Facebook Pixel
Skip to content

Tîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid arbenigol CITB yn helpu dros 4,000 o brentisiaid i ymuno â’r diwydiant yn 2024-25

Mae nifer y dechreuwyr o brentisiaethau a gefnogir bron wedi dyblu flwyddyn ar ôl blwyddyn

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw wedi rhyddhau ei ffigurau diwedd blwyddyn ar gyfer ei Dîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (NEST) . Mae’r ffigurau’n dangos bod NEST wedi cefnogi 4,128 o ddechreuwyr o brentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2024-25, cynnydd ar 2,340 y flwyddyn flaenorol.

Mae NEST yn helpu i wneud dod o hyd, recriwtio a chadw prentis neu newydd-ddyfodiad yn haws i gyflogwyr, ac mae’n gweithio’n agos gyda nhw i waredu unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu wrth gyflogi a chadw newydd-ddyfodiaid, yn enwedig prentisiaid.

Fel rhan o fuddsoddiad £600m y Llywodraeth mewn sgiliau adeiladu, bydd CITB yn buddsoddi £32 miliwn i ariannu dros 40,000 o leoliadau gwaith yn niwydiant bob blwyddyn ar gyfer pob dysgwr Lefel 2 a Lefel 3, y rhai sy’n astudio NVQs, BTEC, Lefelau T ac uwch brentisiaethau. Bydd CITB hefyd yn dyblu maint ei raglen Tîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (NEST) i gefnogi BBaChau i recriwtio, ymgysylltu a chadw prentisiaid.

Dyma’r ail becyn cyllid y mae CITB wedi gweithio arno ochr yn ochr á’r Llywodraeth yn ystod y misoedd diwethaf, ar ôl cyhoeddi buddsoddiad o £40m hefyd mewn Hybiau Sgiliau Adeiladu Cartrefi i ddarparu prentisiaethau llwybr carlam.

Yn ogystal, fel rhan o Gynllun Strategol 2025-29 CITB, mae CITB yn buddsoddi dros £550 miliwn i ddenu newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant adeiladu, gan ddarparu cymorth drwy NEST.

Bydd y cyllid yn cefnogi targed adeiladu tai’r Llywodraeth o 1.5 miliwn o gartrefi newydd ac yn helpu i gyflawni’r 150 o brosiectau seilwaith mawr y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cymeradwyo ar draws y Senedd hon.

Dywedodd Deb Madden, Cyfarwyddwr gweithredol ar gyfer Ymgysylltu’r Gwledydd yn CITB: “Mae angen llif cryf o brentisiaid a gweithwyr adeiladu i adeiladu’r miliynau o gartrefi a channoedd o brosiectau seilwaith sydd eu hangen. Mae’r cymorth sylweddol y mae cyflogwyr yn ei gael trwy NEST yn hanfodol. Rydym yn falch iawn o weld pa mor dda y mae’r tîm wedi perfformio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn ymdrechu i barhau â’r twf hwn.

“Mae NEST yn ymwneud â rhoi mynediad ymarferol rhad ac am ddim i gyflogwyr i’w helpu gyda’u hanghenion recriwtio a chadw prentisiaid.

“Bydd ein partneriaethau buddsoddi diweddar ochr yn ochr â’r Llywodraeth yn helpu i barhau â gwaith da NEST drwy ddileu rhwystrau i gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach, a’u cefnogi i recriwtio a chadw newydd-ddyfodiaid.”

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth