Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau'r chwiliad

Wedi canfod 47 prosiect a ariennir. Caiff prosiectau a ariennir eu didoli mewn trefn gronolegol o chwith.

I gael gwybodaeth bellach ar bob prosiect, dewiswch deitl y prosiect

Llogi Peiriannau - Tyfu a Datblygu BBaCh
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Adnoddau dysgu, Sectorau a rolau, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Cymwysterau a chyrsiau newydd, Arwain a Rheoli
Arweinydd y prosiect:
Cymdeithas Perchnogion Offer yr Alban [Scottish Plant Owners Association]
Swm a ddyfarnwyd:
£52,800
Crynodeb diwedd y prosiect:

Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant i fodloni'r prinder sgiliau presennol mewn gweithredu peiriannau trwy ddarparu sgiliau busnes a fydd yn galluogi meicro-gyflogwyr i dyfu a meithrin gallu ar gyfer y sector.

Rhaglen hyfforddi a fydd yn cael ei chyflwyno i uwch reolwyr a pherchenogion busnes. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys: entrepreneuriaeth, cynllunio busnes, 'prynu cost gyfan', caffael arloesol, asesu risg a rheolaeth, datganiadau dull, a chydymffurfiaeth.  

Ansawdd a diogelwch ar y brif - torri tir
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Sectorau a rolau, Adnoddau dysgu, Cefnogaeth i gyflogwyr bach
Arweinydd y prosiect:
Grŵp Contractwyr Cyfleustodau [Utilities Contractors Group]
Swm a ddyfarnwyd:
£62,595
Crynodeb diwedd y prosiect:

Mae'r prosiect yn dilyn llwyddiant cam 1 prosiect C1BB a gynhyrchodd adnodd hyfforddi o safon uchel gan ganolbwyntio ar amodau gwaith, asesu diogelwch a risg wrth gloddio.

Dyma Gam 2, â'r prif amcanion yw: datblygu ffilm hyfforddi,  a fydd yn canolbwyntio ar destun 'Torri Tir', yn amlygu peryglon gweithio ar y priffordd, ac adolygu'r ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ddiweddaraf.

Bydd hwn yn adnodd hyblyg a fydd yn cefnogi hyfforddiant cymysg

Cronfa Buddsoddi Mewn Ymchwil – CECA
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio
Arweinydd y prosiect:
Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil [Civil Engineering Contractors Association]
Swm a ddyfarnwyd:
£35,000
Crynodeb diwedd y prosiect:

Comisiynwyd y prosiect hwn i ddarparu tystiolaeth empirig o raddfa'r bwlch sgiliau a'r prinder sgiliau ym mhroffesiwn Clerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

Yn hanesyddol nid yw argaeledd ECOW wedi cael ei fesur ac ni chafodd ei gymhwysedd ei asesu. O ganlyniad, mae pryder y gallai bylchau sgiliau a phrinder sgiliau posibl fodoli yn y maes hwn.