Facebook Pixel
Skip to content

Cyflenwi gweithrediadau safle a logisteg

We have doubled the grant rates for short course tiers 1 – 3. To address rising costs, you can now receive higher rates on course achievements from 1st April 2023

Grant Tier

Achievement date before 1 April 2023

Achievement date on or after 1 April 2023

Grant Tier 1

Grant Tier 1 Refresher

£30

£15

£60

£30

Grant Tier 2

Grant Tier 2 Refresher

£70

£35

£140

£70

Grant Tier 3

Grant Tier 3 Refresher

£120

£60

£240

£120

Cyflenwi gweithrediadau safle a logisteg

Pwrpas y safon hon yw galluogi'r cynrichiolydd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gynllunio a rhoi aelodau'r tîm ar waith ar y safle i wella ansawdd a pherfformiad tîm fel sy'n ofynnol gan oruchwyliwr safle neu ddarpar oruchwyliwr safle.

Hyd

14 awr o ddysgu dan arweiniad

Diben / sgôp

Pwrpas y safon hon yw galluogi'r cynrichiolydd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gynllunio a rhoi aelodau'r tîm ar waith ar y safle i wella ansawdd a pherfformiad tîm fel sy'n ofynnol gan oruchwyliwr safle neu ddarpar oruchwyliwr safle.

Sgôp

  • cynllunio gwaith ar y safle
  • rhoi aelodau’r tîm ar waith
  • gwella perfformiad tîm o ran cyflawni yn unol â'r cynllun
  • pwysigrwydd rheoli ansawdd yn y gweithle

Perthnasedd galwedigaethol

Byddai hyfforddiant a ddarperir yn erbyn y safon hon yn berthnasol i'r grwpiau galwedigaethol canlynol: goruchwylio, rheoli ac arwain.

Rhagofynion Cynrychiolwyr

Nid oes unrhyw ragofynion cynrychiolwyr fel rhan o'r safon hon.

Cyfarwyddyd/goruchwyliaeth

Fel isafswm, rhaid i hyfforddwyr cwrs allu dangos, mewn perthynas â’r safon hon, bod:

  • ganddynt ddyfarniad mewn addysg a hyfforddiant (neu gyfwerth, yn unol â gofynion sefydliadau hyfforddi cymeradwy)
  • wedi cwblhau hyfforddiant i’r safon hon yn llwyddiannus (o fewn y 3 blynedd diwethaf)
  • o leiaf 3 blynedd o brofiad diwydiannol perthnasol
  • CV gwiriadwy
  • gwybodaeth am brosesau dysgu ac asesu ILM VRQ (dymunol)

Darpariaeth

Gall darpariaeth fod mewn amgylchedd gwaith neu i ffwrdd o'r gwaith.

Rhaid i'r holl ddeunyddiau ac offer fod o ansawdd a maint addas er mwyn i gynrychiolwyr gyflawni canlyniadau dysgu a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.

Rhaid i faint y dosbarth a'r gymhareb cynrychiolwyr/hyfforddwr ganiatáu i hyfforddiant gael ei gyflwyno mewn modd diogel a galluogi'r cynrychiolwyr i gyflawni'r canlyniadau dysgu. Ni ddylai nifer y cynrychiolwyr fod yn fwy nag 20 fesul hyfforddwr.

Gellir defnyddio'r dulliau dosbarthu canlynol wrth gyflawni'r safon hon: wyneb yn wyneb; rhithiol.

Ystyrir bod y safon hon yn cynnwys 51% neu fwy o ddysgu damcaniaethol.

Ystyrir bod y safon hon wedi'i gosod ar lefel ganolradd.

Asesiad

Er mwyn cwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus, rhaid i gynrychiolwyr gwblhau asesiad diwedd cwrs sy'n mesur yr holl ddeilliannau dysgu ac yn bodloni'r meini prawf llwyddo ar gyfer pob un.

Y dull asesu ffurfiol a ystyrir yn briodol ar gyfer hyfforddiant a gyflwynir yn erbyn y safon hon yw trwy bapur o 21 cwestiwn yn seiliedig ar un cwestiwn fesul pwynt meini prawf asesu o fewn y deilliannau dysgu gyda chronfa o 2 set o bapurau cwestiwn. Rhaid i gynrychiolwyr gael 75% o atebion cywir i lwyddo. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rhaid cael atebion enghreifftiol er mwyn sicrhau cysondeb.

Sicrwydd Ansawdd

Sicr

Er mwyn sicrhau sicrwydd ansawdd yn erbyn y safon hon, bydd angen cymeradwyaeth gychwynnol gan y sefydliad hyfforddi a bydd eu cynnwys wedi'i fapio i'r safon.

Bydd CITB hefyd yn cynnal ymyriad cymeradwyo, naill ai ymweliad desg neu ganolfan, i sicrhau y gall y sefydliad hyfforddi fodloni gofynion y safon hyfforddi.

Bydd yn ofynnol i sefydliadau hyfforddi cymeradwy (ATOs) gyflwyno gwybodaeth am gofnodion hyfforddi ac asesu ar gais i CITB i'w dadansoddi wrth ddesg. Bydd tîm sicrwydd ansawdd CITB hefyd yn ymweld â nhw bob blwyddyn.

Adnewyddu

Nid oes unrhyw ofynion adnewyddu gorfodol na gofynion gloywi a argymhellir ar gyfer y safon hon.

Dosbarthiad

Oes (Sylwer mai dim ond unwaith fesul cynrychiolydd y bydd safonau sy'n defnyddio'r dosbarthiad hwn yn cael cymorth grant)

Dyddiad Cymeradwyo

Mai 2022

Cylch adolygu

Ar gais neu 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cymeradwyo.

Canlyniadau dysg

Bydd y cynrychiolydd yn gallu:

  • cynllunio gwaith ar y safle.
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • disgrifio targedau sefydliadol sy'n berthnasol i'r tîm yn fanwl gywir a chyda chyd-destun manwl a pherthnasol
      • egluro’r arferion sydd ynghlwm wrth osod amcanion SMART er mwyn i'r tîm gyflawni targedau
      • disgrifio techneg i gynllunio i gyflawni'r amcanion
      • egluro'r arferion sy'n ymwneud â sut i fonitro a rheoli gweithgaredd a gynllunnir
      • egluro pam mae'r gadwyn gyflenwi yn bwysig o ran sicrhau canlyniadau a bodloni gofynion cwsmeriaid
      • disgrifio dau neu fwy o faterion amgylcheddol sy'n effeithio ar gynllunio gweithrediadau safle a logisteg
      • disgrifio pa gamau y gall y goruchwyliwr eu cymryd i alluogi'r sefydliad i gyflawni ei gyfrifoldebau amgylcheddol

  • cynllunio gweithgareddau aelodau'r tîm.
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • disgrifio'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau gweithgaredd wedi'i gynllunio o fewn cyd-destun manwl a pherthnasol
      • egluro arferion ar sut i ddyrannu gwaith i aelodau'r tîm
      • disgrifio sut y gellir gwella perfformiad unigolion trwy ddyrannu cyfrifoldebau'n glir
      • egluro sut i asesu a chefnogi perfformiad unigolion a pherfformiad y tîm wrth gyflawni amcanion

  • disgrifio sut i wella perfformiad tîm o ran cyflawni yn unol â'r cynllun.
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • disgrifio achos posibl o amrywiad o weithgaredd a gynlluniwyd o fewn cyd-destun manwl a pherthnasol
      • egluro camau gweithredu i oresgyn achosion amrywiad o fewn cyd-destun manwl a pherthnasol
      • disgrifio prif nodweddion perfformiad gwael er mwyn disgrifio ac unioni perfformiad gwael
      • egluro sut i gynnwys aelodau'r tîm wrth ddynodi ffyrdd o wella perfformiad i fodloni amcanion

  • egluro pwysigrwydd rheoli ansawdd yn y gweithle.
    • Rhaid i asesiad o’r deilliant dysgu hwn gwmpasu gallu’r cynrychiolwyr i:
      • egluro pam fod ansawdd yn bwysig i gwsmeriaid mewnol ac allanol
      • disgrifio'r system ansawdd a ddefnyddir ar y safle
      • egluro sut y bydd goruchwyliwr yn lleoli ac yn dehongli'r manylebau ansawdd priodol
      • egluro sut mae ansawdd yn cael ei fonitro, ei ddogfennu a'i gofnodi ar y safle
      • egluro sut mae datganiadau dull yn gweithredu i ddangos pwysigrwydd datganiadau dull o ran cyrraedd y safonau
      • egluro sut y gall y goruchwyliwr gymryd camau ymarferol a chadarnhaol i wella ansawdd ar y safle ansawdd gofynnol

Gwybodaeth ychwanegol am y safon hon

Mae'r safon hyfforddi hon yn deillio o Lefel 3 ILM mewn Arfer Arwain a Rheoli ar gyfer y Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, uned 8626-301 Cyflawni Gweithrediadau Safle a Logisteg.