Facebook Pixel
Skip to content

Canolfan Profiad ar y Safle yn gweddnewid bywyd Daniel

“Dysgu sgil newydd bob dydd oedd un o’r teimladau gorau.”

Dyna argraffiadau saer dan hyfforddiant o’r enw Daniel Skelly.

Maent yn enghraifft dda iawn o sut gall hyfforddiant ar gyfer gyrfa newydd fod yn bleserus – a thrawsnewid bywyd.

Fel llawer o bobl, cafodd Daniel, sy'n 21 oed ac sy’n dod o Gaerlŷr, amser caled yn ystod y cyfnod clo.

Yn ystod y pandemig, roedd yn gofalu am ei fam, Juliet, a gafodd ddiagnosis o ganser.

Y cyfnod clo oedd adeg waethaf ei fywyd, meddai Daniel, a phan fu farw Juliet, roedd “mewn lle gwael iawn” yn gwbl ddealladwy.

“Roedd hi’n arfer dweud, ‘gwna’n siŵr dy fod di’n cael gwaith yn y diwydiat adeiladu oherwydd bydd gennyt ti swydd am oes,’ meddai Daniel.

“Rhoddodd y geiriau hynny’r hwb oedd ei angen arnaf i roi trefn ar fy mywyd.

“Doedd gen i ddim swydd, ac os na fuaswn i'n llwyddo i gael un, buaswn wedi bod yn ddigartref. Roedd yn rhaid i mi ymgymryd â fflat fy mam a phopeth arall pan fu farw. Roedd yn brofiad ofnadwy.”

Amhrisiadwy

Dechreuodd ffawd Daniel newid pan ymunodd â Chanolfan Adeiladu Ar y Safle Cyngor Dinas Caerlŷr.

Dyna lle bu’n ystyried cyngor ei fam yn llawn a dechrau dysgu crefft, fel darpar saer.

Mae’r Ganolfan Profiad ar y Safle, sy’n cael ei rhedeg gan y cyngor a’i chyllido ar y cyd gan CITB, yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl sy’n chwilio am waith yn y diwydiant adeiladu.

Mae’n rhoi profiad amhrisiadwy i ddysgwyr, yn enwedig y cymwysterau sy’n barod ar gyfer y safle mae cyflogwyr adeiladu lleol yn galw amdanynt.

Ffrindiau

Mae Daniel yn dweud iddo gael llawer o fudd o’i hyfforddiant. Cafodd ei gynnydd hwb oherwydd iddo fwynhau’r profiad gymaint.

“Roedd pobl o bob cefndir ac oedran ar gwrs y rhaglen hyfforddi,” meddai, “ac roedd pob un ohonom yn ffrindiau go dda ar ddiwedd y cwrs.”

Mewn un rhaglen hyfforddi pum diwrnod, dysgodd Daniel am ymwybyddiaeth o asbestos, iechyd a diogelwch, olwynion garw, codi a chario a gweithio o uchder.

“Roedd yn wych oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am y byd adeiladu, ac yna roeddwn i wedi dysgu bron popeth y gallwch chi ei ddysgu o fewn wythnos, ar gyfer y prawf CSCS.”

Profiad

Pan orffennodd Daniel y cwrs, cafodd leoliad profiad gwaith gyda Thomson Hayes, arbenigwr dylunio ac adeiladu ym maes manwerthu yng Nghaerlŷr.

“Mae’n dda iawn, ac mae pawb yn gyfeillgar,” meddai Daniel.

“Ar y lleoliad, dysgais sut i wneud unedau o safon uchel ar gyfer cwmnïau fel Christian Dior neu Aveda, a phethau ar gyfer adran harddwch Harrods, hyd yn oed.

“Dysgu sgil newydd bob dydd oedd un o’r teimladau gorau. Mae’n rhoi llawer o hunanhyder i chi, a theimlad o falchder bod eich gwaith i’w weld mewn siop o’r radd flaenaf fel Harrods.”

Cyfle

“Ers i’r Ganolfan ddechrau ym mis Ebrill 2021, mae wedi cynorthwyo 305 o unigolion i gwblhau eu Hyfforddiant CSCS,” meddai Rheolwr y Ganolfan Adeiladu ar y Safle, Richard Thorpe.

“Mae dros 130 o bobl wedi cyrraedd safon parod am swydd a gwaith safle ar ôl lleoliadau profiad gwaith llwyddiannus.”

Mae’r Ganolfan wedi cynorthwyo unigolion o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys cyn-droseddwyr, pobl a fu'n ddi-waith am dymor hir, menywod, myfyrwyr coleg a grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

“Ein ffocws yw cynorthwyo pobl sydd eisiau gyrfa ym maes adeiladu a’u galluogi i gael sgiliau gwerthfawr sy’n gysylltiedig â diwydiant, heb ystyried eu cefndir,” meddai Richard.

Hyd yma, mae Canolfan Caerlŷr wedi helpu dros 120 o unigolion i gael swyddi yn y diwydiant adeiladu fel Labrwyr, Goruchwylwyr Safleoedd a Rheolwyr.

“Bu nifer o straeon llwyddiannus,” meddai Richard, “fel Egidijus, a gwblhaodd ei gwrs CSCS ac sydd yn awr yn Oruchwyliwr Safle gyda GRJ Contracting.

“Fe wnaeth Ben gwblhau cwrs coleg ac yna cael Cerdyn CSCS, gyda’n cymorth ni, i fod yn Brentis Peintiwr gyda chwmni addurno Ashby.

“A dyna i chi Emmy, wedyn, a adawodd y sector gofal ac a gafodd rôl fel gweithiwr dymchwel gydag AR Demolition.”

Ysbrydoliaeth

Mae Rohan Cheriyan, Comisiynydd CITB, yn dweud bod adeiladu yn ddiwydiant sydd â rhagolygon tymor hir da wrth feddwl am y darogan am gyfnod economaidd anodd.

“Mae rhagolwg sgiliau CITB yn amcangyfrif y bydd angen dros 50,000 o weithwyr adeiladu newydd i ddiwallu galw cyflogwyr bob blwyddyn rhwng nawr a 2026,” meddai Rohan.

““Mae’r Ganolfan Profiad ar y Safle yng Nghaerlŷr, yn ogystal â’r rhai mae CITB wedi eu cyllido ledled y wlad, yn rhoi cyfle i bobl o bob oed a chefndir. Bydd y Canolfannau yn eu helpu i ddod o hyd i waith.

“Mae’n galonogol gweld sut daeth Daniel drwy gyfnod anodd. Mae’n enghraifft ysbrydoledig i unrhyw un sy'n wynebu amgylchiadau anodd. Gall bywyd newid os gwnewch chi’r gorau o gyfleoedd. Bydd y diwydiant adeiladu yn rhoi cyfle i chi os oes gennych chi agwedd dda ac os ydych chi’n barod i ddysgu.”

Balch

Ers i Daniel fod gyda Thomson Hayes, mae wedi datblygu ei brofiad. Mae hefyd wedi cael cyfleoedd i weithio dramor.

“Mae ei natur benderfynol a’i barodrwydd i ddysgu wedi bod yn wych ac rwy’n siŵr y bydd yn mynd yn bell yn ei yrfa fel saer medrus,” meddai Richard.

Mae Daniel yn ddiolchgar am gyngor ei ddiweddar fam a’r cyfle a gafodd gan y Ganolfan a Thomson Hayes.

“Nawr fy mod i wedi bod drwy’r Ganolfan, dydw i ddim yn gwybod lle mae dechrau diolch iddyn nhw,” meddai.

“O waelod fy nghalon, mae wedi rhoi’r cyfle gorau y gallwn i fod wedi gofyn amdano erioed.

“Mae wedi fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa am oes.

“Gobeithio y byddaf i’n dod yn saer cymwys ac yn rhoi trefn ar fy mywyd, a gwneud fy mam a fy merch yn falch ohonof.”

Mae ein rhestr chwarae astudiaethau achos yn cynnwys Daniel ac enghreifftiau eraill o waith Hwb Profiad ar y Safle ar draws y DU.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Ganolfan yng Nghaerlŷr? Mae’n cynnig rhaglen mynediad am ddim i'r diwydiant adeiladu. Byddwch yn ennill sgiliau yn y diwydiant i’ch cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer safle gwaith cyn ymgymryd â phrofiad gwaith gyda chyflogwr lleol. Cysylltwch â Richard Thorpe: Richard.Thorpe@leicester.gov.uk 

Daniel yn gweithio gyda thiwtor