Facebook Pixel
Skip to content

Ynglŷn â Lefi CITB

Mae gan CITB yr awdurdod i osod lefi ar gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu.

A yw'r Lefi’n berthnasol i chi? 

Mae’r Lefi’n berthnasol i bob cyflogwr sydd, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, yn cyflawni gweithgareddau’r diwydiant adeiladu. Mewn geiriau eraill, pan mae eich gweithwyr (gan gynnwys is-gontractwyr) yn treulio mwy na hanner o’u hamser yn cyflawni gweithgareddau'r diwydiant adeiladu.

Rhagor o wybodaeth am bwy ddylai gofrestru â CITB

Faint yw’r Lefi? 

Mae’r hyn y byddwch yn ei dalu’n seiliedig ar gyfanswm eich bil cyflogau (h.y. faint rydych yn talu’ch gweithwyr mewn blwyddyn).

Yma mae’r gair ‘gweithwyr’ yn golygu’n benodol unigolion ar y gyflogres ac isgontractwyr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yr ydych yn gwneud didyniad CIS oddi wrthynt.

Cynigir cyfraddau lefi ar gyfer Asesiad Lefi 2024 fel 0.35% ar gyfer TWE ac 1.25% ar gyfer CIS Net o dan Orchymyn Lefi 2025 a gaiff ei gadarnhau yng Ngwanwyn 2025.

Ceir eithriad rhag talu’r Lefi a gostyngiad yn y Lefi i fusnesau bach. 

Sut rydym yn defnyddio'r lefi

Mae CITB yn defnyddio'r lefi i:

  • Cefnogi datblygiad hyfforddiant trwy grantiau a chyllid
  • Hyrwyddo'r diwydiant adeiladu fel dewis gyrfa gwych a chynnig prentisiaethau o ansawdd uchel
  • Dynodi anghenion sgiliau ar draws y diwydiant adeiladu
  • Datblygu safonau a chymwysterau galwedigaethol.

Mae'r lefi CITB yn cefnogi diwydiant adeiladu Prydain i ddatblygu'r gweithlu medrus sydd arno ei angen.

Sut mae cyllid lefi yn cael ei ddosbarthu ar draws y diwydiant

Mae'r tabl isod (data o ystadegau blynyddol 2021-2022) yn dangos sut mae cyllid lefi yn cael ei ddosbarthu i gyflogwyr adeiladu o bob maint i gefnogi hyfforddiant:

  • Cyflogwyr micro: 1 i 9 o weithwyr
  • Cyflogwyr bach: 10 i 49 o weithwyr
  • Cyflogwyr canolig: 50 i 249 o weithwyr
  • Cyflogwyr mawr: 250+ o weithwyr.
Sut mae cyllid lefi yn cael ei ddosbarthu ar draws y diwydiant
Categori Cyflogwyr micro Cyflogwyr bach Cyflogwyr canolig Cyflogwyr mawr Arall Cyfanswm
Cyllid lefi gan gyflogwyr £18.6m £30m £27.4m £32.1m £0.2m £108.3m
Grantiau a chymorth CITB ar gyfer hyfforddiant £21.1m £26.4m £25m £28.3m £0.9m £101.7m
Nifer y cyflogwyr sy'n hawlio cymorth grant a chymorth arall 8,335 5,766 1,663 299 88 16,151