Facebook Pixel
Skip to content

Ateb her cynaliadwyedd

Mae Ysgol y Gadwyn Gyflenwi yn llwyfan dysgu ar-lein sydd wedi derbyn £2.5 miliwn o Gronfa Strwythuredig CITB i wella gallu'r diwydiant adeiladu i ddeall materion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac arloesi. 

null

Dysgu ym mhob rhan o'r diwydiant

Mae'r Ysgol lwyddiannus, a ariennir gan CITB a 50 o sefydliadau Partner, wedi synnu arbenigwyr y diwydiant, fel yr eglura aelod o'r Bwrdd, Dale Turner.

“Pan wnaethon ni ddechrau ein taith gyda'r Ysgol yn 2012, roedd llawer o bobl yn amau a allai contractwyr mawr weithio ochr yn ochr.

“Fodd bynnag, mae'r Ysgol wedi dwyn ynghyd amrywiaeth o gleientiaid, ymgynghorwyr, contractwyr a'r gadwyn gyflenwi i feithrin eu gwybodaeth am gynaliadwyedd.

“Mae cyllid CITB wedi ein helpu i ddarparu llwyfan ar gyfer dysgu ymhob rhan o'r diwydiant.”

Hyfforddiant wedi'i deilwra

Mae gan yr Ysgol, sy'n cael ei darparu drwy Action Sustainability (darparwr gwasanaeth rheoli'r gadwyn gyflenwi), dros 15,000 o aelodau. 

Mae'r aelodau'n gweithio tuag at gadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy, targed sy'n unol â Strategaeth Adeiladu'r DU sydd â'r nod o leihau costau 33%, galluogi cyflenwi 50% yn gyflymach a lleihau allyriadau 50% erbyn 2025.

Pan fyddant yn ymuno â'r Ysgol, bydd aelodau yn cymryd rhan mewn proses ddiagnostig i feincnodi eu lefelau gwybodaeth presennol a nodi meysydd ar gyfer gwella. 

Wedyn caiff y meysydd hyn eu targedu er mwyn i gontractwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain.

“Mae gan yr Ysgol ddeg thema dysgu cynaliadwyedd” eglura Dale, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi gyda Skanska UK.

“Asesir pob thema i weld beth yw cymwyseddau’r cwmni. Yna caiff cynllun gweithredu sydd wedi'i deilwra ei greu i ddarparu ddeg maes hyfforddiant allweddol y gellir cael mynediad atynt drwy'r Ysgol am ddim. Mae'r ddiagnosteg yn dibynnu ar ba grefft neu wasanaeth y mae aelodau'n eu cyflenwi ac mae'n amrywio o lefel dechreuwr i lefel arbenigwr.”  

Mae'r asesiad yn gyfrinachol a gofynnir i aelodau ailasesu bob 12 mis i wella eu “taith cynaliadwyedd” yn barhaus.  

Cyllid CITB yn galluogi'r Ysgol i ddatblygu yn yr hirdymor

“Mae cyllid Hyblyg a Strwythuredig CITB wedi adeiladu ar lwyddiant y prosiect ac wedi galluogi'r Ysgol i barhau i fuddsoddi yn natblygiad y gadwyn gyflenwi i gyrraedd targedau strategaeth Construction 2025, sef allyriadau is, costau is a chyflenwi cyflymach,” meddai Dale.

“Drwy gefnogi'r Ysgol ar sail strategaeth pum mlynedd,” meddai Dale, “bydd hyn yn helpu i sicrhau sefyllfa lle bydd gennym ddatrysiad cynaliadwy hirdymor ar gyfer cyflenwi drwy ein partneriaid niferus.”

Mae CITB yn rhan o'r Bwrdd Llywodraethu a ddatblygodd yr Ysgol ac sy'n ei chynnal. Yn ôl Dale, roedd y buddsoddiad pum mlynedd a ddarparodd CITB ar y dechrau drwy ei Gronfa Twf Strategol - £2.5m dros bum mlynedd - wedi cynnig ymrwymiad hirdymor i ddatblygu'r Ysgol mewn meysydd penodol, fel sectorau gweithgynhyrchu oddi ar y safle, cartrefi, seilwaith a gwasanaethau cyfleusterau.

Ym mis Hydref 2016, enillodd yr Ysgol, sy'n cynnwys rhaglen hyfforddiant a llyfrgell adnoddau, wobr Menter Arfer Gorau yng Ngwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain.

A chyda 19 o 20 uchaf prif gontractwyr adeiladu'r DU wedi cofrestru fel partneriaid, mae'n glir bod contractwyr a'u cadwyni cyflenwi yn dechrau ymateb i her cynaliadwyedd.

Am ragor o wybodaeth am Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi ewch i: https://www.supplychainschool.co.uk/cymru/sustainability/construction/home.aspx

Cipolwg


Cwmni: Skanska UK
Sector: Cadwyn Gyflenwi
Maint y cwmni: Mawr

Her: Gwella gallu'r diwydiant adeiladu i ddeall materion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac arloesi

Cyllid: £2.5m dros bum mlynedd o'r gronfa Strwythuredig o dan yr opsiwn cronfa ‘Seilwaith’

Effaith: Mae'r llwyfan yn rhedeg yn llwyddiannus, gan ddarparu dysgu diwydiant cyfan. Mae 19 o 20 uchaf prif gontractwyr adeiladu'r DU.

“Mae cydweithredu gwirioneddol yn y sector adeiladu yn rhywbeth prin, felly mae Ysgol y Gadwyn Gyflenwi yn newid braf sy'n cael effaith wirioneddol.”

 

- Dale Turner, aelod o Fwrdd Ysgol y Gadwyn Gyflenwi