Facebook Pixel
Skip to content

Gwybodaeth allweddol i gyflogwyr sydd newydd gofrestru

Mae CITB yma i gefnogi'r diwydiant adeiladu. Rydym yn helpu cyflogwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Lefi fel chi i ddatblygu eu gweithlu trwy ddarparu grantiau a chyllid ar gyfer hyfforddiant. Rydym yn gweithio gyda diwydiant i osod ac adolygu safonau hyfforddiant i wella diogelwch safleoedd ac rydym yn hyrwyddo adeiladu fel dewis gyrfa gadarnhaol i ddenu talent newydd i'r diwydiant.

Mae angen i chi gofrestru gyda CITB os yw eich busnes yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â gweithgareddau'r diwydiant adeiladu a'ch bod yn cyflogi staff ar y system gyflog a/neu isgontractwyr. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gofrestru.

Gwybodaeth am y Ffurflen Lefi

Unwaith y bydd eich busnes wedi'i gofrestru gyda CITB, rhaid i chi gwblhau ac anfon Ffurflen Lefi flynyddol waeth faint rydych wedi'i dalu i'ch gweithwyr.

Byddwch yn cael eich Ffurflen Lefi flynyddol gyntaf ym mis Mai yn dilyn eich cofrestriad gyda’ch Asesiad Lefi cyntaf yn y mis Ebrill dilynol.

Gellir cyflwyno eich Ffurflen Lefi flynyddol ar-lein neu drwy'r post a bydd angen i chi ei dychwelyd erbyn 30 Mehefin i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar daliadau grant a chyllid. Bydd methu â chyflwyno Ffurflen Lefi wedi'i chwblhau yn arwain at roi asesiad amcangyfrifedig, cliciwch yma i gael gwybodaeth am Ffurflen Lefi a dyddiadau cau.

I gwblhau eich datganiad ar-lein Cofrestrwch ar gyfer CITB ar-lein

 

Faint o Lefi fyddwch chi'n ei dalu?

Fel cyflogwr sydd wedi cofrestru gyda’r Lefi, mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gwblhau Ffurflen Lefi, gan gynnwys manylion bil cyflog eich cwmni ac unrhyw daliadau a wneir i isgontractwyr. Mae hyn yn ein helpu i asesu a oes angen i chi dalu Lefi, gan nad yw pob cyflogwr.

Gweler y cyfraddau Lefi presennol, a gwybodaeth am yr ‘Eithriad Lefi i  Fusnesau Bach’ a’r ‘Gostyngiad Lefi i Fusnesau Bach’ sydd ar gael i gyflogwyr sydd â bil cyflog o dan £400,000.

I’ch helpu i weld sut olwg fydd ar eich Lefi CITB, rydym wedi cynhyrchu cyfrifiannell Lefi syml.

Pryd i Dalu?

Mae angen i chi dalu'r Lefi, neu sefydlu Debyd Uniongyrchol i'w thalu mewn rhandaliadau, o fewn mis i dderbyn eich Hysbysiad Asesiad Lefi.

Mae dwy ffordd y gallwch dalu’r Lefi:

  • Trwy Ddebyd Uniongyrchol mewn rhandaliadau misol di-log. Mae'r gwasanaeth hwn yn eich helpu i ledaenu'r taliadau ar draws blwyddyn ac mae'n hawdd ei sefydlu.
  • yn llawn fel un cyfandaliad.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i dalu neu sefydlu debyd uniongyrchol.

Grant a chyllid CITB

Gallwch wneud cais am grantiau a chyllid yn syth o ddyddiad eich cofrestriad â Lefi, gallwch hefyd wneud cais am grantiau prentisiaeth am y cyfnod o 12 mis cyn eich dyddiad cofrestru.

Grant

Mae ein grantiau’n cefnogi cyflogwyr sy’n darparu hyfforddiant o ddydd i ddydd i’w gweithlu, gan gyfrannu at gost hyfforddi a chymhwyso eich gweithlu mewn pynciau sy’n ymwneud ag adeiladu ar draws y tri chategori canlynol

Grantiau cyrsiau byr – cyrsiau o 3 awr i 29 diwrnod

Grantiau cymwysterau – gan gynnwys NVQ, cyrsiau gradd a thystysgrifau crefft Uwch (yr Alban yn unig)

Grantiau prentisiaeth – ledled Cymru, Lloegr a’r Alban

Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant

Nod y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant yw helpu busnesau i ddatblygu sgiliau eu gweithlu trwy ariannu cost hyfforddiant o ansawdd uchel sydd naill ai'n benodol i adeiladu neu arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae hawl i gyllid yn amrywio yn dibynnu ar nifer y gweithwyr uniongyrchol:

  • Gall cyflogwyr sydd ag 1 i 49 o staff a gyflogir yn uniongyrchol gael hyd at £5000
  • Gall cyflogwyr sydd â 50 i 74 o staff a gyflogir yn uniongyrchol gael hyd at £7500
  • Gall cyflogwyr sydd â 75 i 99 o staff a gyflogir yn uniongyrchol gael hyd at £10000
  • Gall cyflogwyr sydd â rhwng 100 a 149 o staff a gyflogir yn uniongyrchol gael hyd at £15,000
  • Gall cyflogwyr sydd â rhwng 150 a 199 o staff a gyflogir yn uniongyrchol gael hyd at £20,000
  • Gall cyflogwyr sydd â rhwng 200 a 250 o staff a gyflogir yn uniongyrchol gael hyd at £25,000

Rhagor o wybodaeth am y gronfa Sgiliau a Hyfforddiant.

Cael Cefnogaeth

Fel cyflogwr sydd wedi'i gofrestru gyda Lefi, gallwch elwa ar ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys Ymgynghorydd CITB lleol penodol. Gallant eich helpu i ddynodi anghenion hyfforddiant eich cwmni a rhoi cefnogaeth i gael mynediad at grantiau a chyllid posibl ar gyfer hyn.

I gysylltu â Ymgynghorydd CITB, e-bostiwch customerengagement@citb.co.uk  neu ewch ar Cysylltwch â CITB

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghy;ch eich cofrestriad neu eich cyfrif gallwch gysylltu â ni drwy ein gwasanaeth sgwrs ar-lein neu drwy e-bostio levy.grant@citb.co.uk 

Cadw ar y blaen â CITB

I gadw ar y blaen â'r newyddion diweddaraf am y diwydiant a chael gwybod am ddigwyddiadau CITB – gan gynnwys manylion am ble y gallwch chi gyfarfod â’ch Ymgynghorydd CITB lleol – cofrestrwch ar