Facebook Pixel
Skip to content

Llenwyd bwlch hyfforddiant Rheoli ac Arwain gyda dros £10M o gyrsiau am ddim

Mae CITB wedi dyfarnu contractau gwerth £10.5m, i bedwar sefydliad hyfforddi ledled y DU a fydd yn darparu 10,500 o gyrsiau rheoli ac arwain ILM am ddim ar draws bob sector o'r diwydiant adeiladu.

Mae’r diwydiant wedi galw am sgiliau rheoli ac arwain i’w cefnogi gyda’r heriau presennol a’r dyfodol ac ategir hyn gan ymchwil a wnaed gan CITB sydd wedi amlygu bylchau a wynebir yn y diwydiant.

Mae hyn wedi cynnwys mewnwelediad sy'n dangos bod hyfforddiant rheoli a hyfforddiant goruchwylio wedi bod yn dirywio ers 2017.

Mae’r cytundebau wedi’u dyfarnu i gwmnïau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd OM Group Corporation Ltd yn darparu hyfforddiant ar draws Cymru, yr Alban a De Lloegr.

Rhennir contract De Lloegr gyda Danny Sullivan and Sons Ltd a MKC Training Services Ltd.

Bydd darpariaeth Gogledd Lloegr hefyd yn cael ei rhannu gan y Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) a The OM Group Corporation Ltd.

Dywed Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Mae darparu’r cyfleoedd hyfforddi hyn mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan y diwydiant nad yw eu gweithlu yn meddu ar y sgiliau Rheoli ac Arwain hanfodol sydd eu hangen arnynt. Gwaethygir y broblem gan y diffyg buddsoddiad ariannol yn y sgiliau hanfodol hyn i ddatblygu eu gweithluoedd ar gyfer y presennol a’r dyfodol.

“Mae’r buddsoddiad yma sydd â ffocws rhanbarthol gan ein bod yn edrych ar leoleiddio cymorth ac atebion ledled Prydain. Nid oes un dull sy'n addas i bawb.

“Rydym hefyd yn datblygu capasiti a gallu darpariaeth hyfforddiant adeiladu trwy ei gwneud yn haws cael mynediad at hyfforddiant a fydd yn cefnogi BBaCh nad oes ganddynt yr adnoddau efallai i dreulio amser yn ymchwilio i farchnad hyfforddi orlawn ar gyfer y cyrsiau cywir ar gyfer eu hanghenion.”

Bydd y comisiwn cyflenwi Rheoli ac Arwain Uniongyrchol yn darparu hyfforddiant rhad ac am ddim i reolwyr rheng flaen, Goruchwylwyr Safle a Rheolwyr Safle. Bydd hyn ar ffurf 5 modiwl ILM yn arwain at ddyfarniad lefel 3 ILM neu dystysgrif mewn Ymarfer Rheoli ac Arwain ar gyfer y Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig.

Yn unol â rheoliadau caffael llywodraeth y DU bydd y comisiwn hwn yn mynd i’r afael â gwerth cymdeithasol. Bydd yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y gweithlu, yn cynyddu gwydnwch a chapasiti’r gadwyn gyflenwi, ac yn cefnogi cyraeddiadau addysgol i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a darparu cymwysterau cydnabyddedig.