Cofrestru eich busnes gyda CITB.
Mae'n ofynnol i CITB osod lefi ar gyflogwyr sy'n ymwneud yn gyfangwbl neu'n bennaf â gweithgareddau'r diwydiant adeiladu ac mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich busnes i gwblhau Ffurflen Lefi blynyddol. Gofynnir i chi ddarparu manylion eich bil cyflogau, er mwyn i ni asesu unrhyw atebolrwydd lefi.
Canfod manylion pellach cyfraddau Lefi cyfredol, gostyngiadau a therfynau eithriadau.
Sut i gofrestru eich busnes
Darllenwch y wybodaeth ganlynol cyn cwblhau'r Ffurflen Gofrestru Cyflogwr
Adolygwch y rhestrau o weithgareddau adeiladu a nad ydynt yn adeiladu isod yn ofalus. Os credwch fod eich busnes yn gyflogwr sy'n ymwneud yn llwyr neu'n bennaf â gweithgareddau'r diwydiant adeiladu, cwblhewch ein Ffurfen Gofrestru Cyflogwr ar-lein.
Rydym yn anelu at ymateb i'ch ymholiad cofrestru cyn pen 10 diwrnod gwaith. Gallai hyn gynnwys gwneud cais am ragor o wybodaeth i asesu eich dilysrwydd i gofrestru.
Unwaith y bydd eich busnes wedi'i gofrestru gyda CITB, bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd Ffurflen Lefi flynyddol i CITB waeth beth yw'r swm rydych wedi'i dalu i'ch gweithwyr.
Help gyda chofrestru
- Holwch gwestiwn i ni trwy ddefnyddio'r blwch sgwrsio ar waelod eich sgrin
- Cysylltwch â'n tîm lefi ar levy.grant@citb.co.uk neu drwy ffonio 0344 99 444 55.
Hefyd efallai y bydd gennych ddiddordeb yn...
Dysgu am ddeddfwriaeth llywodraeth o gwmpas y lefi CITB: