Rhagolygon y Diwydiant CSN - 2023-2027
Ar y dudalen hon:
Trosolwg
Er bod economi’r DU yn wynebu dirwasgiad yn 2023, mwy na thebyg y bydd angen 225,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol erbyn 2027, yn ôl adroddiad diweddaraf y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN). Mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg ar economi adeiladu'r DU a'i hanghenion llafur yn y dyfodol.
Mae’r data y mae’n ei gynhyrchu yn amlygu tueddiadau a ragwelir a sut y disgwylir i’r diwydiant newid flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ganiatáu i lywodraethau a busnesau ddeall yr hinsawdd bresennol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gan edrych ar y pum mlynedd nesaf, mae’r adroddiad a ryddhawyd ddydd Mercher 18 Ionawr 2023, yn cydnabod yr heriau recriwtio a hyfforddi sylweddol sy’n wynebu diwydiant ac mae wedi gwneud y rhagfynegiadau allweddol a ganlyn ar gyfer 2023 - 2027:
225,000
O weithwyr ychwanegol y bydd angen i fodloni galw adeiladu'r DU erbyn 2027 (45,000 o weithwyr y flwyddyn, i lawr o ffigur y llynedd o 53,200).
Twf ledled y DU
Mae pob un o’r naw rhanbarth yn Lloegr ynghyd â’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar fin profi twf, fodd bynnag, disgwylir dirwasgiad yn 2023 gyda thwf araf yn dychwelyd yn 2024.
Recriwtio
Y prif sectorau ar gyfer galw yw:
- Tai preifat
- Seilwaith
- Atgyweirio a chynnal a chadw.
2.67 miliwn
Gweithwyr yn y diwydiant adeiladu erbyn 2027 os bodlonir y twf a ragwelir.
Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Mae adroddiad diweddaraf CSN yn dangos yn glir, er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd presennol, fod recriwtio a datblygu’r gweithlu yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau bod y diwydiant yn gallu cyfrannu at dwf economaidd.
“Rydyn ni'n gwybod na fydd y 18 mis nesaf yn hawdd, fodd bynnag, rydw i'n dal i gael fy ysbrydoli gan wydnwch y diwydiant adeiladu a ddangoswyd yn y pandemig a thrwy gydol 2022.
“O adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen ar y wlad, i adeiladu seilwaith ynni a thrafnidiaeth ac ôl-ffitio’r amgylchedd adeiledig i helpu i ostwng biliau ynni a chyrraedd targedau sero net, gellir dadlau nad yw’r angen i recriwtio a chadw talent yn y sector erioed wedi bod yn fwy.
“I hybu gwytnwch y diwydiant bydd CITB yn ymdrechu i ddenu a hyfforddi ystod amrywiol o recriwtiaid ar gyfer diwydiant, gan roi sgiliau modern iddynt ar gyfer gyrfaoedd adeiladu gwerth chweil. Edrychaf ymlaen at weithio gyda diwydiant a rhanddeiliaid a’u cefnogi yn y cyfnod heriol sydd o’n blaenau, gan ddod yn gryfach pan ddaw’r dirwasgiad i ben.”
Crynodeb DU
Cyrchwch yr adroddiad llawn gan gynnwys cynlluniau cenedl a rhanbarth (Saesneg un unig):
Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu – DU 2023-2027 (PDF, 5.59MB)
Cymru
Rhagfynegiadau allweddol:
- 1.1%: Allbwn cyfradd twf blynyddol cyfartalog (AAGR)
- 9,100: Angen gweithwyr ychwanegol yng Nghymru erbyn 2027
- 1,820: gofyniad recriwtio blynyddol ar gyfer Cymru
- Ymhlith y prosiectau mawr yng Nghymru mae prosiect adfywio £1bn Llunio Abertawe.
Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu – Cymru 2023-2027 (PDF, 1.52 MB)
Yr Alban
Rhagfynegiadau allweddol:
- 1.0%: Allbwn cyfradd twf blynyddol cyfartalog (AAGR)
- 19,550: Angen gweithwyr ychwanegol yn yr Alban erbyn 2027
- 3,910: Gofyniad recriwtio blynyddol yr Alban
- Cynlluniau buddsoddi cyfalaf £5bn Scottish Water: Y prif yrrwr twf.
Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu – Yr Alban 2023-2027 (PDF, 1.70 MB)
Gogledd Iwerddon
Rhagfynegiadau allweddol:
- 1.4%: Allbwn cyfradd twf blynyddol cyfartalog (AAGR)
- 4,450: Angen gweithwyr ychwanegol yng Ngogledd Iwerddon erbyn 2026
- 890: Gofyniad recriwtio blynyddol Gogledd Iwerddon
- £700 Bargen Ddinesig Rhanbarth Belfast: Prif yrrwr twf.
Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu – Gogledd Iwerddon 2023-2027 (PDF, 1.58 MB)
Sut rydym yn creu adroddiadau CSN
Trosolwg o'r dulliau sylfaenol a ddefnyddir gan y CSN, gan weithio mewn partneriaeth ag Experian, i gynhyrchu'r gyfres o adroddiadau ar lefel y DU, cenedlaethol a rhanbarthol.
Construction Skills Network Explained (PDF, 1.18 MB)
Ein methodoleg a’n gwasanaeth
Darganfyddwch sut rydyn ni'n cynnal ein hymchwil a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i ddiwydiant.