Facebook Pixel
Skip to content

Polisi Cynllun Grantiau (“y Polisi hwn”)

Mae’r Polisi hwn yn weithredol ar gyfer ceisiadau o 1 Ebrill 2023 ac mae’n disodli’r telerau ac amodau blaenorol.

Dyddiad adolygu: 1 Ebrill 2023

Rhaid i geisiadau hyd at 1 Ebrill 2023 gadw at Delerau ac amodau'r Cynllun Grantiau - CITB

Mae’r Polisi hwn yn hyrwyddo tegwch a chysondeb ac yn llywodraethu’r Cynllun Grantiau. Mae’n nodi’r gofynion allweddol ac yn sail i egwyddorion a blaenoriaethau’r Cynllun Grantiau.

Amcan Cynllun Grantiau CITB yw bodloni’r galw am sgiliau a mynd i’r afael â bylchau sgiliau a’u hatal fel y mae Egwyddorion y Cynllun Grantiau yn ategu. Ariennir y Cynllun Grantiau gan Ddiwydiant drwy Lefi CITB a’i nod yw sicrhau bod y cronfeydd hyn yn cael eu buddsoddi’n dda i ddiwallu anghenion y Diwydiant.

Mae galw mawr am grantiau ac er mwyn cyflawni amcan y Cynllun Grantiau, bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn ein polisïau a nodir yn:

y “Cynllun Grantiau” â’i gilydd.

Rhaid i bob cais am grant fod ar gyfer hyfforddiant a fynychwyd a/neu a gyflawnwyd yn unol â’r Polisi hwn a’r rheolau perthnasol sy’n ymwneud â phob math o grant, y gellir dod o hyd i’r manylion yma.

  • Er mwyn i’r Cynllun Grantiau weithredu’n effeithiol, rhaid i CITB allu rhagweld y gwariant sydd ei angen i gefnogi’r Cynllun Grantiau mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng swm y Lefi a dalwyd gan y Diwydiant a swm y grant sydd ar gael gan CITB. Pennir y swm hwn yn flynyddol, lle bydd swm y cyllid grant a fydd ar gael mewn blwyddyn ariannol yn dibynnu ar swm y Lefi a dderbyniwyd gan CITB gan y Diwydiant y flwyddyn flaenorol.
  • Er mwyn cyflawni a chynnal dibynadwyedd rhagolwg blynyddol CITB ni fydd CITB, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol ac yn ôl disgresiwn llwyr CITB, yn ystyried nac yn darparu ar gyfer ceisiadau grant y tu hwnt i’r terfynu amser a hysbysebir ar gyfer pob math o grant.
  • Y cyfraddau grant y mae CITB yn bwriadu eu talu yw’r cyfraddau hynny a ddangosir o fewn y gofynion sy’n benodol i bob math o grant. Gall CITB, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, ar unrhyw adeg ac am ba reswm leihau neu gynyddu’r cyfraddau hyn heb rybudd.
  • Mae holl grantiau CITB yn ddewisol eu natur a gellir tynnu unrhyw arwydd bod grant ar gael, neu unrhyw gytundeb i dalu grant, yn ôl ar unrhyw adeg yn ôl disgresiwn llwyr CITB. Mae’r Polisi hwn a’r gofynion sy’n benodol i bob math o grant yn nodi’r egwyddorion a’r meini prawf y gall grant fod ar gael yn eu herbyn ac ni fwriedir iddynt fod (ac ni fyddant yn ffurfio) cynnig cytundebol neu gontract rhwng CITB a’r Cyflogwr.
  • Gall CITB, ar unrhyw adeg, dynnu’r Cynllun Grantiau yn ei gyfanrwydd neu ddiwygio’r Polisi hwn a/neu unrhyw un o amodau penodol pob math o grant yn gyfan gwbl neu’n rhannol, heb rybudd.
  • Mae penderfyniad CITB yn derfynol ar bob mater sy’n ymwneud â dehongli a chymhwyso’r Cynllun Grantiau.

Yn amodol ar y canlynol, mae gan gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu sydd wedi cofrestru â CITB (“Cyflogwyr”) yr hawl i wneud cais am grant ar gyfer hyfforddiant a chyflawniadau o’r dyddiad y cânt eu cofrestru gyntaf. Mae’r cymhwyster hwn i gael mynediad at y Cynllun Grantiau hefyd yn ymestyn i Gyflogwyr nad yw’n ofynnol iddynt dalu’r Lefi yn rhinwedd y trothwy Eithriad Lefi i Fusnesau Bach cymwys.

4.1 Cyflogwyr sydd newydd gofrestru

  • Gall cyflogwyr sydd newydd gofrestru â CITB wneud cais am grantiau prentisiaeth am y cyfnod o 12 mis cyn dyddiad cofrestru’r Cyflogwyr a phob grant arall o’r dyddiad cofrestru ar yr amod bod y Cyflogwr yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn adran 3 uchod.

4.2 Cyflwyno Ffurflenni Lefi a Thalu Lefi

  • Mae CITB yn gweithredu ar sail Dim Lefi, Dim Grant sy’n golygu bod yn rhaid i Gyflogwyr, yn ddieithriad, gwblhau a chyflwyno’r Ffurflen(ni) Lefi yn unol â’r dyddiadau a nodir isod A lle bo’n berthnasol talu, neu fod â threfniadau Debyd Uniongyrchol ar waith i dalu, unrhyw a phob Asesiad Lefi dilys cyn rhyddhau taliadau grant. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwn yn arwain at atal grantiau nes bod y taliad Lefi wedi’i wneud neu ei dynnu’n ôl os na cheir taliad Lefi pan fydd yn ddyledus.
  • Cyhoeddir y Ffurflen Lefi ym mis Mai bob blwyddyn (yn amodol ar unrhyw newidiadau a wneir gan CITB yn ôl ei ddisgresiwn llwyr) a rhaid i’r Cyflogwr ei chwblhau ac iddi gael ei derbyn gan CITB ar neu cyn 30 Mehefin yr un flwyddyn er mwyn i’r Cyflogwr fod yn gymwys i dderbyn/parhau i dderbyn grant. Bydd methu â chydymffurfio â’r dyddiad hwn yn arwain at atal pob taliad grant nes bod CITB wedi derbyn y Ffurflen Lefi. Pe bai’r Ffurflen Lefi a gyhoeddwyd y flwyddyn honno, a ddefnyddir i asesu’r Lefi nesaf, yn dal i fod yn ddyledus ar 30 Tachwedd y flwyddyn honno, bydd yr holl daliadau grant a ddelir gan CITB yn cael eu tynnu’n ôl, a bydd y Cyflogwr yn anghymwys i gael unrhyw daliadau grant pellach tan fis Ebrill y flwyddyn ganlynol.
  • O fis Ebrill bob blwyddyn, cyn cyflwyno’r Ffurflen Lefi newydd, mae Cyflogwyr y mae eu cais am grant wedi’i gymeradwyo, sydd wedi talu eu Hasesiad Lefi ac sydd wedi cwblhau a chyflwyno’r Ffurflen Lefi ddiweddaraf (ynghyd ag unrhyw Ffurflenni Lefi eraill) yn gymwys i gael grant.

Gall Cyflogwr wneud cais am grantiau mewn perthynas â hyfforddiant sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu a gyflawnir gan ac a ddefnyddir gan (fel y bo’n berthnasol):

  • Staff a gyflogir yn uniongyrchol (gan gynnwys prentisiaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TWE) ar y gyflogres;
  • Unrhyw is-gontractwyr (gan gynnwys is-gontractwyr CThEM CIS â thâl net a gros);
  • Unig fasnachwyr a phartneriaethau; ac

Ar yr amod eu bod yn gweithio ar adeg yr hyfforddiant ar gyfer y Cyflogwr sy’n gwneud cais ac nad yw cymorth grant CITB eisoes wedi’i dderbyn ar gyfer yr hyfforddiant / cymhwyster penodol; a bod y Cyflogwr wedi;

  • Nodi’r angen am hyfforddiant;
  • Trefnu’r hyfforddiant; a
  • Derbyn cost yr hyfforddiant.

Gall Cyflogwr awdurdodi darparwyr hyfforddiant trydydd parti a/neu golegau sy’n darparu gwasanaethau i’r Cyflogwr i gwblhau cais am grant ar eu rhan. Lle mae’r Cyflogwr yn awdurdodi hynny, mae’r cyfrifoldeb i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu gwneud yn unol â’r Polisi hwn ac i ad-dalu unrhyw grantiau a dderbyniwyd o ganlyniad i gamgymeriad gan y trydydd parti yn aros â’r Cyflogwr.

I ymgeisio am grant, dylai ymgeiswyr ymweld â gwefan CITB. Dylid gwirio’r gofynion sy’n benodol i bob math o grant cyn cyflwyno cais gan fod rhai grantiau’n gweithredu cyfyngiadau.

Mae grantiau ar gael ar gyfer:

  • Prentisiaethau (presenoldeb a chyflawniad);
  • Teithio a llety ar gyfer prentisiaid (Teithio i Hyfforddi – Grant Teithio a Llety Prentisiaeth);
  • Cyrsiau byr (cyflawniad) a;
  • Cymwysterau (presenoldeb a chyflawniad)

Dim ond hyfforddiant sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu ac a restrir ar wefan CITB sy’n gymwys ar gyfer grant. Mae’r rhaglenni hyfforddi hyn, sy’n cynnwys cyrsiau iechyd a diogelwch a hyfforddiant nad yw’n ymwneud ag adeiladu megis cyrsiau rheoli a goruchwylio sydd wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer y diwydiant adeiladu, wedi’u cymeradwyo oherwydd:

  • Eu bod yn bodloni safonau y cytunwyd arnynt gan y diwydiant;
  • Yn feysydd blaenoriaeth ar gyfer cyllid grant; ac
  • Yn alinio â deddfwriaeth Hyfforddiant Diwydiannol.

Os nad yw cwrs neu gymhwyster wedi’i restru ar ein gwefan, defnyddiwch y ffurflen berthnasol i’w chyflwyno i gael ei gwerthuso.

Mae cymhwyster ar gyfer grant prentisiaethau yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r holl gyfreithiau, rheoliadau a chodau perthnasol sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ogystal â’r Rheolau, Safonau, Manylebau a Chanllawiau Prentisiaethau cyfredol sy’n berthnasol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Cyfrifoldeb y Cyflogwr yw sicrhau bod y Brentisiaeth yn cydymffurfio â’r holl ofynion perthnasol.

7.1 Lloegr

Mae cynllun fframweithiau prentisiaeth yn Lloegr yn cael ei lywodraethu gan Fanyleb Safonau Prentisiaethau ar gyfer Lloegr (SASE) ac mae dyluniad safonau prentisiaeth yn Lloegr yn cael ei lywodraethu gan y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol. Rhaid cyflwyno’r ddau yn unol â’r Rheolau Ariannu Prentisiaethau presennol.

7.2 Cymru

Mae prentisiaethau Cymru yn cael eu llywodraethu gan Fanyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW)

7.3 Yr Alban

Mae fframweithiau Prentisiaeth Fodern ac Uwch yr Alban yn cael eu llywodraethu gan y Templed Arweiniad a Chynnig a Phrentisiaethau i Raddedigion yr Alban.

Mae Grantiau Prentisiaethau, Prentisiaethau Uwch a Phrentisiaethau i Raddedigion ym mhob un o’r tair gwlad wedi’u cyfyngu i weithwyr cofrestredig TWE yn unig oherwydd natur hirdymor yr hyfforddiant er mwyn sicrhau patrwm cyflogaeth sefydlog drwy gydol y rhaglen.

Os bydd prentis yn newid Cyflogwr yn ystod ei brentisiaeth, telir grantiau presenoldeb a chyflawniad yn pro rata yn unol â chyfran y pecyn hyfforddiant cyfan a gwblhawyd gyda phob Cyflogwr.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae CITB yn cadw’r hawl i ariannu modelau hyfforddiant prentisiaethau y mae’n ystyried, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, sy’n darparu’r lefel briodol o ansawdd i unigolion a’r Diwydiant, o ran cynnwys, hyd yr hyfforddiant a lle mai’r bwriad yw i’r prentis ennill sgiliau newydd sylweddol/pwysig.

Dylai unrhyw fodelau darparu prentisiaeth sy’n anelu at fod yn gymwys ar gyfer grantiau CITB ond sy’n gwyro wrth Fodelau Prentisiaethau safonol y Llywodraeth yn y tair gwlad (lle mae’r holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu o fewn prentisiaeth tra bod y prentis mewn cyflogaeth barhaus), cael eu cyflwyno ymlaen llaw i CITB i’w hystyried a ydynt yn gymwys ar gyfer y grant. Gall methu â gwneud hynny arwain at wrthod ceisiadau grant.

Mae CITB yn cadw’r hawl i eithrio unrhyw geisiadau am ad-daliad costau teithio a llety y mae CITB yn eu hystyried, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, yn ormodol.

  • Bydd CITB ond yn ad-dalu costau teithiol ar gyfer teithio dosbarth safonol.
  • Bydd unrhyw geisiadau am ad-daliad costau teithio sy’n fwy na £750 fesul prentis dros gyfnod o dri mis yn cael eu cyfeirio at Uwch Reolwr CITB am ganiatâd eithriadol.
  • Ni ddylid cyflwyno ceisiadau lle mae cyllid allanol ar gael i gefnogi costau teithio a llety i brentisiaid. Bydd unrhyw gais a gyflwynir lle mae cyllid allanol arall ar gael i gefnogi costau teithio a llety yn cael ei wrthod gan CITB.
  • Mae’r Cyflogwr yn derbyn cyfrifoldeb llawn am ei brentis ac mae cyfrifoldeb o’r fath yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, gynnal y diwydrwydd dyladwy angenrheidiol i sicrhau bod gan gerbydau preifat at ddibenion gwaith a hyfforddiant yswiriant dilys ac ardystiad MOT. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd CITB yn ysgwyddo unrhyw gost o ran y cyfrifoldebau hyn.
  • Mae’n rhaid i’r Cyflogwr dalu’r gost lawn sy’n gysylltiedig ag unrhyw gansladau / absenoldebau mewn llety neu unrhyw gostau sy’n deillio o daliadau ychwanegol a godir gan y darparwr llety (e.e. gwasanaeth ystafell, toriadau ac ati).
  • Rhaid i’r cais am ad-daliad costau teithio’r prentis gael ei gyflwyno gan y Cyflogwr.
  • Bydd yn ofynnol i’r Cyflogwr gadw at (a sicrhau bod y prentis cymwys yn cadw at) God Ymddygiad CITB ar gyfer Prentisiaid mewn Llety.
  • Bydd CITB ond yn talu am lety pan fydd y prentis yn cadw at God Ymddygiad CITB (PDF, 214KB). Lle na chaiff hyn ei fodloni, nid ydym yn ad-dalu unrhyw gostau llety a byddwn yn gwrthod unrhyw geisiadau yn y dyfodol ar gyfer y prentis hwnnw.

Bydd CITB yn talu grantiau yn unol ‘r gofynion sy’n benodol i bob math o grant a nodir ar wefan CITB. Nid yw amser ar gyfer talu’n hanfodol ac mae CITB yn cadw’r hawl i wneud taliad pan fydd arian y Cynllun Grantiau ar gael.

Gall CITB yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, ar unrhyw adeg, ac am ba reswm, gan gynnwys mewn amgylchiadau eithriadol megis gostyngiad mewn incwm Lefi statudol, lleihau taliadau grant a/neu gyfraddau yn gymesur neu eu tynnu’n ôl yn gyfan gwbl gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw hyfforddiant prentisiaeth sydd wedi eisoes wedi cychwyn neu wedi ei gwblhau. Yn yr achos hwn, bydd CITB yn gwneud pob ymdrech resymol i hysbysu Cyflogwyr am y newidiadau hyn.

Gall taliadau grant gael eu lleihau, eu hatal neu eu hadennill, er enghraifft os nad yw CITB yn fodlon bod hyfforddiant digonol wedi’i roi neu nad yw unigolion y gwneir cais am grant ar eu cyfer yn cael eu cyflogi gan y Cyflogwr y mae’r cais am grant yn ymwneud ag ef. Bydd CITB yn adennill (ac yn cymryd camau priodol ar gyfer) unrhyw grant a roddwyd o ganlyniad i gamddefnydd bwriadol, ffugio cofnodion neu dwyll.

Mae Cyflogwr yn cytuno i ad-dalu’n brydlon i CITB unrhyw arian a dalwyd yn anghywir iddo naill ai o ganlyniad i gamgymeriad gweinyddol neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyng i) sefyllfaoedd lle mae naill ai swm anghywir o arian wedi’i dalu neu lle mae arian wedi’i dalu mewn camgymeriad neu lle penderfynwyd yn ôl disgresiwn llwyr CITB na chydymffurfiwyd â’r Polisi hwn.

Bydd unrhyw ordaliad grant neu grant y canfyddir ei fod yn cael ei dalu mewn camgymeriad am unrhyw reswm gan CITB yn ad-daladwy ar unwaith ar gais.


9.1 Taliadau ac eithrio Teithio i Hyfforddi – Teithio a llety Prentisiaeth

Bydd cadarnhad cais grant cymeradwy trwy Borth Cyfrif Ar-lein y Cyflogwr a/neu hysbysiad talu yn unig. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd unrhyw gadarnhad arall yn ddilys nac yn cael ei gydnabod gan CITB.

Fel y crybwyllwyd eisoes, mae Cynllun Grantiau CITB yn ddewisol ei natur ac yn cael ei ariannu gan Ddiwydiant drwy Lefi CITB. Mae system gweithredu ariannol gyfredol CITB yn gosod grant yn awtomatig yn erbyn unrhyw rwymedigaeth Lefi sy’n weddill.

Rhaid i Gyflogwyr gwblhau a chyflwyno’r holl Ffurflenni Lefi yn unol â’r terfynau amser a thalu neu fod â threfniadau Debyd Uniongyrchol yn eu lle i dalu’r holl Lefi sy’n ddyledus cyn y bydd unrhyw grant yn cael ei ryddhau i’w dalu.

Bydd taliadau grant ar gyfer hyfforddiant sy’n para mwy na 12 mis yn defnyddio cyfraddau sefydlog o’r flwyddyn y dechreuodd yr hyfforddiant.

Telir taliadau grant i gyfrif banc enwebedig y Cyflogwr trwy Gredyd Uniongyrchol Bacs, ni waeth a gyflwynir cais gan Gyflogwr neu drydydd parti. Cyfrifoldeb y Cyflogwr yw diweddaru CITB o unrhyw newidiadau i fanylion ei gyfrif banc.

9.2 Taliadau Teithio i Hyfforddi – Teithio a llety Prentisiaeth

Mae CITB angen copi o’r holl dystiolaeth berthnasol bo deithio, llety a phresenoldeb dros gyfnod y cais. Mae tystiolaeth o’r fath yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, docynnau trên, sgrinluniau o archebion a wneir trwy ap, e-byst neu ddogfennau cadarnhad archebu ac amserlenni coleg.

Nid yw cyflwyno ceisiadau teithio a/neu lety yn gwarantu cymeradwyaeth a bydd y Cyflogwr yn cael gwybod am unrhyw wrthodiadau.

Bydd y Cyflogwr yn ad-dalu unrhyw daliadau, costau a threuliau sy’n codi o ganlyniad i dorri Cod Ymddygiad CITB ar gyfer Prentisiaid mewn Llety.

Telir taliadau am deithio a llety i gyfrif banc enwebedig y Cyflogwr trwy Gredyd Uniongyrchol Bacs. Cyfrifoldeb y Cyflogwr yw diweddaru CITB o unrhyw newidiadau i fanylion ei gyfrif banc.

Rhaid i gyflogwyr gadw a chynnal, am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi, gofnodion llawn a chywir o geisiadau am grant gan gynnwys:

  • Prawf bod y Cyflogwr wedi nodi’r angen am hyfforddiant, wedi trefnu’r hyfforddiant ac wedi derbyn cost yr hyfforddiant (lle bo’n berthnasol);
  • Cofnodion cyflogres ar gyfer pob cyflogai gan gynnwys Cyflwyniadau Taliad Llawn (FPS), P60s, P11s;
  • Cofnodion taliad ar gyfer pob is-gontractwr gan gynnwys dogfennaeth CIS300 berthnasol, ffurflenni misol contractwyr ar-lein ac anfonebau;
  • Tystiolaeth o hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith lle bo’n berthnasol;
  • Tystiolaeth o hyfforddiant sydd wedi digwydd neu sy’n digwydd ar hyn o bryd (e.e. cofnodion presenoldeb a thystysgrifau cyflawniad).

Efallai bydd angen tystiolaeth bellach i gefnogi cais am rai mathau o grant a dylai Cyflogwyr wirio’r gofynion sy’n benodol i bob math o grant cyn cyflwyno cais.

Bydd cyflogwyr yn caniatáu i CITB, ei gynrychiolwyr a’i archwilwyr weld y cofnodion hynny sy’n ofynnol mewn cysylltiad â’r Polisi hwn ac adran 6 o Ddeddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982. Bydd cyflogwyr sy’n methu â chydymffurfio yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

Bydd y wybodaeth a ddarperir i CITB (“y Wybodaeth”) yn cael ei chasglu a’i phrosesu at ddiben gweinyddu’r Grantiau sydd hefyd yn galluogi CITB i gyflawni ei swyddogaethau statudol (a dibenion sy’n gysylltiedig â’r swyddogaethau hynny) fel y nodir yn Neddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982.

Bydd y Wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ac ni chaiff ei datgelu i drydydd parti heblaw’r rhai a ddisgrifir uchod ac yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd CITB.

I gael rhagor o wybodaeth sy’n esbonio hawliau gwrthrych y data a sut y gall CITB ddefnyddio’r Wybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd CITB.

Mae CITB yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais am grant nad yw, yn ei farn, yn bodloni’r Polisi hwn neu’r gofynion sy’n benodol i bob math o grant neu nad yw’n bodloni neu’n hyrwyddo swyddogaethau statudol neu elusennol CITB.

Gallwch apelio os caiff eich cais am grant ei wrthod. Bydd ein Tîm Cynllun Grantiau yn ystyried eich apêl ac yn eich hysbysu o’r canlyniad o fewn y cyfnod amser a nodir ym Mholisi Apêl y Cynllun Grantiau,

Apeliwch trwy e-bostio neu drwy anfon llythyr yn unig â thystiolaeth ategol at:

GrantsScheme.Appeals@citb.co.uk

neu

Tîm Cynllun Grantiau
CITB Bocs 30
C/O SSCL
Tŷ Phoenix
Casnewydd
NP10 8FZ

Darllen mwy am bolisi apêl CITB