Facebook Pixel
Skip to content

Sut rydym yn dyrannu cyllid

Rydym yn defnyddio grantiau a chyllid i helpu diwydiant adeiladu'r DU i gynnal yr hyfforddiant sydd arno ei angen i ddiwallu ei ofynion sgiliau, nawr ac yn y dyfodol.

Mae ein hadnoddau nid yn unig yn cefnogi cyflogwyr â'u hanghenion sgiliau o ddydd i ddydd, gan eu helpu i ddatblygu eu pobl bresennol a pharatoi talent newydd i weithio. Maent hefyd ar gael i helpu'r diwydiant i ganfod atebion creadigol ac arloesol i heriau ehangach, tymor hwy.

Rydym yn anelu at ymateb yn gyflym i anghenion diwydiant sy'n datblygu ac rydym yn eu nodi trwy ein tystiolaeth a'n hymchwil. Mae hyn yn caniatáu i ni dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf a chael yr effaith gadarnhaol fwyaf parhaus ar draws y sector.

Rydym yn rhannu adnoddau rhwng ein cynllun grantiau a chyllid ar gyfer prosiectau hyfforddi:

  • grantiau - ar gael i bobcyflogwr sydd wedi'i gofrestru ar gyfer y lefii gefnogi diwallu eu hanghenion hyfforddi presennol
  • cronfa sgiliau a hyfforddiant - hyd at £10,000 y prosiect ar gyfer cwmnïau cymwys sydd â llai na 100 o gyflogeion, ar gyfer cymorth hyfforddiant ychwanegol
  • cronfa hyfforddiant arloesi cydweithredol - hyd at £500,000 ar gyfer pob prosiect a awgrymwyd gan ymgeiswyr cymwys i fynd i'r afael â bylchau sgiliau'r diwydiant maent wedi'u nodi, yn arbennig os yw'n ateb arloesol a throsglwyddadwy
  • Prosiectau a gomisiynwyd gan CITB – rydym yn comisiynu prosiectau ar themâu blaenoriaeth, yn ôl ein tystiolaeth ar flaenoriaethau, strategaeth neu bolisi'r llywodraeth

Rydym am fod yn siŵr bod ein hadnoddau o fudd mawr i'r diwydiant ac yn helpu i ddatblygu'r sgiliau cywir. I wneud hyn rydym yn:

  • adolygu ein rhaglen ariannu yn rheolaidd
  • cynnal ymchwil a gwaith dadansoddi i ddeall anghenion newidiol y diwydiant
  • ymateb i adborth cyflogwyr a'r diwydiant
  • adeiladu tystiolaeth i gefnogi blaenoriaethau'r diwydiant
  • gwerthuso prosiectau a ariennir er mwyn mesur manteision a llywio penderfyniadau'r dyfodol
  • canolbwyntio grantiau ar ganlyniadau a chyflawniadau
  • lleihau dyblygu hyfforddiant trwy safoni, sicrhau ansawdd a chadw cofnodion

 


Mae'r dystiolaeth rydym yn ei chasglu'n ein helpu i bennu anghenion a blaenoriaethau'r diwydiant. Mae hefyd yn ein galluogi i fod yn ystwyth a chanolbwyntio ein cymorth lle bydd yn fwyaf effeithiol.

Mae'r dystiolaeth rydym yn ei chasglu'n cynnwys:

  • tystiolaeth macro-economaidd a gwaith dadansoddi rhanbarthol - yn ystyried materion neu dueddiadau mwy, megis effaith Brexit
  • ymchwil ansoddol - megis ein hadroddiad ar sgiliau digidol a thechnoleg neu report on digital skills and technologyor lwybrau ôl-16 i adeiladu
  • ymchwil meintiol - er enghraifft, data a ddarperir gan y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu, neu ein hadroddiadau ar fudo a'r rhai sy'n gadael yn gynnar
  • tystiolaeth anecdotaidd o'n sgyrsiau â chyflogwyr, ffederasiynau a sefydliadau adeiladu - gan ychwanegu dyfnder a lliw i'n dadansoddiadau
  • mewnwelediad marchnad ac ymchwil gan sefydliadau trydydd parti
  • tystiolaeth alwedigaethol - lle rydym wedi nodi bwlch sgiliau allweddol mewn crefft, rydym yn ymchwilio'n ddyfnach er mwyn nodi achosion ac atebion yn well

Rydym yn mynd â'n tystiolaeth yn ôl i'r diwydiant mewn proses gyfnewid gyson, fel drwy ymgynghoriadau, arolygon, fforymau a grwpiau pwyllgor, fel y gallwn ni fod yn siŵr ein bod yn gwneud pethau'n iawn.

Gallwch chi roi eich adborth i ni ar unrhyw adeg cysylltwch â ni.