Grantiau cyrsiau byr
Os ydych yn cwblhau cwrs hyfforddiant byr, mae gennych 20 wythnos ar ôl i'r cwrs gael ei gwblhau i wneud cais am grant.
Ar y dudalen hon fe welwch y canlynol:
- Trosolwg
- Pwy all wneud cais am y grant hwn?
- Faint yw’r grant?
- Faint o geisiadau a ganiateir?
- Sut i wneud cais
- A ydych chi wedi anfon eich manylion banc i ni?
Trosolwg
Rydym yn talu grantiau ar gyfer cyflawni cyrsiau byr cymeradwy, sy'n para rhwng 3 awr a 29 diwrnod ac sy'n canolbwyntio ar y sgiliau adeiladu craidd sydd eu hangen ar draws y diwydiant.
Telir grantiau cyrsiau cyfnod byr am gyflawni hyfforddiant cyfnod byr sy'n cyd-fynd â safonau cymeradwy sy'n gysylltiedig ag adeiladu, neu at deitlau safonol cymeradwy lle mae'r safonau'n cael eu datblygu.
Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant peiriannau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gyrsiau cynllun cerdyn ac elfennau theori ac ymarferol o brofion technegol y Cynllun Cymhwysedd Offer Adeiladu (CPCS).
Pwy all wneud cais am y grant hwn?
Gallwch wneud cais os ydych wedi cofrestru gyda ni ac yn bodloni amodau a thelerau'r Cynllun Grantiau cyffredinol a meini prawf y cwrs yn y grant hwn. Mae grantiau cyrsiau byr ar gael i'r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol a'r holl is-gontractwyr.
Chwiliwch y rhestr lawn o hyfforddiant cyfnod byr syn gymwys am grant
Sylwer ein bod yn parhau i ddatblygu safon lawn ar gyfer rhai o'r cyrsiau hyn ar ran y diwydiant adeiladu. Rydym wedi rhestru teitlau'r cyrsiau yn ôl teitlau'r safonau hyfforddiant sy'n cael eu datblygu.
Mewn rhai achosion, mae teitl safonol yr hyfforddiant yn ymgorffori sawl teitl cwrs unigol o dan deitl cyffredin. Felly, os na allwch ddod o hyd i deitl cwrs penodol ar y dechrau, chwiliwch am dermau allweddol.
Darperir cyrsiau cymeradwy gan Sefydliadau Hyfforddiant Cymeradwy CITB (ATOs) a fydd yn cael eu rhestru yn y Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu
Gellir cyflwyno cyrsiau mewn sawl ffordd a diffinnir y dulliau cyflwyno a dderbynnir gan y sector diwydiant o fewn safon y cwrs a gyhoeddwyd, gan gynnwys:
- ystafell ddosbarth, lle mae'r cwrs am gyfnod llawn fel y cyhoeddwyd yn y safon
- e-ddysgu, lle mae'r cwrs o leiaf 50% o'r cyfnod fel y yhoeddwyd yn y safon
- cyfuniad o ystafell ddosbarth ac e-ddysgu, lle mae'r cwrs o leiaf 75% o'r cyfnod a gyhoeddwyd yn y safon
Er enghraifft, lle mae safon gyhoeddedig yn diffinio'r cyfnod fel 1 diwrnod, rhaid i gwrs yn yr ystafell ddosbarth fod yn ddiwrnod llawn i gyd-fynd â'r safon, tra bod yn rhaid i gwrs e-ddysgu fod o leiaf hanner diwrnod (3 awr) i gyd-fynd â'r safon.
Dim ond pan fydd safon lawn wedi'i datblygu a'i bod ar waith y mae e-ddysgu yn fath dderbyniol o hyfforddiant.
Dros amser, bydd rhai safonau cwrs yn cael eu tynnu'n ôl neu eu disodli i gyd-fynd â gofynion y diwydiant. Mae Gweithgorau Galwedigaethol sy'n cynrychioli gwahanol sectorau'r diwydiant wedi cytuno nad yw'r safonau cwrs hyn bellach yn berthnasol nac yn angenrheidiol gan y sector. Rydyn ni'n rhoi rhybudd lle rydyn ni'n tynnu safon yn ôl er mwyn i chi weld a ydych chi wedi cwblhau'r hyfforddiant cyn y dyddiad tynnu'n ôl, gallwch chi wneud cais am grant ar gyfer y cwrs o hyd.
Chwiliwch am safonau a gweld pa rai sydd wedi’u tynnu’n ôl
Fel arall, gallwch lawr lwytho rhestr o godau grant isod. Mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru bob mis, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r fersiwn gywir bob tro y byddwch chi'n cyflwyno cais.
Codau grant ar gyfer Safonau Cwrs Byr (PDF, 639KB)
Os ydych chi'n gwybod am gwrs sy'n gysylltiedig ag adeiladu nad ydych chi'n credu sydd eisoes wedi'i nodi ar y rhestr o hyfforddiant sy'n gymwys i gael grant, cwblhewch ein ffurflen awgrymu cwrs.
Faint yw’r grant?
Rydym yn talu grantiau ar gyfradd tair haen. Mae'r haen yn cael ei phennu gan hyd a chynnwys y cwrs
- Mae haen 1 yn £30
- Mae haen 2 yn £70
- Mae haen 3 yn £120
Gallwch ddarganfod pa haen grant sydd gan gwrs o'r rhestr o gyrsiau cymeradwy.
Dim ond unwaith y byddwn yn talu grant ar gyfer pob unigolyn ar bob cwrs, oni bai bod safon yn nodi bod angen adnewyddu.
Dim ond unwaith yr unigolyn a’r hyd oes y telir grant ar gyfer safonau datblygu gan nad yw'r gofyniad am adnewyddiad wedi'i bennu eto.
Cyrsiau adnewyddu
Mae’r cyrsiau adnewyddu’n cynnwys ailadrodd cwrs llawn.
Os yw'r safon yn ei gwneud yn ofynnol i'r hyfforddiant gael ei adnewyddu ar ôl amser penodol, gallwch wneud cais am grant llawn ar ei gyfer, ar yr amod bod y cwrs adnewyddu wedi'i gwblhau o fewn y cyfnod amser hwnnw.
Dim ond unwaith y gallwch wneud cais am grant ar gyfer hyfforddiant adnewyddu o fewn y cyfnod amser gofynnol.
Cyrsiau gloywi
Mae cyrsiau gloywi yn diweddaru gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cwrs hyfforddiant cyfnod byrrach na'r cwrs hyfforddi llawn, gwreiddiol.
Y grant sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant gloywi yw 50% o'r cyfraddau Haen 1, 2 neu 3 a roddir ar gyfer y cwrs hyd lawn wreiddiol.
Dim ond ar ôl i safon hyfforddi lawn gael ei datblygu a'i bod ar waith y byddwn yn cefnogi cyrsiau gloywi.
Cyfraddau grant profion peiriannau
Telir grant am basio elfennau theori ac elfennau ymarferol profion technegol CPCS yn unig.
Mae’r elfennau theori yn £60 yr un, hyd at uchafswm o 2 y pen ym mhob blwyddyn Cynllun Grantiau.
Telir elfennau ymarferol ar gyfraddau gwahanol yn dibynnu ar gategoi’r peiriannau, hyd at uchafswm o 2 y pen ym mhob blwyddyn Cynllun Cynllun Grantiau:
- Haen 1: £190
- Haen 2: £240
- Haen 3: £410
Faint o geisiadau a ganiateir?
Mae cap ar faint o geisiadau y gallwch eu gwneud ar gyfer cyflawniadau cyfnod byr mewn unrhyw flwyddyn Cynllun Grantiau. Nid yw'r cap hwn yn berthnasol i grant profion peiriannau lle telir uchafswm o brofion y pen, y flwyddyn (gweler uchod).
Rydym yn cyfrifo'r rhif hwn o'ch Ffurflen Lefi 2020 neu 2021, yn seiliedig ar faint o weithwyr sydd gennych ar y rhestr gyflogau a'ch cyflogau ar gyfer is-gontractwr.
Rydym yn ychwanegu:
- nifer y gweithwyr sydd ar y rhestr gyflogau
- nifer yr is-gontractwyr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yr ydych yn gwneud didyniadau treth CIS ohonynt (isgontractwyr CIS Net). (Rydym yn cyfrifo'r ffigwr hwn trwy rannu cyfanswm eich cyflog CIS Net â £36,000 sef cyflog cyfartalog yr is-gontractwr yn seiliedig ar enillion o £750 yr wythnos dros 48 wythnos.)
Os yw eich ffigwr cyflog CIS Net yn llai na £3 miliwn, byddwn yn defnyddio cyfanswm eich ffigwr cyflog CIS (gros a net) yn lle, hyd at uchafswm o £3 miliwn.
Yna byddwn yn cymryd swm y ddau ffigwr ac yn ei luosi â 5 i gael cyfanswm y cap ar gyfer eich gweithlu cyfan am y flwyddyn.
Sylwer: os yw'ch cap yn gweithio allan i fod yn llai na 35 o gyflawniadau mewn blwyddyn grant, bydd yn cael ei addasu hyd at 35.
Sut i wneud cais
Dylech wneud eich cais trwy eich Sefydliad Hyfforddiant Cymeradwy CITB (ATO) yn y Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu, gan roi manylion perthnasol y sawl sy'n rhoi cynnig ar y cymhwyster a'ch rhif cofrestru 7 digid CITB.
Pan fydd yr unigolyn wedi cwblhau'r cwrs, bydd y darparwr yn diweddaru'r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu a dylech gael y taliad grant yn awtomatig.
Cysylltwch â'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid os nad ydych wedi cael eich taliad o fewn mis i gwblhau'r cwrs.
Os nad yw'ch darparwr hyfforddiant wedi cwblhau proses gymeradwyo ATO CITB hyd yma, bydd angen i chi wneud cais trwy CITB Online o fewn 20 wythnos ar ôl cwblhau'r cwrs.
Eithriadau
Os yw eich dysgwr wedi cyflawni prawf CPCS neu gwrs Diogelwch Safle ychwanegol (SSP), neu os ydych chi'n defnyddio Sefydliad Hyfforddiant Cymeradwy (ATO), nid oes angen i chi wneud cais am grant cwrs Byr. Byddwn yn gwneud taliad yn awtomatig, os ydych chi’n gymwys, trwy Bacs gan ddefnyddio'r data a ddarperir wrth archebu'r cwrs. Sicrhewch eich bod yn rhoi’ch rhif cofrestru 7 digid wrth archebu.
Darganfyddwch mwy am sut i wneud cais am grant cwrs byr.
A ydych chi wedi anfon eich manylion banc?
Telir grantiau trwy drosglwyddiad banc. Os nad oes gennym eich manylion banc cyfredol, cwblhewch a chyflwynwch Ffurflen Awdurdodi Credyd Uniongyrchol Bacs ar-lein er mwyn cael taliadau grant.