Facebook Pixel
Skip to content

Sut i lenwi eich Ffurflen Lefi

Mae llenwi eich Ffurflen Lefi yn ofyniad cyfreithiol.  Mae’n sicrhau y gallwch gael gafael ar grantiau, cyllid a chymorth arall ar gyfer hyfforddiant.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i’ch tywys drwy bob adran o’ch Ffurflen Lefi.

Gallwch gael gwybod sut i lenwi’r canlynol:

Rhestr wirio

Cyn dychwelyd eich Ffurflen Lefi atom, gwnewch yn siŵr eich bod wedi:

  • Gwirio enw a manylion eich busnes
  • Llenwi’r holl flychau perthnasol
  • Cynnwys manylion unrhyw Sefydliadau a Ragnodir rydych yn perthyn iddynt yn Adran 1a
  • Cynnwys cyflogau eich cyfarwyddwyr yn Adran 2, os yw’ch busnes yn gwmni cyfyngedig
  • Esbonio pam, os ydych chi wedi datgan cyflogres sero yn Adran 2
  • Diweddaru eich manylion cyswllt ar gyfer y Lefi
  • Rhoi eich enw a’ch Rhif Cofrestru CITB ar unrhyw dudalennau parhad a’u hatodi’n sownd
  • Ysgrifennu symiau mewn punnoedd cyfan yn unig, gan anwybyddu ceiniogau neu wedi rhoi ‘0’ lle bo’r gwerth yn sero
  • Darllen y datganiad a llofnodi’r datganiad yn Adran 6.

Rydym yn argymell eich bod yn cadw copi o’r Ffurflen Lefi CITB wedi'i llofnodi ar gyfer eich cofnodion.

Manylion eich busnes gan gynnwys y prif weithgaredd (Adran 1)

Gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth yn yr adran hon yn gywir. Dylai hyn gynnwys enw eich busnes os yw’n berthnasol, cyfeiriad eich busnes a’ch rhif cofrestru.

Os oes unrhyw wybodaeth yn anghywir, rhowch groes drwyddi ac ychwanegu’r manylion newydd.  Os yw’ch rhif cofrestru yn anghywir, cysylltwch â levy.grant@citb.co.uk a rhoi gwybod i ni.

Ychwanegwch eich rhif Tŷ’r Cwmnïau os oes gennych chi un. Dim ond os yw’ch busnes wedi’i ymgorffori fel cwmni cyfyngedig fydd gennych chi rif Tŷ’r Cwmnïau.

Mae cwmni yn endid cyfreithiol sydd â hunaniaeth ar wahân i’r rheini sy’n berchen arno neu’n ei redeg.

Beth yw fy mhrif weithgaredd?

Y gweithgaredd sy’n cynrychioli eich busnes orau ddylai’r prif weithgaredd fod. Os yw wedi newid, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn ar y Ffurflen Lefi.

Mae rhestr o’r prif weithgareddau ar gael ar y dudalen Pwy ddylai gofrestru â CITB?.

Aelodaeth o Sefydliadau Rhagnodedig (Adran 1a)

Rydym yn ymgynghori’n rheolaidd â’r Sefydliadau Rhagnodedig, sy’n cynrychioli cyflogwyr o bob rhan o’r diwydiant ar faterion allweddol sy’n ymwneud â’r Lefi, gan gynnwys cyfraddau a throthwyon y Lefi.

Mae Sefydliad Rhagnodedig yn cyfeirio at sefydliad a fydd yn siarad ar ran ei aelodau yn gyfunol ynghylch y cynigion Lefi. Mae’n debygol o fod yn ffederasiwn neu’n gymdeithas rydych yn aelod ohonynt yn y diwydiant adeiladu.

Yn y gwagle a ddarperir, nodwch unrhyw Sefydliadau Rhagnodedig rydych yn perthyn iddynt yn Adran 1a. Mae’r wybodaeth hon yn ein galluogi ni i gyfrifo lefel cynrychiolaeth cyflogwyr pob sefydliad.

Nid ydym yn pasio unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni ymlaen at Sefydliadau Rhagnodedig.

Peidiwch â gadael Adran 1a yn wag. Os nad ydych yn perthyn i Sefydliad Rhagnodedig, dylech nodi ‘dim’.

I gael rhestr nad yw’n gyflawn, ac i weld pam mae angen yr wybodaeth hon arnom, Sefydliadau Rhagnodedig

Enwau llawn unig fasnachwyr neu bartneriaid (Adran 1b)

Os ydych chi’n unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth yn yr adran hon yn gywir. Os oes unrhyw wybodaeth yn anghywir, croeswch drwyddi ac ychwanegu manylion newydd.

Peidiwch â llenwi’r adran hon os yw’ch busnes yn gwmni cyfyngedig.

Taliadau i weithwyr, gan gynnwys cyfarwyddwyr sy’n cael eu talu (Adran 2)

Blwch A

Rhowch gyfanswm eich taliadau trethadwy gros i bob gweithiwr ar y gyflogres, gan gynnwys cyfarwyddwyr sy’n cael eu talu.

Y ffigur hwn yw cyfanswm y flwyddyn ar eich cofnodion cyflogres y byddwch wedi’i gyflwyno i CThEF.

Peidiwch â chynnwys ceiniogau yn eich cofnod. Dylai'r ffigur a roddir gael ei roi mewn punnoedd cyfan yn unig, gan anwybyddu unrhyw geiniogau.

Peidiwch â gadael Blwch A yn wag, os yw’r swm yn sero, rhowch ‘0’.

Os yw’ch cofnod ar gyfer blwch A yn sero, nodwch y rheswm pam oedd eich taliadau i weithwyr yn sero yn y gwagle. Peidiwch â gadael hwn yn wag. Sylwch fod cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig yn cyfrif fel gweithwyr ac y dylid eu cynnwys; os na wnaed taliadau i gyfarwyddwyr, dylid datgan hyn yma.

Nodwch y rheswm dros y sero ar y gyflogres, efallai fod hyn oherwydd bod cyfarwyddwyr heb eu talu, bod unig fasnachwyr wedi’u talu fel tyniad, neu’ch bod yn defnyddio llafur drwy is-gontractwyr yn unig.

Mae angen i chi gynnwys:

  • Pob taliad TWE i staff gan gynnwys cyfarwyddwyr sy’n gweithio, staff gweinyddol a chlerigol, ac unrhyw staff sydd wedi gadael

Ni ddylech gynnwys:

  • Pensiynau
  • Tyniadau partneriaid ac unig fasnachwyr
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NIC) y cyflogwr
  • Difidendau
  • Taliadau i weithwyr hunangyflogedig, is-gontractwyr neu staff asiantaeth.

Blwch B

Rhowch nifer cyfartalog y gweithwyr ar y gyflogres. 

Dylid cyfrif gweithwyr rhan-amser fel ffracsiynau priodol o weithwyr amser llawn.

Ni fydd nifer y gweithwyr sydd wedi’u rhestru ar eich Ffurflen Lefi yn effeithio ar eich Asesiad Lefi, ond mae’n ein helpu ni gyda data’r gofrestr ac yn ein helpu i ganfod gwallau cyffredin ar gyflwyniadau.

Beth am gwmnïau segur?

Mae’n rhaid i gwmnïau segur lenwi Ffurflen Lefi flynyddol.  Llenwch y ffurflen gan sicrhau eich bod yn rhoi ‘Segur’ fel y rheswm dros y sero ar y gyflogres yn Adran 2, neu fel arall gallwch farcio

‘Segur’ yn glir ar y ffurflen gan sicrhau eich bod yn llenwi'r datganiad yn Adran 6.

Taliadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) (Adran 3)

Caiff rhan o'r Lefi ei chyfrifo yn seiliedig ar daliadau a wneir i is-gontractwyr CIS sy’n derbyn taliadau net (trethadwy).

Ni fydd y Lefi yn cael ei asesu ar unrhyw daliadau a wneir i is-gontractwyr CIS sy’n derbyn taliadau gros

Sylwch: os nad ydych wedi defnyddio unrhyw lafur is-gontractwyr drwy Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ym mlwyddyn y Lefi, ni fydd gennych ffigurau i’w cyfrifo ar gyfer yr adran hon, ond gofynnwn i chi roi ‘0’ ym mlychau C a D er mwyn i ni wybod bod y gwerth yn sero ac nad yw’r adran wedi cael ei methu mewn camgymeriad.

Blwch C

Rhowch eich cyfanswm ar gyfer y dreth a ddidynnwyd gan is-gontractwyr drwy CIS. Gellir cael y ffigur hwn drwy gyfrifo cyfanswm y ffurflenni contractwyr ar-lein/CIS300 fesul 12 mis y mae eich busnes wedi’u cyflwyno i CThEF yn ystod y flwyddyn.

Blwch D 

Rhowch gyfanswm eich holl daliadau (cyn didyniadau) i’r holl is-gontractwyr CIS. Gellir canfod y ffigur hwn yn y golofn sydd â’r pennawd ‘Cyfanswm y taliadau a wnaed (peidiwch â chynnwys TAW)’ ar y ffurflenni contractwyr ar-lein/CIS300 fesul 12 mis rydych wedi'u cyflwyno i CThEF yn ystod y flwyddyn.

Peidiwch â chynnwys ceiniogau yn eich cofnod. Dylai'r ffigur a roddir gael ei roi mewn punnoedd cyfan yn unig, gan anwybyddu unrhyw geiniogau.

Peidiwch â gadael Blwch A yn wag, os yw’r swm yn sero, rhowch ‘0’.

Ydych chi wedi didynnu treth ar gyfradd o 30% oddi ar rai is-gontractwyr, neu bob un ohonynt, sy’n cael eu talu drwy CIS?

  • Os mai ‘Naddo’ yw’ch ateb i’r cwestiwn hwn, dilynwch y cyfarwyddiadau ym mlwch E a mynd ymlaen i'r adran nesaf
  • Os mai ‘Do’ yw’r ateb i’r uchod, dylech lenwi blwch F, gan roi eich taliadau i is-gontractwyr trethadwy, llai deunyddiau

Pam mae Blwch F yn bwysig?

Mae’r cyfrifiad Lefi sydd wedi’i gymhwyso i Flwch C yn cymryd bod yr holl is-gontractwyr wedi’u trethu ar 20%. Os yw cyfrifiad y Lefi yn seiliedig ar y ffigur ym Mlwch C a bod rhai is-gontractwyr wedi’u trethu ar 30%, bydd eich bil Lefi yn uwch nag y dylai fod.

Mae Blwch F wedi’i ddarparu i ganiatáu i chi gyfrif am daliadau i is-gontractwyr lle mae treth wedi cael ei ddidynnu ar 20% a 30%. Felly, dylai Blwch F ddatgan swm cywir y taliadau i is-gontractwyr sy’n agored i Lefi er mwyn gallu cyfrifo Asesiad y Lefi yn fanwl gywir.

Cyfrifo Blwch F – eich taliadau i is-gontractwyr trethadwy, llai deunyddiau.

I gyfrifo Blwch F yn gywir, adiwch at ei gilydd gyfanswm y taliadau a wnaed i’r holl gontractwyr lle gwnaethoch ddidynnu treth, a thynnu cost eu deunyddiau (y talwyd amdanynt gan bob is-gontractwr) o bob llinell ar eich ffurflenni contractwyr ar-lein/CIS200 o fis Mai i fis Ebrill.

Dylai’r ffigur terfynol gynnwys y rheini sy’n cael eu trethu ar 20% a’r rheini sy’n cael eu trethu ar 30% i roi asesiad manwl gywir i chi.

Sylwer:  dylai’r ffigur hwn fod yn llai na Blwch C (cyfanswm y dreth wedi'i didynnu gan is-gontractwyr drwy CIS) wedi lluosi â 5 ond yn fwy na Blwch C wedi lluosi â 3.3.

Sefydliadau (Adran 4)

Caiff sefydliad ei ystyried yn endid yn unol ag ystyr masnachol tŷ busnes neu sefydliad masnachol ar wahân. Nid yw’n cynnwys adrannau mewnol, lleoliadau swyddfeydd ar wahân, safleoedd adeiladu, iardiau ac ati.

Yn y gwagle a ddarperir, rhowch gyfanswm y sefydliadau sydd wedi’u cynnwys yn y ffigurau ar eich Ffurflen Lefi.

Os oes gennych fwy nag un sefydliad adeiladu, rhowch y manylion ar gyfer pob un ar dudalen 2 neu ar daflen ar wahân wedi'i hatodi’n sownd i’ch Ffurflen Lefi. Os nad oes gan eich sefydliad adeiladu Rif Cofrestru CITB ar hyn o bryd, neu os nad ydych yn ei wybod, gadewch y golofn hon yn wag.

Dylai hyn gynnwys unrhyw fusnes nad yw wedi'i nodi yn Adran 1 sydd wedi’i gynnwys yn eich taliadau i weithwyr (Adran 2) a thaliadau i is-gontractwyr drwy CIS (Adran 3).

Manylion cyswllt ar gyfer y lefi (Adran 5)

Ewch ati i ddiwygio’r manylion cyswllt ar gyfer y Lefi os ydynt yn anghyflawn neu llenwch nhw os ydynt yn wag, er mwyn i ni allu parhau i gyfathrebu â’r unigolyn iawn. 

Sylwch: os byddwch yn tynnu cyswllt fel eich prif gyswllt ar gyfer y Lefi, byddwn yn cymryd bod angen iddo barhau i fod yn gyswllt ar gyfer eich busnes.  Os ydych yn dymuno ei dynnu, dylech anfon e-bost at levy.grant@citb.co.uk

Datganiad (Adran 6)

Pan fydd y ffurflen wedi’i llenwi, ewch ati i lofnodi a chwblhau’r datganiad.  Mae angen i’r datganiad gael ei lofnodi gan gyfarwyddwr, ysgrifennydd y cwmni, neu rywun sydd mewn safle â chyfrifoldeb tebyg.