Facebook Pixel
Skip to content

Sut mae'r CSN yn gweithio

Mae'r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu yn rhoi mynediad i chi i wybodaeth am y farchnad a fydd yn allweddol i'ch helpu chi neu'ch cynllun busnes ar gyfer y dyfodol

Mae'r CSN yn cael ei gydlynu gan CITB ar y cyd ag Experian, sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau dadansoddol trwy'r dull modelu.

Mae rhannu rhagolygon CSN gyda rhanddeiliaid yn caniatáu inni ddilysu a phrofi'r rhagolygon a rhagdybiaethau CSN trwy ddefnyddio gwybodaeth leol i wella'r data.

Mae cyfraniadau rhanddeiliaid yn allweddol wrth sicrhau bod rhagolygon yn gywir ac yn ein galluogi i gynllunio ein hymateb i anghenion sgiliau yn effeithlon ac yn effeithiol.

Buddion y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu 

Mae cael mynediad at wybodaeth CSN ynghylch y farchnad lafur a chipolwg ar dueddiadau yn caniatáu i'r diwydiant, llywodraeth, asiantaethau rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol: 

  • Nodi sectorau sy'n debygol o fod y gyrwyr cryfaf o dwf allbwn gwaith ym mhob cenedl a rhanbarth
  • Nodi'r sgiliau penodol, cysylltiedig y bydd eu hangen bob blwyddyn
  • Amlygu tueddiadau ar draws y diwydiant, megis newidiadau cenedlaethol a rhanbarthol yn y galw
  • Cynllunio ymlaen llaw a mynd i'r afael ag anghenion sgiliau gweithlu a fu'n symudol yn draddodiadol
  • Paratoi am gynnydd yn y galw am sgiliau penodol ar adegau penodol
  • Deall lefelau'r newydd-ddyfodiaid sy'n ofynnol, a'r cymwysterau sydd eu hangen i sicrhau bod gweithlu cymwys a galluog ar gael.