Facebook Pixel
Skip to content

Mae Esh Group yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf i leihau carbon

Mae adeiladu a gweithredu'r amgylchedd adeiledig yn cyfrif am bron i hanner yr holl allyriadau nwy tŷ gwydr yn y DU. Â tharged y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd i leihau allyriadau carbon o 80% erbyn 2050, mae gan y diwydiant gryn dipyn i'w wneud eto.

“Mae rheoli carbon yn bwysig dros ben. Ond mae llawer o bobl heb sylweddoli bod gennym y targedau hyn,” meddai Simon Park, Ymgynghorydd Ynni ac Amgylcheddol yn Esh Group. “Fe welsom fwlch yn y farchnad.”

Dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf

Fe wnaeth y tîm yn Esh Group gais llwyddiannus am gyllid gan CITB i fynd i'r afael â'r her, gan arwain at ddatblygu cwrs hyfforddi aml-gyfrwng ar-lein ar reoli ac adeiladu carbon o'r enw Carbon Coach.

“Mae'r cwrs yn darparu cyflwyniad da iawn i reoli carbon yn yr amgylchedd adeiledig a'r wybodaeth i ymateb i dargedau lleihau carbon, a anelir at brentisiaid,” meddai Simon.

Pam prentisiaid? “Mae'n bwysig iawn dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o arweinwyr adeiladu. Fe ofynnir i brentisiaid wneud llawer o bethau, ond efallai na fyddant yn deall y cyd-destun y tu ôl iddo,” meddai.

“Rydym wedi cael adborth gwych. Dywedodd un hyfforddai: ‘'Roedd Carbon Coach yn ardderchog gan ei fod wedi fy addysgu am yr hyn sy'n digwydd i'r byd oherwydd newid yn yr hinsawdd a sut mae hyn yn cyd-fynd â'm rôl wrth weithio yn y diwydiant adeiladu.’” 

Dysgu 'cyfnodau byr' hyblyg  

Gan ddefnyddio fideo, delweddau, testun a gweithgareddau, mae Carbon Coach yn cynnwys pedwar modiwl ar newid yn yr hinsawdd, ynni, cynllunio carbon isel a rheoli ynni.

Mae pob modiwl yn cymryd oddeutu 30-45 munud i'w gwblhau ac wrth iddynt symud ymlaen, mae dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o'r cyswllt rhwng newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd adeiledig. Mae pasio cwis byr ar ddiwedd pob modiwl - mae angen sgôr o 80% o leiaf - yn eu galluogi i symud ymlaen i'r un nesaf.

“Gall pobl ei wneud yn eu hamser eu hunain. Mae llawer i'w ddeall, ond gallwch chi wneud y cwrs mewn darnau bach. Mae gwneud un modiwl ar y tro yn golygu bod y cynnwys yn treiddio'n well,” meddai.

Ac nid prentisiaid yn unig sy'n elwa ar fanteision cwrs ar-lein y gallant ei drefnu o gwmpas astudiaethau a gweithio. Gall y tîm Esh Group fewngofnodi'n hawdd ar unrhyw adeg i ddiweddaru cynnwys a gweld data defnyddwyr ar gyrsiau wedi'u cwblhau.

Ciplun

Cwmni: Esh Group

Sector: Gwasanaethau adeiladu

Yr her: Galluogi arweinwyr y dyfodol i fynd i'r afael â'r her reoli carbon

Cyllid:  £51,467

Math o granfa:  Cronfa Hyblyg a Strwythuredig

Lleoliad: Gogledd Lloegr, Canolbarth a De'r Alban

Effaith: Wedi gwella gwybodaeth prentisiaid ynghylch sut mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd

“Gall pobl ei wneud yn eu hamser eu hunain. Mae gwneud un modiwl ar y tro yn golygu bod y cynnwys yn treiddio'n well.” 

- Simon Park, Ymgynghorydd Ynni ac Amgylcheddol, Esh Group.

Ehangu gorwelion

Roedd heriau ar hyd y ffordd. Y rhan anoddaf o ddatblygu'r cwrs oedd penderfynu beth i'w gynnwys, meddai Simon. “"Mae ystod eang o wybodaeth ar gael,” meddai. “O'r newid yn yr hinsawdd i reoli ynni carbon isel - gallai pob un ohonynt fod yn gwrs ar ei ben ei hun! Doedden ni ddim am golli hyfforddeion.”

Er mwyn cadw'r ffocws yn dynn, fe gyflogodd Simon artist trosleisio proffesiynol. “Roedd yn dda ei gael i arwain pobl trwy'r cynnwys, oherwydd mae rhywfaint ohono'n eithaf technegol. Fe eglurodd bethau mewn modd syml.”

Yn ystod y 18 mis cyntaf ar ôl y lansiad, roedd 163 o brentisiaid wedi cymryd y cwrs. Erbyn hyn mae Esh Group wedi ei wneud yn orfodol i'w holl brentisiaid technegol a phrifysgol gwblhau Carbon Coach.

Ond mae eraill y tu hwnt i'r cwmni yn gweld y manteision hefyd. Mae oddeutu 15 o gleientiaid wedi darparu'r cwrs i'w prentisiaid, gan gynnwys Northumbrian Water a myfyrwyr MSc Prifysgol Newcastle mewn Rheoli Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd.

Mae CITB wedi helpu'r cwmni i ledaenu'r gair, gan ddod â budd calonogol ac annisgwyl.

“Mae CITB wedi bod yn gefnogol ac yn awyddus iawn i helpu i hyrwyddo'r cwrs. Mae'n gyfle gwych i hyrwyddo'r cwmni.”