You are here:
Hawlio grantiau'r Cwrs Byr
Gall cyflogwyr sydd wedi'u cofrestru â lefi hawlio grantiau CITB ar gyfer cyrsiau cyfnod byr cymeradwy (hyfforddiant sy'n para o leiaf 3 awr i 29 diwrnod ar y mwyaf).
Sut i wneud cais am grantiau ar-lein
Os ydych chi'n defnyddio darparwr hyfforddiant nad yw wedi cwblhau'r broses gymeradwyo Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO) CITB eto, rhaid i chi wneud eich cais am grant drwy ein system ar-lein. Dyma sut:
- Cofrestrwch i CITB ar-lein.
- Pan fyddwch chi ar dudalen hafan porth Gwasanaethau Ar-lein CITB, cliciwch ar 'Grantiau cyrsiau cyfnod byr', lle gofynnir i chi fewngofnodi.
- Dewiswch a ydych chi am wneud hawliad unigol (cwrs / dysgwr unigol) neu hawliad swmp (cyrsiau / dysgwyr lluosog).
- Bydd angen i chi wybod y cod hyfforddiant cymwys am grant (Grant Eligible Training - GET) sy'n ymwneud â'r cwrs byr rydych chi'n gwneud cais am grant ar ei gyfer pan fyddwch chi'n cwblhau'r ffurflen swmp. Chwiliwch am y cwrs i ddod o hyd i'r cod.
Os dewiswch gwblhau hawliad grant unigol:
- Cliciwch ar y botwm hawlio grantiau Hyfforddiant Cyfnod Byr.
- Rhowch fanylion y dysgwr yn ôl y gofyn ar y ffurflen.
- Os nad yw'r dysgwr yn bodoli ar ein cronfa ddata, bydd angen i chi greu proffil dysgwr newydd.
- Ym mhroffil y dysgwr, cwblhewch fanylion yr hawliad (* yn dynodi maes gorfodol).
- Cyflwyno'r ffurflen.
- Telir y swm perthnasol i chi trwy Bacs.
Gwyliwch ein fideo am wneud hawliad grant unigol isod neu ei wylio ar YouTube
Os dewiswch wneud cais swmp:
- Mae gan ein system swyddogaeth llwytho sawl cais. Mae hyn yn golygu y gallwch allforio data yn eich system yn gyflym ac yn hawdd i'r ffurflen hawlio grant hyfforddiant cyfnod byr.
- Cliciwch ar y botwm hawlio grant hyfforddiant cyfnod byr mewn swmp a dilynwch y cyfarwyddiadau yn y porth grant.
Gwyliwch ein fideo am wneud hawliadau swmp isod
I gael cymorth wrth wneud cais am y grant hwn gallwch gysylltu â’ch Cynghorydd CITB lleol neu ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0344 994 4455.