Facebook Pixel
Skip to content

Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB yn dod i Gymru

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn cynnal ei Gynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant nesaf yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd ar Ionawr 28.

Bydd y digwyddiad yn llawn gweithdai a sgyrsiau diddorol gan aelodau allweddol o dîm gweithredol ac uwch arweinyddiaeth CITB, gan gynnwys Tim Balcon, Prif Swyddog Gweithredol, Deb Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Gweithrediadau, a Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymru.

Mae uchafbwyntiau agenda lawn y diwrnod yn cynnwys Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau Medr, Harriet Barnes, yn trafod y blaenoriaethau parhaus a rhai sydd ar ddod sy’n gysylltiedig ag adeiladu a’r amgylchedd adeiledig; a Mark Tambini, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru yn trafod ac yn rhoi trosolwg o Ddeddf Diogelwch Adeiladu a beth fydd yr effeithiau ar reoliadau adeiladu yng Nghymru. Bydd Elusen Lighthouse hefyd yn bresennol yn rhannu’r diweddariadau diweddaraf yn eu cynnig hyfforddiant ac yn gwneud rhagfynegiadau seiliedig ar dystiolaeth am ddyfodol y diwydiant adeiladu.

Mae Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB yn rhoi cyfle i gwmnïau adeiladu, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ddysgu mwy am bynciau perthnasol fel Deddf Diogelwch Adeiladu ac yn rhoi cefnogaeth un-i-un iddynt ar gael mynediad at gyllid gan CITB a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu. Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle i CITB ymgysylltu ac ymgynghori â’i gyflogwyr cofrestredig a’i ddarparwyr hyfforddiant wyneb yn wyneb.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb derfynol ar gyfer 2026-2027, ac o fewn y pot o £1.2 biliwn, ymrwymodd £100 miliwn pellach o gyllid refeniw a chyfalaf, a fydd yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan gynnwys prentisiaethau ac addysg bellach.

Dywedodd Deb Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Gweithrediadau CITB: “Mynychu un o’n cynadleddau a chlywed yn uniongyrchol gennym ni yw’r ffordd orau o ddysgu am yr hyn sydd ar gael gan CITB. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gyflogwyr rwydweithio â chwmnïau o’r un anian a chwrdd â darparwyr hyfforddiant.

“Mae cydweithio’n hanfodol i fynd i’r afael â’r anghenion sgiliau o fewn y sector adeiladu. Mae’r gynhadledd hon yn dwyn ynghyd leisiau o bob cwr o’r diwydiant i drafod llawer o bynciau gwahanol a sicrhau bod gan y gweithlu’r sgiliau, yr hyder a’r holl gyfleoedd sydd eu hangen i ffynnu.”

Mae sawl gweithdy drwy gydol y dydd i ddewis ohonynt, a bydd y digwyddiad yn gorffen gyda Sesiwn Holi ac Ateb gyda thîm CITB. Os hoffech ymuno â phobl eraill o’r un anian yng Nghynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB yng Nghaerdydd ar Ionawr 28, cofrestrwch yma. I weld yr agenda lawn, cliciwch yma.