Grantiau cymwysterau cyfnod hir
Rydym yn talu grantiau am gymwysterau cymeradwy lefel uwch sy'n cymryd mwy na blwyddyn i'w cwblhau ac sy'n canolbwyntio ar y sgiliau adeiladu craidd sydd eu hangen ar draws y diwydiant.
Ar y dudlaen hon, gallwch weld y canlynol
- Trosolwg
- Pwy all wneud cais am y grant hwn?
- Pa gyrsiau sy'n gymwys am grant?
- Faint yw'r grant?
- Sut i wneud cais
- Newidiadau a throsglwyddiadau
- A ydych chi wedi anfon eich manylion banc?
Trosolwg
Rydym yn talu grantiau am fynychu a chyflawni cymwysterau cymeradwy lefel uwch sy'n canolbwyntio ar y sgiliau adeiladu craidd sydd eu hangen ar draws y diwydiant. Rydym yn cefnogi cyrsiau a wneir trwy ddysgu o bell ac e-ddysgu. Mae cymwysterau lefel uwch yn cynnwys:
- Diploma a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNCs and HNDs)
- Gradd
- Cymwysterau ôl-raddedig
Nid yw'r grantiau hyn ar gyfer cymwysterau cyfnod hir yn cefnogi prentisiaethau. Gweler grantiau prentisiaeth am fanylion y gefnogaeth sydd ar gael.
Pwy all wneud cais am y grant hwn?
Mae'r grantiau hyn ar gael i gefnogi staff sydd wedi'u cyflogi'n uniongyrchol ar y system gyflogau a phob is gontractwr.
Yn ogystal â chyflawni amodau a thelerau ein Cynllun Grantiau cyffredinol, rhaid i chi allu cynnig y lefel briodol o brofiad gwaith i'r hyfforddai, a, dylai dreulio o leiaf 16 awr yr wythnos yn gwneud y swydd y mae'n datblygu sgiliau ynddi. Gellir gweithio ar gyfartaledd dros gyfnod treigl o bedair wythnos.
Os nad ydym yn fodlon eich bod yn darparu hyfforddiant digonol, gallwn leihau, dal yn ôl neu adennill y grant.
Rhaid i chi hefyd ddweud wrthym ar unwaith a yw'ch hyfforddai'n gadael ei raglen hyfforddi neu ei gyflogaeth. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at gamau i adennill gordaliadau.
Pa gyrsiau sy'n gymwys am grant?
Gweler restr lawn o'r cymwysterau sy'n gymwys am grant.
Os na welwch gymhwyster yn y rhestr gyfredol o'r rhai sy'n gymwys i gael grant, gallwch gwblhau ffurflen ar-lein i'w awgrymu i'w hystyried.
Faint yw'r grant?
Mae hyn yn dibynnu ar ba mor hir y mae'r hyfforddiant yn para. Cyfradd y grant presenoldeb ar gyfer y flwyddyn gyfredol yw £1,125.
Mae grant ar gael am bresenoldeb o chwe blynedd ar y mwyaf.
Gallwch wneud cais am grant cyflawniad o £1,875 ar ôl cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus.
Gallwch hefyd wneud cais am grantiau ar gyfer unrhyw gwrs cyfnod byr nad yw wedi'i gynnwys yn y cymhwyster cyfnod hir, ond sy'n angenrheidiol ac yn briodol. Rhaid i chi dalu cost yr hyfforddiant hwn, ac ni chewch wneud cais am unrhyw fath arall o grant ar gyfer yr unigolyn.
Sut i wneud cais
Dylech wneud cais am y grant presenoldeb pan fydd eich dysgwr yn dechrau'r cwrs, a'r grant cyflawniad pan fydd ef neu hi wedi cwblhau'r cwrs ac wedi cyflawni'r cymhwyster angenrheidiol.
Ceisiadau presenoldeb
Os yw'ch dysgwr yn dechrau cymhwyster cyfnod hir newydd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, dylech gyflwyno ffurflen gais cyn pen 20 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs.
- Lawr lwythwch ffurflen gais grant 2021-2022 (Excel 639KB) Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
- Arbed a chwblhau adrannau perthnasol y ffurflen
Os yw'ch dysgwr yn dechrau cymhwyster cyfnod hir newydd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, dylech gyflwyno ffurflen gais cyn pen 20 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs.
- Lawr lwythwch ffurflen gais grant 2022-2023 (Excel 190KB) Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
- Arbed a chwblhau adrannau perthnasol y ffurflen
Sylwer: Defnyddiwch Chrome neu Firefox i lawrlwytho'r ffurflen. Rydym yn argymell nad ydych yn defnyddio Internet Explorer oherwydd efallai y cewch broblemau gyda lawr lwytho.
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ategol gan eich darparwr hyfforddiant gyda'ch cais. Rhaid i'r dystiolaeth ddangos:
- teitl llawn y cwrs
- enw'r dysgwr
- dyddiad dechrau'r cwrs neu brawf bod y dysgwr yn astudio o fewn blwyddyn academaidd 2020/2021 neu 2021/2022
Rhaid i'r dystiolaeth gefnogol fod ar bapur pennawd gan y darparwr hyfforddiant neu mewn e-bost gan y darparwr hyfforddiant (o gyfeiriad e-bost sy'n gorffen â .ac.uk)
Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau gan gynnwys y dystiolaeth y manylir arni uchod i grant.claimforms@citb.co.uk.
Cyn belled â'n bod yn derbyn y gwaith papur cywir cyn pen 20 wythnos ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, byddwn yn dechrau gwneud eich taliadau grant, wedi'u hôl-ddyddio i'r dyddiad dechrau hwn.
Bob 13 wythnos byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod yr unigolyn yn dal i fod mewn hyfforddiant a chyflogaeth, y dylech ei wneud o fewn 3 mis i barhau i gael taliadau.
Os bydd eich hyfforddai yn gadael eich cyflogaeth ond heb gyflawni, byddwn yn talu grant presenoldeb hyd at y dyddiad y gadawodd eich hyfforddai.
Os bydd hyfforddai yn symud o un cyflogwr i'r llall yn ystod y cymhwyster, dim ond am y cyfnod y cyflogwyd yr hyfforddai gan eich cwmni y telir grant presenoldeb i chi.
Cyflwyniadau hwyr
Os na fyddwch yn cyflwyno'ch gwaith papur cyn pen 20 wythnos o ddyddiad dechrau'r cwrs, ni fyddwn yn ôl-ddyddio taliadau i ddyddiad dechrau'r cwrs. Rydym ond yn ôl-ddyddio taliadau i'r dyddiad y derbyniwn eich gwaith papur.
Ceisiadau cyflawniad
Ar gyfer cyflawniadau a gafwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, dylech gyflwyno ffurflen gais gyda chopi o'ch tystysgrif cyflawniad neu e-bost hysbysiad cyflawniad gan y corff dyfarnu erbyn 30 Mehefin 2021.
- Lawr lwythwch ffurflen gais grant 2021-2022 (Excel 639KB) Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
- Arbed a chwblhewch yr adrannau perthnasol ar y ffurflen
- Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau at grant.claimforms@citb.co.uk
Ar gyfer cyflawniadau a gafwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, dylech gyflwyno ffurflen gais gyda chopi o'ch tystysgrif cyflawniad neu e-bost hysbysiad cyflawniad gan y corff dyfarnu erbyn 30 Mehefin 2022
- Lawr lwythwch ffurflen gais grant 2021-2022 (Excel 190KB). Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
- Arbedwch a chwblhewch yr adrannau perthnasol ar y ffurflen
- Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau at grant.claimforms@citb.co.uk
Ar ôl cwblhau eich cyflawniad dan hyfforddiant, byddwn yn talu grant presenoldeb hyd at ddyddiad dysgu olaf eich hyfforddai.
Newidiadau a throsglwyddiadau
Trosglwyddo i gyflogwr arall
Os yw'r hyfforddai'n trosglwyddo ond yn parhau yn yr un grefft neu alwedigaeth, mae taliadau grant yn parhau i fod ar gael ac yn cael eu rhannu rhwng cyflogwyr yn ôl nifer y diwrnodau cyflogaeth y mae'r hyfforddai wedi'u cael gyda phob un.
Newid lefelau neu grefftau
Gallwch wneud cais am grant ar gyfer hyfforddai sy'n symud ymlaen i lefel uwch mewn crefft neu sy'n gwneud ail gymhwyster cyfnod hir mewn maes galwedigaethol gwahanol. Gallwch wneud hyn am hyd at ddau gymhwyster cyfnod hir fesul lefel fesul unigolyn.
A ydych wedi anfon eich manylion banc atom?
Telir grantiau trwy drosglwyddiad banc. Os nad oes gennym eich manylion banc cyfredol, cwblhewch a chyflwynwch Ffurflen Awdurdodi Credyd Uniongyrchol Bacs ar-lein i gael taliadau grant.