Facebook Pixel
Skip to content

Y Tîm Rheoli

Mae ein tîm rheoli gweithredol yn gweithio i gyflawni'r strategaeth a osodwyd gan ein bwrdd. Maen nhw'n ei gwneud hi'n genhadaeth i sicrhau bod gan y sector adeiladu'r sgiliau cywir, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.

Tim Balcon - Prif Weithredwr, CITB

Daeth Tim yn Brif Weithredwr CITB ym mis Medi 2021.

Mae Tim wedi arwain cyrff proffesiynol ac aelodaeth, gyda’r mwyaf nodedig fel Prif Weithredwr y Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol, lle trawsnewidiodd ei weledigaeth a’i berfformiad, gan arwain at dwf o flwyddyn i flwyddyn.

Mae hefyd wedi bod yn Brif Weithredwr y Cyngor Sgiliau Sector Ynni a Chyfleustodau (EU Skills), lle creodd yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Pŵer. Yn y rôl hon arweiniodd EU Skills at sicrhau cyllid sylweddol gan Ofgem, y rheoleiddiwr ynni, ar ôl dangos y risgiau economaidd sy’n deillio o’r argyfwng sgiliau sy’n wynebu’r diwydiant.

Adlewyrchwyd gwybodaeth Tim o addysg a sgiliau yn ei benodiad blaenorol i fwrdd Ofqual ar adeg o ddiwygio addysg mawr, a chyn hynny roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Diwygio Cymwysterau Galwedigaethol y DU.

Dechreuodd Tim ar ei daith Prif Swyddog Gweithredol yn ôl ym 1999 fel Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol Nwy a Dŵr, gan arwain sefydliad newydd o drosiant o £400k i dros £7m mewn tair blynedd. Dechreuodd o dref lofaol yn Ne Swydd Efrog fel prentis peiriannydd gwasanaeth gyda Nwy Prydain yn y 1980au cynnar, lle treuliodd ei yrfa gynnar.

Blogiau Tim

Adrian Beckingham - Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi

Adrian Beckingham

Daeth Adrian yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi CITB ym mis Mehefin 2022.
Mae wedi mwynhau amrywiaeth o uwch rolau yn ystod ei 18 mlynedd yn CITB. Mae'r swyddi'n cynnwys: Pennaeth Gwobrau CSkills, Pennaeth TG, Pennaeth Gwella Busnes a Chyfarwyddwr Newid CITB, sy'n arwain y gwaith o gyflawni rhaglen Vision 2020 ac, yn fwyaf diweddar, Cyfarwyddwr Perfformiad Corfforaethol.

Fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi, bydd Adrian yn arwain y swyddogaethau Strategaeth, Dadansoddi a Rhagweld y Diwydiant a Pholisi a Chysylltiadau Allanol.

Prif nod Adrian yw sicrhau bod gennym ni amlygrwydd o’r anghenion sgiliau presennol ac yn y dyfodol gan warantu bod y seilwaith hyfforddi yn gallu bodloni’r galw hwnnw.

Deb Madden – Cyfarwyddwr Ymygysylltu â Chwsmeriaid a Gweithrediadau

Ers ymuno â CITB ym 1997, mae Deb wedi chwarae rhan ganolog mewn swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid o fewn prentisiaethau, gyrfaoedd ac ymgysylltu â chyflogwyr.

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae wedi ymgymryd â rolau rheoli ardal a rhanbarthol sy’n canolbwyntio ar gyflenwi gweithredol, wedi’i ddilyn gan swydd arweiniol mewn Prentisiaethau ac yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu yn Lloegr.

Cyn ymuno â CITB, cafodd brofiad yn y sectorau prentisiaethau a hyfforddi’r gweithlu, gan weithio fel tiwtor, aseswr, dilysydd, a rheolwr darparwr hyfforddiant.

Mae Deb yn frwd dros ddatblygu a meithrin ein pobl i gael y canlyniadau gorau posibl ar gyfer diwydiant. Mae ei rôl yn canolbwyntio ar ymgysylltu’n weithredol â’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid, ysgogi datblygiad ymyriadau newydd, a chefnogi’r defnydd o gynhyrchion a gwasanaethau CITB, trwy’r timau ymgysylltu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Nicholas Payne – Prif Swyddog Ariannol

Ymunodd Nick â CITB fel Prif Swyddog Ariannol ym mis Tachwedd 2022, ac mae ei bortffolio’n cynnwys rheoli ystadau a chyfleusterau, cyllid a chasglu lefi, a thechnoleg a newid. Mae gan Nick hefyd gyfrifoldeb corfforaethol am barhad busnes a rheoli iechyd a diogelwch. Blaenoriaethau Nick yw creu amgylchedd i CITB lwyddo, a sbarduno a dangos ein gwerth a’n heffaith ar y diwydiant.

Yn flaenorol, penodwyd Nick yn Brif Swyddog Gweithredu cyntaf Swyddfa Gogledd Iwerddon (NIO) ym mis Chwefror 2022, ac roedd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau corfforaethol yn effeithlon ac yn effeithiol, gan gynnwys cyllid, adnoddau dynol, ystadau, digidol a thechnoleg, diogelwch adrannol, rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd, a chyfathrebu, yn ogystal â swyddfeydd preifat y gweinidogion, y tîm cymorth gweithredol a’r uned seneddol. Ym mis Medi 2022, bu Nick hefyd yn arwain y seremonïau a’r teyrngedau i’w Ddiweddar Fawrhydi’r Frenhines, a Chyhoeddiad Ei Fawrhydi’r Brenin, yng Ngogledd Iwerddon.

Cyn hynny, mae Nick wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau cyllid a masnachol ar draws y llywodraeth, ym maes plismona a’r sector preifat.
Mae diddordebau personol Nick yn cynnwys ymweld â’r sinema a’r theatr, cerdded, henebion hanesyddol a hynafol, a chrefft ymladd, lle mae’n hyfforddi ac yn cynrychioli Prydain Fawr yn Tang Soo Do.