Facebook Pixel
Skip to content

Asbestos 

Rheoli a gweithio gyda asbestos

Mae Mesothelioma yn ffurf o ganser. Gellir ei achosi trwy anadlu ffibrau asbestos ac mae'n effeithio ar y bilen denau amddiffynnol sydd o amgylch yr ysgyfaint.

Gallai gymryd hyd at 50  blynedd ar ôl dod mewn cysylltiad â ffibrau asbestos i symptomau datblygu. Ar hyn o bryd, nid oes iachâd ar gyfer mesothelioma - mae'n glefyd terfynol.

Gwyliwch Simon's Story [Stori Simon]: byw gyda chlefyd cysylltiedig ag Asbestos.

Pam fod asbestos yn broblem yn y diwydiant adeiladu?

Mae'n bosib bod y rhan fwyaf o adeiladau a adeiladwyd cyn y mileniwm yn cynnwys asbestos mewn rhyw ffurf.

Mae'r risg o ddod mewn cysylltiad â ffibrau asbestos yn uwch i bobl sy'n gweithio ym meysydd ailwampio, adnewyddu, dymchwel, ac atgyweirio a chynnal, os nad oes dulliau rheoli priodol yn eu lle.

Sut i amddiffyn eich hun yn y gwaith

Os ydych yn gweithio ar adeilad a allai gynnwys asbestos, dylech:

  • ddilyn unrhyw drefn gweithio y mae eich cyflogwr wedi rhoi yn ei lle
  • sicrhau eich bod yn gwisgo eich cyfarpar diogelu personol (PPE) yn gywir
  • stopio gweithio gan gadw draw a rhybuddio eraill os ydych yn credu eich bod wedi dod o hyd i asbestos
  • beidio â byth ei gymryd ganiataol bod yr asbestos i gyd wedi cael ei ddarganfod eisoes
  • fynychu gwyliadwriaeth feddygol, os bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi wneud.

Mesurau Rheoli

Mae'n ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am atgyweirio, cynnal a chadw a rheoli adeiladau a allent gynnwys asbestos cynnal arolwg priodol (arolwg rheoli fel arfer).

Pwrpas yr arolwg rheoli yw i ddod o hyd i, a chadarnhau, raddfa unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos a allent gael eu difrodi neu eu symud gan waith dyddiol (megis deiliadaeth arferol a chynnal a chadw adeilad).

Yna, dylir gwneud gwybodaeth yr arolwg ar gael (trwy gofrestr asbestos) i'r holl gyflogwyr y mae'n bosib y gallai eu gweithwyr dod i gysylltiad ag ardaloedd a effeithiwyd.

Mae rhaid cwblhau arolwg mwy ymwthiol cyn atgyweirio neu ddymchwel adeilad sy'n cynnwys asbestos.

Yna, gellir cymryd camau priodol er mwyn amgáu a thynnu'r deunydd yn ddiogel.

Rhagor o wybodaeth

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ynghylch gweithio'n ddiogel a rheoli'r risgau sy'n codi o asbestos o'r  Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae'r ffilm hon hefyd ar gael i'w gwylio a'i rhannu ar Sianel YouTube y CITB