Facebook Pixel
Skip to content

CITB yn darparu bron i £130m mewn cymorth grant i gyflogwyr adeiladu

Heddiw, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi rhyddhau ei ffigyrau diwedd blwyddyn ar gyfer cefnogi cyflogwyr a dysgwyr adeiladu trwy ei Gynllun Grantiau. Darparodd CITB bron i £130m mewn cymorth grant yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25.

Darparwyd £71.4m o hyn trwy amrywiol grantiau prentisiaeth CITB, gan gefnogi dros 30,000 o ddysgwyr a mwy na 10,000 o gyflogwyr, gyda’r mwyafrif o’r rhain yn gwmnïau adeiladu bach a micro.

Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, darparodd CITB £7.7m i gyflogwyr drwy’r cynllun Teithio i Hyfforddi, grant i helpu cyflogwyr i dalu costau teithio eu prentisiaid i’w coleg neu ddarparwr hyfforddiant ac oddi yno, yn ogystal ag unrhyw gostau llety sy’n ofynnol ar gyfer arosiadau dros nos. Mae’r cynllun yn helpu denu ystod fwy amrywiol o bobl i’r diwydiant, gan wneud hyfforddiant yn fwy hygyrch i ddysgwyr a chyflogwyr ledled y wlad. Y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cefnogodd CITB dros 3,500 o ddysgwyr a mwy na 1,300 o gyflogwyr drwy’r cynllun Teithio i Hyfforddi.

Ymhellach, darparodd CITB dros £50m yn fwy i gyflogwyr adeiladu drwy ei grantiau eraill, gan gynnwys £20m ar gyfer Grantiau Cymwysterau a £30.5m ar gyfer Grantiau Cyrsiau Byr, gan helpu i sicrhau gweithlu cymwys sydd wedi’i hyfforddi’n dda.

Mae cyhoeddi’r ffigurau hyn yn dilyn cyhoeddi Cynllun Strategol 2025-2029 CITB yn ddiweddar, lle mae CITB wedi ymrwymo dros £860m dros oes y Cynllun Strategol i ddenu dysgwyr newydd i’r diwydiant a chefnogi cyflogwyr i hyfforddi a datblygu eu gweithlu.

Mae CITB wedi lansio nifer o fentrau dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynyddu cefnogaeth i’r diwydiant sydd wedi profi’n hynod lwyddiannus. Cefnogodd ei Dîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (NEST) dros 4,000 o brentisiaethau newydd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf – bron i ddwbl nifer y prentisiaid newydd y maent wedi’u helpu i ymuno â’r diwydiant o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Mae NEST yn darparu cefnogaeth ymarferol, am ddim i helpu cyflogwyr i recriwtio prentisiaid, a bydd CITB yn dyblu maint ei raglen NEST i gefnogi busnesau bach a chanolig i recriwtio, ymgysylltu a chadw prentisiaid.

Yn ogystal, yn ei ail flwyddyn lawn o weithredu, cefnogodd Rhwydweithiau Cyflogwyr CITB 50,966 o ddysgwyr yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynnydd o 11,468 y flwyddyn gyntaf flaenorol. Mae Rhwydweithiau Cyflogwyr yn fenter a sefydlwyd ac a ariennir gan CITB sy’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth ariannol pwrpasol, hawdd ei gyrchu i gyflogwyr.

Dywedodd Adrian Beckingham, Cyfarwyddwyr Strategaeth a Pholisi yn CITB: “Rydym am ddarparu cefnogaeth amserol ac effeithiol i bob math o gwmni adeiladu. Mae’r nifer sy’n manteisio ar ein Cynllun Grantiau yn ardderchog i’w weld – mae ein cefnogaeth grant prentisiaethau 14% dros ein targed y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

“Mae’r ffaith bod 90% o’r cwmnïau sy’n derbyn ein cefnogaeth grant prentisiaeth yn fusnesau bach a micro hyd yn oed yn fwy calonogol – mae dros ddwy ran o dair o’r prentisiaethau sy'n dechrau yn y diwydiant adeiladu yn cael eu cyflogi gan gwmnïau sydd â llai na 50 o weithwyr. Mae iechyd cwmnïau adeiladu llai yn hanfodol er mwyn i’r diwydiant ehangach ffynnu.

“Mae perfformiadau anhygoel ein timau NEST a Rhwydwaith Cyflogwyr hefyd yn galonogol iawn. Mae digon o gefnogaeth ar gael, felly os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn prentisiaeth neu gyflogi prentis, rwy’n eich annog i gysylltu â CITB i ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi.”

  • Cefnogodd CITB fwy na 30,000 o ddysgwyr a thros 10,000 o gyflogwyr gyda grantiau prentisiaeth ym mlwyddyn ariannol 2024-25
  • Darparwyd £71.4m i gyflogwyr ar gyfer grantiau prentisiaeth
  • Darparodd CITB bron i £60m i gyflogwyr adeiladu trwy ei grantiau eraill
  • Mae Tîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid CITB bron wedi dyblu nifer y bobl y mae wedi’u helpu i ddechrau prentisiaeth.