodi i'r CTD
    • os nad ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar ôl i chi gael gwybod eich bod wedi pasio'r cam hwn, cysylltwch â'n tîm cymorth i gwsmeriaid ar  neu 0844 994 4047.

    Gwnewch yn siŵr nad yw e-byst gan CITB yn cael eu rhoi yn eich ffolder sbam e-bost yn awtomatig.

    Ar ôl i chi greu eich manylion mewngofnodi, bydd angen i chi:Lofnodi'r  ffurflen (ni) cytundeb

  1. Dewis y cyrsiau o'r rhestr o gyrsiau hyfforddiant cyfnod byr diwydiant, y cytunwyd arnynt:
    • Os ydych yn dymuno darparu cynhyrchion CITB, mae angen i chi lawr lwytho'r ffurflen cytundeb priodol ar gyfer bob hyfforddiant rydych yn ei gynnig.
      Cwblhewch a llofnodwch y ffurflen (ni) cytundeb a'i.

    • Os ydych yn dymuno darparu hyfforddiant sicr, bydd angen i chi gwblhau'r hunan-asesiad ar-lein, sy'n cynnwys disgrifio sut allwch chi ddarparu hyfforddiant i'r safon ofynnol ar gyfer y cwrs hwnnw. Gallwch hefyd uwchlwytho dogfennau * fel maes llafur cwrs i gefnogi'ch hunanasesiad.

      Os yw'r safon yn dal i gael ei datblygu, gallwch barhau i ddewis y cwrs hwnnw i'w gynnwys yn eich portffolio hyfforddi. Ni fydd angen i chi gwblhau'r hunanasesiad ar hyn o bryd.
      Ar ôl i'r safon gael ei datblygu a'i chyhoeddi, yna bydd angen i chi gwblhau'r hunanasesiad ar gyfer y cwrs hwnnw. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd safon y cwrs hwnnw wedi'i chyhoeddi.

    • Os ydych yn dymuno darparu hyfforddiant cydnabyddedig, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod gennych ganiatâd i ddarparu'r hyfforddiant hynny.
      Bydd hyn ar ffurf ardystiad a / neu gytundeb rhwng eich sefydliad a'r corff dyfarnu.
      Bydd angen i chi lwytho copi o'r dogfennau hyn * i'r system.

* Byddwn yn derbyn copi wedi'i sganio fel ffeil ddelwedd (e.e. JPG neu PNG), neu gopi ffeil PDF / MS Word o'r ddogfen. Gallwch lwytho cymaint o ddogfennau / ffeiliau ag y dymunwch gefnogi'ch cais, ond rhaid i bob ffeil fod yn llai na 20MB.

Gwyliwch y fideo ar sut i gwblhau'r hunanasesiad a darparu tystiolaeth.

https://www.youtube.com/watch?v=bugowsfQLbk

Ar ôl i ni wirio'r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych, byddwn yn cadarnhau eich statws fel Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy CITB (ATO). Bydd angen i chi dalu eich ffi blynyddol ar yr adeg hon.

Yna byddwn yn ehangu eich caniatâd ar y CTD fel y gallwch adeiladu eich proffil a rhestru'r cyrsiau hyfforddiant y byddwch yn eu darparu. Bydd y cyfeirlyfr ar gael i gyflogwyr chwilio am gyrsiau hyfforddiant yn mis Ebrill 2018.

Watch the video below to learn how to set up a user to help you manage your CTD profile.

https://www.youtube.com/watch?v=DzxizRpeJdw

Watch the video below to learn how to list your courses and venues.

https://www.youtube.com/watch?v=HoiBXZ7k_no