Facebook Pixel
Skip to content

Canolfan Profiad ar y Safle yn cynnig gobaith i Emmy

Weithiau gall gwaith gynnig gobaith pan fydd rhannau eraill o fywyd yn anodd.

Roedd hyn yn wir i'r Gweithiwr Dymchwel, Emmy Jones.

Mae Emmy wedi gwneud cynnydd gwych yn ei bywyd ers iddi ymuno â’r Ganolfan Profiad ar y Safle yng Nghaerlŷr.

Mae’r Ganolfan Profiad ar y Safle, sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor a’i chyllido ar y cyd gan CITB, yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl sy’n chwilio am yrfa yn y diwydiant adeiladu.

Ers ymuno â’r Ganolfan mae Emmy mae wedi pasio ei chymwysterau ar y safle ac mae bellach yn gweithio i AR Demolition, busnes teuluol gwobredig yn Nuneaton.

Fodd bynnag, yn weddol ddiweddar, roedd Emmy yn cael pethau’n anodd.

Cyn dechrau ar ei gyrfa adeiladu, roedd Emmy’n profi hunllef ddomestig.

Hyfforddiant

“Cyn i mi ymuno â’r rhaglen, roeddwn i mewn perthynas nad oedd yn mynd yn dda iawn,” meddai Emmy.

“Roedd yn rhaid i mi guddio pob llythyr dymchwel gan CITB a oedd yn dod drwy’r drws. Allwn i ddim gadael iddo ef, fy mhartner, gael gwybod.”

Mae Emmy yn dweud bod ei hyfforddiant adeiladu, a’r posibilrwydd o gael swydd ar ei ddiwedd, wedi bod yn gymhelliant mawr iddi.

“Fe wnaeth fy helpu i ddod allan o’r berthynas cam-drin domestig, oherwydd roeddwn i’n meddwl ‘Rydw i’n gallu gwneud hyn,’ meddai.

“Roeddwn i’n gwybod mai adeiladu oedd beth roeddwn i eisiau ei wneud, ond fel menyw ifanc, roedd hi’n anodd mynd i mewn i'r diwydiant.

“Ond nawr fe allwch chi. Fe allwch chi wneud hyn. Ac rydw i wedi dangos hynny.”

Cyfleoedd

Mae Emmy yn dweud mai un o agweddau gorau’r Ganolfan oedd y ffaith nad yw staff yn barnu’r dysgwyr. Maent yn cefnogi ac yn croesawu pob math o bobl o bob math o gefndiroedd.

“Mae’r Ganolfan yma i helpu pobl i gael eu troed i mewn i'r diwydiant adeiladu,” meddai Richard Thorpe, Rheolwr Canolfan Adeiladu Ar y Safle Cyngor Dinas Caerlŷr.

“Rydyn ni’n annog amrywiaeth ac yn cefnogi pobl sydd ddim yn cael eu cynrychioli’n dda yn y diwydiant adeiladu.

“Mae’r Ganolfan yn rhoi profiad o safle i ddysgwyr a’r cymwysterau y mae cyflogwyr adeiladu lleol yn galw amdanynt. Fel mae Emmy wedi’i ddangos, mae’n gallu helpu rhywun mewn cyfyng-gyngor anodd i ddod o hyd i ffocws a chyfle.”

Amrywiaeth

Roedd y Ganolfan yn cynnwys amrywiaeth o hyfforddiant roedd Emmy wedi’i fwynhau. Roedd hyn yn cynnwys gweithio mewn mannau uchel, peryglon yn y diwydiant adeiladu ac iechyd a diogelwch.

Roedd yn ei helpu i ddod o hyd i ffocws a’r rôl adeiladu a oedd yn addas iddi.

“Roedd yr hyfforddiant yn bum diwrnod, fore ‘tan nos’,” meddai Emmy. “Roeddwn i’n gyffrous ond yn nerfus ar yr un pryd oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd i'r diwydiant adeiladu, ond doeddwn i byth yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud.

“Fe wnaeth yr hyfforddwyr yn y Ganolfan fy helpu i ddod o hyd i rywbeth roeddwn i’n ei hoffi.

“Fe aethon ni drwy’r holl wahanol fathau yma o gyfleoedd gwaith. Pan ddaeth y cyfle dymchwel allan, mi wnes i ddweud, ‘Dyna’r un rydw i eisiau ei wneud, dyna’r un rydw i ei eisiau!’ Roedd yn gyffrous.”

Dywed Emmy ei bod wedi “cael ei gwthio i'r pen dwfn” pan ddechreuodd weithio ar y safle.

“Ond roeddwn i’n gwybod o’r diwrnod hwnnw ei fod yn bendant i mi.”

Ymarferol

Yn ogystal â phrofiad ymarferol gwerthfawr, fe helpodd y Ganolfan Emmy i ennill cymwysterau pwysig yn y diwydiant.

“Roedd y rhaglen cyn-cyflogi yn dda iawn,” meddai, “oherwydd bod hynny’n eich paratoi ar gyfer mynd i'r afael â'r gwaith adeiladu.

“Mae’r tiwtoriaid yn egluro’r cynnwys, beth sydd ei angen arnoch chi ac wedyn rydych chi’n adolygu cwestiynau CSCS. Ac fe wnes i basio fy CSCS. Roeddwn i mor gyffrous.

“Yna dechreuais ddysgu’r peryglon. Gweithio mewn mannau uchel, y pethau arferol fel sut mae codi blwch.

“Rydych chi’n meddwl, ‘beth sydd gan hyn i’w wneud â’r diwydiant adeiladu?’ ond mae’n bwysig.

“Rydw i mor falch fy mod i wedi dysgu hynny oherwydd wrth edrych yn ôl arno nawr, mae wedi bod yn ddefnyddiol i mi yn y gwaith.”

Cyfle

“Mae stori Emmy yn ysbrydoledig,” meddai Rohan Cheriyan, Comisiynydd CITB.

“Mae’n un o nifer o straeon cadarnhaol sydd gan Ganolfannau Profiad ar y Safle ledled y wlad i’w hadrodd.

“Mae’r Canolfannau wedi helpu pobl sydd wedi cael profedigaeth, sydd wedi canfod eu hunain yn ddi-waith yn sydyn neu, fel Emmy, wedi bod mewn perthynas wael ac wedi cael eu hyfforddi i gael ar eu traed eto ac i'r byd gwaith.

“Rwy’n gobeithio y bydd stori Emmy yn annog pobl ifanc a phobl sy’n dymuno newid gyrfa o bob oed a chefndir. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi.”

Mae ein rhestr chwarae ar gyfer astudiaethau achos yn cynnwys Emmy ac enghreifftiau eraill o waith Canolfan Profiad ar y Safle ledled y DU.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o Ganolfan Caerlŷr? Mae’n cynnig rhaglen mynediad am ddim i'r diwydiant adeiladu. Byddwch yn ennill sgiliau’r diwydiant a phrofiad gwaith gyda chyflogwr lleol i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer y safle. Cysylltwch â Richard Thorpe: Richard.Thorpe@leicester.gov.uk