Ynglŷn â Grwpiau Hyfforddi
Ar y dudalen hon:
Beth yw Grwpiau Hyfforddi
Rhwydweithiau cymorth o gyflogwyr adeiladu yw Grwpiau Hyfforddi. Maent yn helpu cyflogwyr i gael mynediad at hyfforddiant cost-effeithiol o ansawdd uchel sy'n addas ar gyfer eu hanghenion unigol.
Gan ddefnyddio eu pŵer bargeinio maent yn cyflawni cyfraddau hyfforddi gostyngol gan Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy (ATOs) a darparwyr hyfforddiant eraill. Mae rhai Grwpiau'n cyflawni arbedion o hyd at 40% yn erbyn cyfradd y farchnad ac yn trosglwyddo hyn yn uniongyrchol i'w haelodau.
Mae Grwpiau Hyfforddi yn trefnu hyfforddiant, yn cynghori ar ofynion gorfodol a sgiliau-benodol, yn cynorthwyo gyda cheisiadau am gyllid, yn helpu i gael mynediad at grantiau CITB, yn trefnu cyfleoedd rhwydweithio a mwy.
Maent yn sefydliadau dielw ac yn cael eu hariannu drwy Lefi CITB. Gan weithredu ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban, mae pob cwmni sydd wedi cofrestru gyda'r Lefi yn gymwys i ymuno â Grŵp Hyfforddi. Os nad ydych wedi cofrestru gyda CITB, gallwch gofrestru yma.
Buddion ymuno â Grŵp Hyfforddi
- Help gyda chynllunio a dod o hyd i hyfforddiant ar gyfer eich gweithlu
- Cymorth i hawlio grantiau a chyllid gan CITB a ffynonellau eraill
- Mynychu cyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant
- Arbed amser wrth drefnu hyfforddiant
- Diogelu eich gweithlu at y dyfodol
- Cymryd rhan mewn cyfleoedd rhwydweithio sefydliadau lleol neu arbenigol
- Dod yn rhan o lais torfol
- Datblygu hyfforddiant a fydd yn helpu eich busnes i dyfu fwyaf.
Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud
"Mae ein Grŵp Hyfforddi wedi ein helpu i gael mynediad at hyfforddiant cost-effeithiol i gannoedd o weithwyr ac mae'n darparu cymorth hanfodol sy'n ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ar feysydd allweddol o hyfforddiant."
Thames Valley Construction & Civil Engineering
“Mae ein Swyddog Hyfforddiant Grŵp yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiadau adeiladu, cyfleoedd am gyllid a hyfforddiant gwerth am arian. Ni fyddai ein busnes wedi tyfu yn y 3 blynedd diwethaf heb y cymorth hwn.”
Lee Roofing
Y gwahanol fathau o Grŵp Hyfforddi
Mae tri math o Grŵp Hyfforddi: Grwpiau Hyfforddi Lleol, Grwpiau Hyfforddi Arbenigol Rhanbarthol a Grwpiau Hyfforddi Arbenigol Cenedlaethol.
Gall penderfynu gyda pha Grŵp i ymuno ag ef ddibynnu ar eich anghenion hyfforddi unigol. Gallwch ymuno â Grŵp Hyfforddi Lleol ac Arbenigol.
Grwpiau Hyfforddi Lleol
Cyflogwyr o amrywiaeth o grefftau sy'n gweithredu yn yr un ardal ddaearyddol.
Gallai hyn fod yn rhanbarth, sir neu ddinas.
- Yn darparu mynediad at hyfforddiant lleol, cost-effeithiol i gyflogwyr micro a bach
- Ffordd wych o adeiladu cysylltiadau agosach gyda chwmnïau lleol eraill
- Mae pob Swyddog Hyfforddiant Grŵp yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad lleol
Grwpiau Hyfforddi Arbenigol Rhanbarthol
Masnachol neu sector-benodol, yn gweithredu o fewn rhanbarth penodol.
- Galluogi cyflogwyr sector-benodol i ddod ynghyd a chael mynediad at hyfforddiant arbenigol
- Yn darparu cymorth wedi'i dargedu at ranbarth ac arbenigedd eich busnes
- Cefnogi cyflogwyr i gael eu hachredu neu eu hardystio o fewn maes penodol.
Grwpiau Hyfforddi Arbenigol Cenedlaethol
Crefft neu sector-benodol, yn gweithredu ledled y wlad.
- Darparu sgiliau, hyfforddiant a datblygiad i gefnogi gofynion mwy pwrpasol, sector-benodol
- Gweithio i fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu eich rhan chi o'r diwydiant
- Darparu mynediad at hyfforddiant arbenigol am bris gostyngol a chymwysterau i wella sgiliau eich gweithlu.
Sut i ymuno â Grŵp Hyfforddi
Mae dod o hyd i Grŵp Hyfforddi ac ymuno ag ef yn gyflym ac yn syml.
Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth sylfaenol am eich cwmni, gan gynnwys ble mae wedi’i leoli, faint o weithwyr sydd gennych, yr hyfforddiant y mae gennych ddiddordeb ynddo a’ch rhif cofrestru CITB.
Dewch o hyd i'r Grŵp Hyfforddi sy'n addas ar eich cyfer chi gan ddefnyddio'r botwm isod.