Facebook Pixel
Skip to content

Cymraeg yn CITB

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn tynnu sylw at ymrwymiad CITB i gefnogi’r iaith Gymraeg.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddathliad o ddiwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau Cymreig; diwrnod o orymdeithiau, cyngherddau ac eisteddfodau. Mae baneri'n cael eu chwifio. Cenir yr anthem genedlaethol gyda brwdfrydedd ychwanegol. Ac mae cennin neu gennin pedr wedi'u pinio'n falch at lapeli.

Roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad ym Mhrydain cyn i'r Rhufeiniaid feddiannu ac, credwch neu beidio, mae'n un o ddeg o ieithoedd brodorol Ynysoedd Prydain sy'n dal i gael eu siarad heddiw. Ffynnodd yr iaith yn yr oesoedd canol, ond gwaharddwyd ei defnyddio yn dilyn Deddf Uno Henry’r VIII.

Ar ôl blynyddoedd o wahaniaethu, roedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 yn caniatáu i bobl ddefnyddio’r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru. Fe’i diweddarwyd yn 1993 i roi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Cydraddoldeb

Yn CITB, rydym yn falch o groesawu amgylchedd dwyieithog. Nid yn unig rydym yn sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal, ond rydym hefyd yn hyrwyddo ac yn annog y defnydd o’r Gymraeg.

Mae gwefannau CITB a Am Adeiladu yn ddwyieithog, mae'r holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn cael eu cyfieithu a'u cyhoeddi'n ddwyieithog, a gall cwsmeriaid gwblhau eu Ffurflenni Lefi yn Gymraeg.

Gall ein holl gwsmeriaid a rhanddeiliaid Cymreig gael mynediad at ein cefnogaeth a’n cynnyrch yn eu hiaith Gymraeg frodorol. Anfonir pob gohebiaeth yn ddwyieithog yng Nghymru, gan gynnwys arolygon, cylchlythyrau, datganiadau i'r wasg a mwy.

Gwneir hyn yn bosibl gan ein tîm ymroddedig, hynod angerddol CITB Cymru. Mae 40% o'r tîm yn siarad Cymraeg, gyda 40% arall yn dysgu'r iaith.

Mae hyn yn golygu y gall cyflogwyr, colegau, a chynrychiolwyr lleol a chenedlaethol o Lywodraeth Cymru gysylltu â’u Hymgynghorwyr Ymgysylltu CITB lleol ac yn Gymraeg.

Cynllun Iaith Gymraeg 2023

Rydym yn mynd gam ymhellach gyda'n Cynllun Iaith sydd newydd ei lansio.

Mae’r Cynllun yn amlinellu ein hymrwymiad i ganiatáu i bawb sy’n derbyn gwasanaeth gan CITB, neu sy’n cyfathrebu â ni, wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn dibynnu ar eu dewis personol.

Mae hyn yn adeiladu ar ein gwaith rhagweithiol presennol, megis cynrychioli’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, sydd wedi arwain at rai canlyniadau trawiadol. Cafwyd 116,000 o bobl yn gwylio negeseuon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog neu’n Gymraeg yn unig yn 2022, gan gynnwys ein cyhoeddiad rhwydwaith cyflogwyr ar gyfer De-orllewin Cymru.

Yn ogystal, rydym yn sicrhau bod y Profion Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd i Reolwyr a Gweithwyr Proffesiynol ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf. Yn y cyfamser mae Cylchlythyr CITB Cymru yn cyrraedd cynulleidfa gynyddol, gan roi gwybod i’n rhanddeiliaid beth sy’n digwydd yn eu hardal leol, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Wrth symud ymlaen, rydym yn sicrhau bod unrhyw fentrau CITB newydd yn gyson â’r Cynllun ac yn annog y cyfle i gynnig gwasanaethau dwyieithog.

Mae hyn yn cynnwys llwyfannau CITB megis y Siop, y Porth Swyddi, E-cyrsiau Cynnydd Dysgu ac eraill y byddwn yn ceisio eu gwneud yn ddwyieithog. Byddwn hefyd yn sicrhau bod cyfathrebiadau yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd yn y ddwy iaith ar draws pob platfform.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae 538,000 o bobl yn siarad Cymraeg, ychydig o dan 18% o boblogaeth Cymru sy’n dair oed neu’n hŷn. Mae’r Gymraeg yn fwy na geiriau, mae’n rhan annatod o ddiwylliant Cymru.

Mae cynnig gwasanaethau dwyieithog yn dangos ein hymrwymiad i drin pawb yn deg, yn gyfartal a darparu profiad cadarnhaol i’r cwsmer. Nid yw’r Gymraeg, ac ni ddylid ei hystyried, yn ‘ychwanegiad.’

Nid yn unig y mae bod yn ddwyieithog yn gwella hygyrchedd, ond mae’n dda i fusnes hefyd. Mae cwmni TIR Construction Ltd o Benrhyndeudraeth yn elwa o gyflogi gweithwyr a phrentisiaid Cymraeg eu hiaith.

“Mae cael gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn fanteisiol iawn i’n busnes ac mae cyflogi prentisiaid hefyd wedi helpu ein cwmni i sicrhau cytundebau,” meddai cyfarwyddwr y cwmni, Tania Edwards.

“Rydym yn gwneud llawer o waith i gleientiaid yng Ngogledd Orllewin Cymru y mae’n well ganddynt gyfathrebu yn Gymraeg, felly mae’n bwysig bod ein prentisiaid yn cael y cyfle i wneud eu prentisiaethau yn ddwyieithog neu’n gyfan gwbl yn y Gymraeg os maen’t yn dewis.”

Edrych i’r dyfodol

Mae’r Gymraeg yn cael ei chofleidio a’i siarad gartref, yn y gweithle, yn y gymuned ac yn CITB. Mae gwaith i’w wneud o hyd, ond mae ein Cynllun newydd yn sicrhau bod cefnogi’r Gymraeg wrth wraidd popeth a wnawn yng Nghymru.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a thrwy godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dwyieithrwydd, efallai y cyrhaeddir y nifer hwn hyd yn oed yn gynt.

Ac yn olaf, Dydd Gŵyl Dewi Hapus!