You are here:
Cynlluniau Cenedl
Trosolwg
Yn dilyn ein Cynllun Busnes, mae ein Cynlluniau Cenedl yn nodi ar ba weithgareddau y bydd CITB yn canolbwyntio arnynt yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gyflawni blaenoriaethau’r sefydliad dros y flwyddyn i ddod.
Ac fel ein Cynllun Busnes, mae’r cynlluniau cenedl yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thair her allweddol i’r diwydiant:
- Ymateb i'r galw am sgiliau
- Datblygu capasiti a gallu darpariaeth hyfforddiant adeiladu
- Anghenion sgiliau yn y dyfodol
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am yr heriau hyn trwy ymweld â'n Cynllun Busnes.
Ein nodau ar gyfer y flwyddyn nesaf
Gwella sut mae'r system hyfforddi a datblygu yn gweithio ym maes adeiladu, fel bod mwy o gwmnïau'n gallu cael mynediad at yr hyfforddiant o ansawdd uchel sydd ei angen arnynt a lleihau lefel y bylchau sgiliau.
Gofynion sgiliau
Byddwn yn darparu:
- Cyfranogwyr See Your Site
- Digwyddiadau Menywod mewn Adeiladu
Byddwn yn hwyluso:
- Adeiladu ar lwyddiannau digwyddiadau ‘Open Doors’
- Digwyddiadau Wythnos Genedlaethol Prentisiaid wedi'u targedu
Byddwn yn annog:
- 30 o Lysgenhadon STEM Cymru
- Cynyddu nifer y ceisiadau i gystadlaethau sgiliau 10%
- Hyrwyddo Hyfforddiant Adnoddau Rhith-amgylchedd Adeiladu
Darpariaeth hyfforddiant
- Mwy o ymwybyddiaeth o grantiau, cynnyrch a chyllid CITB – gan sicrhau bod gan gyflogwyr fynediad at y cymorth cywir ar gyfer eu hanghenion sgiliau
- Cynnydd o 10% yn nifer y cyflogwyr sy'n cael hyfforddiant ac sy'n elwa o aelodaeth y Grŵp Hyfforddi
- Cynyddu nifer y fframweithiau prentisiaeth a gwblhawyd yn llwyddiannus.
Siapio'r dyfodol
- Cyllid grant CITB a chyfraddau ariannu Llywodraeth Cymru wedi'u cytuno ar gyfer Llwybrau Prentisiaethau Newydd
- Datblygu'r Fframwaith Prentisiaeth Trin Adeiladau Diwydiannol
- Cymwysterau digidol newydd ar gyfer y fframwaith prentisiaeth adeiladu newydd
- Safonau hyfforddi newydd a diwygiedig
Darllenwch fwy, lawr lwythwch Gynllun CITB Cymru 2022-2023 (PDF, 644kb)