Facebook Pixel
Skip to content

Ennyn diddordeb disgyblion mewn adeiladu

Mae hyrwyddo gyrfaoedd adeiladu i blant ysgol yn rhan bwysig o ddenu talent newydd i’r diwydiant.

Un ffordd o ddangos cyfleoedd adeiladu i bobl ifanc yw drwy roi’r sgiliau i weithwyr presennol rannu eu profiadau’n effeithiol.

Yn ddiweddar, aeth Aled Hughes o CITB Cymru i Read Construction i hyfforddi staff yn y contractwyr adeiladu yn Wrecsam ar sut mae mynd ati i ennyn diddordeb disgyblion mewn adeiladu.

Treuliodd Aled ddiwrnod yn hyfforddi pum aelod o staff ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

“Roedden ni eisiau i staff, mewn amrywiaeth o rolau, gael hyfforddiant i ehangu ein cronfa o weithwyr all ymweld ag ysgolion a siarad am lwybrau i’r diwydiant,” esboniodd Kasia Pugh, Rheolwr Gwella ac Ymgysylltu Read.

Yn ôl Kasia, mae dau o’r staff a gafodd hyfforddiant CITB yn gwneud prentisiaethau “sy’n wych oherwydd gall y bobl ifanc maen nhw’n cwrdd â nhw uniaethu’n fwy â nhw”.

Llysgennad

Roedd y Prentis Technegol, Adam Dennett, yn un o’r prentisiaid a gafodd yr hyfforddiant.

Mae Adam yn mwynhau Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Adeiladu ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Yn ddiweddar, enillodd Wobr Dysgwr y Flwyddyn gan Read. Mae’r hyfforddiant a gafodd Adam yn golygu ei fod nawr yn llysgennad dros y diwydiant.

Dywedodd: “Roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol i ddeall bod angen rhoi gwybodaeth am yrfaoedd i bobl ifanc.

“Mae cael hyfforddiant fel Llysgennad STEM Am Adeiladu yn gyffrous oherwydd bydd yn fy helpu i fagu hyder a bod yn gyfforddus yn cyflwyno gerbron cynulleidfaoedd mawr.

“Bydd bod yn llysgennad yn gyfle i mi rannu fy mhrofiadau mewn ffeiriau a digwyddiadau gyrfaoedd. Bydd hyn yn rhoi cipolwg i bobl ifanc ar adeiladu a gall effeithio ar eu penderfyniadau gyrfa”.

Dywedodd Adam mai un o’r gweithgareddau hyfforddi yr oedd wedi’i fwynhau fwyaf oedd ‘Y Tetrahedron Enfawr’, sy’n rhan o adnoddau CITB.

“Mae’n weithgaredd ymarferol dwy awr o hyd, i greu strwythur 4m x 4m,” meddai Adam. “Mae’n addas ar gyfer grwpiau bach a mawr ac mae’n weithgaredd rwy’n edrych ymlaen at ei gyflwyno mewn digwyddiadau yn y dyfodol”.

Cyfleoedd

Dywedodd Adam fod staff Read wedi trafod sut mae prinder crefftau medrus yn dod yn fwy amlwg.

Mae rhagolygon Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu Cymru (PDF 1.4MB) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan CITB yn amcangyfrif y bydd angen 11,500 o weithwyr ychwanegol, i fodloni gofynion sgiliau cyflogwyr yng Nghymru, erbyn 2026. Mae’r lefelau recriwtio uchaf ar gyfer Gweithwyr Gosod Brics, crefftau Trydanol, Plwmio a chrefftau Gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC).

“Pobl ifanc yw dyfodol adeiladu yng Nghymru”, meddai Aled, Cynghorydd Ymgysylltu CITB Cymru.

“Mae meithrin eu chwilfrydedd a’u diddordeb yn ffordd wych o’u cyflwyno i’r dewis eang o swyddi y mae’r diwydiant adeiladu’n ei gynnig, llawer ohonynt heb fod ar y safle.

“Mae rhannu sgiliau yn yr ystafell ddosbarth yn brofiad gwerth chweil ac mae’n gallu bod yn llawer o hwyl hefyd. Roedd yn hyfryd gweld y brwdfrydedd a ddangosodd staff Read yn ystod eu hyfforddiant.

“Ac fel mae ein ffigurau CSN yn ei ddangos, mae gan y diwydiant adeiladu yng Nghymru gyfleoedd i bobl sydd â photensial”.

Os ydych chi’n gyflogwr sydd â diddordeb mewn cael hyfforddiant DPP, cysylltwch â Rheolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB Cymru, Ceri Rush Jones. E-bost: Ceri.Jones2@citb.co.uk