Cyrsiau Arwain a Rheoli gyda CITB
Ar y dudalen hon:
- Trosolwg
- Pwy all elwa o'r Hyfforddiant Arwain a Rheoli?
- Beth yw manteision hyfforddiant Arwain a Rheoli i'm busnes?
- Pa gyrsiau Arwain a Rheoli sydd ar gael?
- Sut mae dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant ar gyfer y cyrsiau byr Arwain a Rheoli
- A oes grant CITB ar gael ar gyfer yr hyfforddiant Arwain a Rheoli?
Trosolwg
Mae arwain a rheoli yn sgiliau allweddol ar gyfer pob safle adeiladu ac yn faes lle mae'r diwydiant wedi dynodi angen am fwy o gymorth a hyfforddiant. I gefnogi cyflogwyr, mae CITB wedi creu fframwaith newydd o 11 cwrs byr.
“Rydym yn cymeradwyo ymrwymiad CITB i bontio bylchau sgiliau arwain a rheoli o fewn y diwydiant adeiladu. Wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyrsiau byr a chymhwyster arwain a rheoli ILM, mae CITB yn helpu i ymgorffori gwybodaeth a sgiliau a fydd yn datblygu gyrfaoedd unigol ac yn gwella perfformiad a chynhyrchiant ar draws y diwydiant.” David Phillips, Rheolwr Gyfarwyddwr City & Guilds.
Mae cyrsiau Arwain a Rheoli CITB wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau a'r hyder cynyddol sydd eu hangen ar oruchwylwyr a rheolwyr rheng flaen i gyflawni eu rolau'n effeithiol mewn meysydd fel arwain a threfnu eu timau, ymdrin â sefyllfaoedd anodd, a datrys problemau.
Gall gweithwyr ddewis dilyn un modiwl fel cwrs byr neu ddilyn agwedd “dewis a chymysgu” at ddysgu, gand dewis dilyn sawl cwrs gwahanol o fewn y fframwaith er budd eu datblygiad personol. I unrhyw un sy'n dymuno gwneud cymhwyster cyflawn, mae Dyfarniad Lefel 3 ILM Adeiladu neu Dystysgrif mewn Ymarfer Arwain a Rheoli yn parhau i fod ar gael trwy ein Cynllun Grant.
Pwy all elwa o'r Hyfforddiant Arwain a Rheoli?
Mae’r fframwaith, sy’n deillio o gynnwys ILM ac a grëwyd gan CITB, yn golygu bod yr holl gyrsiau wedi’u teilwra i dimau adeiladu a gweithredol. Gall goruchwylwyr a rheolwyr fod ar safle neu swyddfa, cyn belled â'u bod yn rheoli tîm neu y gallent wneud hynny yn y dyfodol. Er bod y fframwaith wedi’i gynllunio i gefnogi datblygiad rheolwyr a goruchwylwyr, gall unrhyw gyflogai a allai elwa o’r hyfforddiant gymryd rhan.
Beth yw manteision hyfforddiant Arwain a Rheoli ar gyfer fy musnes?
Mae CITB wedi creu’r cyrsiau byr hyn i gefnogi cyflogwyr, fel y manylir yn ein diweddar cynllun busnes
Mae'r fframwaith newydd yn helpu pob cyflogwr sydd wedi cofrestru ar gyfer lefi i gael mynediad at hyfforddiant Arwain a Rheoli safonol a throsglwyddadwy trwy gyfres o gyrsiau byr. Mae hyn yn golygu:
- Gall cyflogwyr ddewis o ystod o gyrsiau byr sy'n cefnogi datblygiad sgiliau eu rheolwyr a'u goruchwylwyr eu hunain
- Nid oes unrhyw aseiniadau hir fel rhan o'r hyfforddiant, sy'n lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i gwblhau'r hyfforddiant
- Am y tro cyntaf, bydd cyflogwyr yn gallu cael cymorth grant cyfnod byr ar gyfer hyfforddiant Arwain a Rheoli
- Mae hyblygrwydd o ran darparu – gall cyflogwyr ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant sy'n cynnig y cyrsiau yn bersonol neu o bell
- Mae'r safonau newydd yn ganllaw i gyflogwyr nad ydynt yn siŵr pa hyfforddiant fyddai'n ddefnyddiol i oruchwyliwr
- Gellir defnyddio'r cyrsiau fel datblygiad personol ar gyfer rhywun nad yw'n barod i symud i rôl oruchwyliol ond sy'n rhan o'u huchelgeisiau gyrfa hirdymor
Mae cyflogwyr sydd wedi rhoi hyfforddiant Arwain a Rheoli ar waith ar gyfer eu staff wedi gweld:
- Cynnydd mewn cynhyrchiant
- Gostyngiad yn nifer yr oriau gwaith ar y safle
- Hyfforddiant awain a rheoli yn cyfrannu at amgylchedd gwaith diogel i'r holl staff
- Manteision cadw gwell trwy gynnig hyfforddiant sy'n cefnogi uchelgeisiau gyrfa hirdymor gweithwyr a datblygiad proffesiynol parhaus
Dim ond trwy Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy (ATOs) y CITB y mae cyrsiau byr Arwain a Rheoli ar gael. Gellir cwblhau'r hyfforddiant yn bersonol neu o bell. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw gyflogwyr a gweithwyr sy'n ceisio lleihau amser teithio ddewis cymryd rhan yn yr hyfforddiant mewn lleoliad sy'n gyfleus iddyn nhw, gyda mynediad i sesiwn ddysgu fyw gyda thiwtor ar-lein.
I gael rhagor o fanylion am y cyrsiau a'r ATOs sy'n cynnig yr hyfforddiant hwn, llenwch y ffurflen fer ar-lein a bydd eich cynghorydd ymgysylltu CITB lleol mewn cysylltiad.
Os hoffech ddefnyddio darparwr hyfforddiant nad yw ar hyn o bryd yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO), gall CITB eu helpu i ddod yn un - Sut i fod yn ATO