Facebook Pixel
Skip to content

Ynglŷn â phrentisiaethau CITB

CITB yw un o’r darparwyr prentisiaid mwyaf ar gyfer y diwydiant adeiladu, gyda dros 45 mlynedd o brofiad o ddatblygu gweithwyr medrus.

Os penderfynwch gyflogi prentis a gefnogir gan CITB, byddwch yn cael aelod o staff brwd, llawn cymhelliant sydd eisiau dysgu a helpu'ch busnes i dyfu.

  • Mae prentisiaid a gefnogir gan CITB yn elwa o wasanaethau swyddogion prentisiaeth trwy gydol eu hyfforddiant.
  • Gall cyflogwyr sydd wedi'u cofrestru â lefi wneud cais am grantiau ar gyfer presenoldeb a chyflawniad pob prentis trwy gydol eu cwrs.

Mae holl hyfforddiant prentisiaeth CITB yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r diwydiant, sy'n golygu y bydd prentis yn dysgu'r sgiliau cywir ar gyfer y swydd.

Gellir darparu ein diwrnodau Gyrfaoedd Prentisiaeth CITB naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, fel y bo'n briodol. Gall darpar ymgeiswyr ofyn unrhyw gwestiynau am y grefft o'u dewis a byddant yn cael y wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt am ystod o yrfaoedd ym maes adeiladu. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod ymgeiswyr yn gwneud dewisiadau gwybodus am eu gyrfaoedd.

Ymhob digwyddiad

  • Mae ein Swyddogion Prentisiaeth yn cynnal cyfweliad cychwynnol i ddarganfod mwy am yr ymgeisydd.
  • Mae ymgeiswyr yn cwblhau asesiad o'u sgiliau llythrennedd a rhifedd.
  • Bydd Swyddogion Prentisiaeth yn adolygu pa sgiliau a gwybodaeth sydd gan ymgeiswyr ar gyfer ei rôl ddewisol, fel gofyniad am gyllid ac i osgoi hyfforddiant diangen.

Rydym yn talu grantiau i gyflogwyr cofrestredig o hyd at £10,250 y prentis.

Mae’r Grant Prentisiaeth i gyflogwyr ar gael yn ychwanegol i unrhyw grantiau gennym ni i helpu i dalu cyflogau eich prentis.

Gallwch wneud cais am grantiau i unigolion ar brentisiaethau cymeradwy ar Lefelau 2 a 3, a phrentisiaethau uwch yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Darganfyddwch fwy am y grantiau Prentisiaethau.

Os nad ydych chi'n gyflogwr sydd wedi'i gofrestru â Lefi/CITB, gallwch barhau i gyflogi prentis CITB.

  • Bydd eich prentis yn cael cefnogaeth Swyddog Prentisiaeth CITB o hyd.
  • Bydd gennych fynediad o hyd at y wybodaeth a gasglwyd ar ddiwrnodau Gyrfaoedd am eich prentis.
  • Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am grantiau i ariannu eich prentis.

Mae yna amodau a thelerau gwahanol ar gyfer cyflogwyr nad ydyn nhw wedi'u cofrestru â Lefi CITB. Rhaid i chi ddarllen y rhain ar y cyd â'r Datganiad Ymrwymiad, mae'r holl amodau a thelerau perthnasol o dan y Datganiad Ymrwymiad Prentisiaeth.

Amodau a thelerau'n ymwneud â hyfforddiant prentisiaeth, heb ei ariannu gan Lefi.

Mae Prentisiaethau'n Lloegr yn newid

Os ydych chi'n gyflogwr yn Lloegr sy'n defnyddio fframweithiau prentisiaeth o hyd, nawr yw'r amser i gynllunio'ch symud i safonau a sefydlu cyfrif Gwasanaeth Prentisiaeth gyda Gwasanaeth Prentisiaethau'r Llywodraeth.

  • Ar 31 Gorffennaf 2020 daw Fframweithiau Prentisiaethau i ben.
  • O 1 Awst 2020 bydd pob prentisiaeth newydd i Safon Prentisiaeth.
  • O 1 Ebrill 2021 bydd yn rhaid trefnu pob prentisiaeth trwy'r Gwasanaeth Prentisiaethau

Sylwer: Mae'r newidiadau hyn ar gyfer Lloegr yn unig a nid ydynt yn berthnasol i'r Alban, Gogledd Iwerddon na Chymru.

Cefndir y newidiadau

Ers mis Ionawr 2020, fel rhan o brofi trefniadau newydd yn ystod cyfnod trosglwyddo, mae’r Asiantaeth Cyllid Addysg a Sgiliau (ESFA), wedi bod yn gwahodd pob cyflogwr, waeth beth fo’i faint, i ddefnyddio Gwasanaeth Prentisiaeth y Llywodraeth (DAS gynt).

Mae'r Llywodraeth hefyd wedi bod yn annog pob cyflogwr, waeth beth fo'i faint, i sefydlu cyfrif ar-lein, fel y gallant gael profiad o fanteision y Gwasanaeth Prentisiaeth. Ar gyfer cyflogwyr nad ydynt yn talu lefi, bu defnyddio'r gwasanaeth yn ystod y cyfnod trosglwyddo yn ddewisol.

Roedd y cyfnod trosglwyddo i fod i ddod i ben ar 31 Hydref 2020. Fodd bynnag, oherwydd COVID-19 mae hwn wedi'i ymestyn i 31 Mawrth 2021.

Rôl CITB

Mae CITB yn cefnogi'r Llywodraeth gyda'r trosglwyddiad i'r Gwasanaeth Prentisiaeth. Byddwn yn:

  • Codi ymwybyddiaeth fel bod holl gyflogwyr y diwydiant adeiladu a phartneriaid yn ymwybodol o'r newidiadau
  • Cynghori a chefnogi holl gyflogwyr y diwydiant adeiladu, colegau a darparwyr hyfforddiant sydd wedi'u cofrestru â CITB fel eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau ac yn gallu ymateb
  • Cefnogi'n weithredol gyflogwyr y diwydiant adeiladu sydd yn gofrestredig â CITB sydd ar hyn o bryd yn cyflogi prentisiaid a'r rheini sy'n debygol o gyflogi prentisiaid.


Cefnogaeth i gyflogwyr

Mae CITB yn darparu gwybodaeth a chyngor i'ch helpu chi i ddeall a defnyddio'r Gwasanaeth Prentisiaeth. Gallwch:


Agor y cyfrif ar-lein

Pan fyddwch chi'n agor cyfrif ar-lein, gellir dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i sefydlu, cychwyn a rheoli prentis newydd mewn un lle.