Facebook Pixel
Skip to content

Mae ISG yn rhoi'r wow ym mhrofiad gwaith

Fe wnaeth cyfyngiadau ymarferol darparu profiad gwaith traddodiadol mewn adeiladu yrru ISG i ddatblygu dulliau dynamig o ymgysylltu â thalent newydd posibl.

Fel un o gwmnïau Academïau Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Adeiladu CITB, mae'r cwmni gwasanaethau adeiladu byd-eang ISG wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 25 o leoliadau profiad gwaith y flwyddyn. 

Ar ben hynny, mae'n cael ceisiadau unigol rheolaidd gan bobl ifanc gobeithiol sy'n awyddus i roi cynnig ar waith safle.

Ond mae gwarantu profiad defnyddiol ar y safle yn anodd, o gofio ystyriaethau iechyd a diogelwch, heb sôn am bwysau dyddiol ar staff ac adnoddau.

Roedd Dr Vicky Hutchinson, Pennaeth Gwerth Cymdeithasol, yn gwybod bod rhaid canfod ffordd well.

Blas gwir o'r diwydiant

 chymorth cyllid o £28,443 gan CITB ar gyfer arloesi, roedd Vicky yn bwriadu cynllunio, datblygu a threialu cwrs pum niwrnod o weithgareddau ysgogol a fyddai'n rhoi blas o waith go iawn mewn ystod o yrfaoedd adeiladu. Fe gafodd y cwrs ei enwi Byd Profiad Gwaith, neu WOWEX.

“Fe wnaethom ddod ag ymgynghorydd addysg i mewn a gyfwelodd yn eang ar draws ein rolau swydd i greu cynnwys a gweithgareddau cyffrous ar gyfer y cwrs a fyddai'n apelio at blant, pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd,” meddai Vicky.

“Mae'r cwrs WOWEX a ddaeth i'r amlwg yn canolbwyntio ar brosiect damcaniaethol i adeiladu uned ddiwydiannol fach. 

“Mae cyfranogwyr yn cystadlu mewn grwpiau fel cwmnïau ffuglennol, gan gynnig yn eu herbyn ei gilydd i gael y contract. 

“Bob dydd mae'r dasg yn mynd rhagddo ac mae'r rolau gyrfa'n newid, o ddatblygu cynnig i gynllunio, amcangyfrif, asesu risg, cydymffurfio - holl agweddau prosiect adeiladu nodweddiadol.

“Mae'r cwrs yn wir helpu i agor llygaid y rhai hynny a oedd yn meddwl bod adeiladu yn ymwneud â gosod briciau a phlastro yn unig. 

“Wrth iddynt ymgymryd â rolau amcangyfrifwyr, rheolwyr contractau, cynllunwyr a syrfewyr maint, maent yn eu cael eu hunain yn ysgrifennu adroddiadau, rhoi cyflwyniadau, ymweld â safleoedd a gwneud modelau graddfa.”

Mwy cyflogadwy, mwy hyderus

Hyd yn hyn, mae 5 cohort ar wahân wedi gwneud y cwrs WOWEX, gan gynnwys pobl sydd eisoes yn hyfforddi mewn adeiladu, myfyrwyr BTEC a lefel A, a phlant ysgol ifanc - tystiolaeth o'i hyblygrwydd. Mynychodd cannoedd o fyfyrwyr eraill sesiynau blasu hefyd.

Ciplun

Cwmni: ISG

Sector: Gwasanaethau Adeiladu

Yr her: Canfod ffordd effeithiol o gyflwyno profiad gwaith er mwyn hybu apêl adeiladu

Cyllid: £28,443

Effaith: Adnodd profiad gwaith effeithiol iawn y gellir ei rannu ar draws y diwydiant

“Rydym wedi gwneud gwahaniaeth. Mae'r effaith rydym wedi'i chael ar fywydau pobl ifanc wedi bod yn bwerus iawn.”

Dr Vicky Hutchinson, Pennaeth Gwerth Cymdeithasol, ISG

Mae wedi bod yn hynod lwyddiannus, â'r cyfranogwyr yn rhoi adborth canmoliaethus wedyn. Yn fwyaf arwyddocaol oll, dywedodd bron i 9 allan o bob 10 o fynycheion y byddent yn ystyried gyrfa mewn adeiladu. Cyn y cwrs, roedd y ffigwr yn llai na 4 o bob 10.

Roedd hyn hefyd yn dod o ystod amrywiol o fynycheion, gan gynnwys llawer mwy o ferched a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig nag sy'n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd.

“Fe wnaeth llawer a oedd wedi bod yn hyfforddi i fod yn gyfrifwyr adael y cwrs dan ddweud eu bod yn ystyried newid i'r diwydiant adeiladu,” meddai Vicky. “Ond hyd yn oed os na fyddant yn dod i mewn i 'r diwydiant adeiladu, maent yn gadael ag ystod o sgiliau y gallant eu cymryd i unrhyw swydd.

“Mae'n bendant ei fod wedi rhoi hwb i'w cyflogadwyedd, ond roedd y myfyrwyr hefyd yn sôn am yr hwyl a gawsant, sut yr oedd yn helpu â'u datblygiad personol, sut yr oeddent wedi goresgyn eu pryder cymdeithasol, sut yr oeddent wedi mwynhau'r gwaith tîm, gan ddod yn fwy hyderus, sut yr oeddent wedi gorchfygu eu hofn o roi cyflwyniad.”

Camau nesaf

Mae Vicky o'r farn bod digon o botensial i gymryd y cwrs ymhellach. “Mae pobl wedi gwneud WOWEX ac yna wedi gwneud cais i'n cynllun prentisiaeth talent, felly rydym yn ystyried datblygu'r cwrs yn offeryn recriwtio. Mae'r prosiect wedi tyfu coesau!” meddai.

“Yn ogystal â rhannu WOWEX yn eang ar draws diwydiant, hefyd mae cyfleoedd i wneud darnau bach, neu ei ddatblygu ar gyfer grwpiau eraill. Gallem wneud rhywbeth tebyg ar gyfer merched sy'n dychwelyd i'r gwaith neu'r rhai di-waith hirdymor, er enghraifft.”

Er bod rhedeg y cwrs yn defnyddio llawer o adnoddau a bod y broses ymgeisio yn heriol, mae Vicky yn siŵr ei fod wedi bod yn werth chweil. “Rydym wedi gwneud gwahaniaeth. Mae'r effaith rydym wedi'i chael ar fywydau pobl ifanc wedi bod yn bwerus iawn.”