Facebook Pixel
Skip to content

Mudo ac Adeiladu yn y DU Mehefin 2023

Ar ôl penderfyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), bu CITB yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu sylfaen dystiolaeth, gan edrych ar sut a pham yr oedd adeiladu yn defnyddio gweithwyr mudol, y galwedigaethau allweddol yr oeddent yn gweithio ynddynt a sut yr oedd cyflogwyr yn bwriadu addasu i’r drefn fudo newydd.

Ynghyd â’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu (CLC), mae CITB wedi gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth a chyrff cysylltiedig megis y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo (MAC) i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o anghenion sgiliau’r diwydiant a sut mae’n addasu i’r System Seiliedig ar Bwyntiau (PBS).

Dyma’r chweched adroddiad a’r cyntaf ers diwedd y Pandemig a chyflwyno’r PBS ym mis Ionawr 2021 pan adawodd y DU yr UE yn ffurfiol.