Consensws CITB yn symud i fis Mawrth 2025
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi heddiw ddyddiadau newydd ar gyfer ei broses Consensws: bydd y weithdrefn nawr yn dechrau ar 17 Mawrth 2025 ac yn parhau tan 9 Mai.
Mae'r symudiad pum wythnos yn rhoi mwy o gyfle i CITB alinio ei Cynllun Strategol 2025-29 sydd ar ddod â chanlyniadau Adolygiad ITB.
Fel arfer yn cael ei gynnal bob tair blynedd, Consensws yw’r broses a ddefnyddir gan CITB i geisio barn cyflogwyr sy’n talu’r Lefi a chytundeb ar ei gynlluniau ar gyfer cynhyrchu’r Lefi a’r sgiliau a’r hyfforddiant y bydd hyn yn eu darparu i’r diwydiant. Ffocws craidd CITB ar y Cynigion Lefi drafft 2026-29 yr ymgynghorir arnynt yw sicrhau bod y trothwyon ar gyfer esemptiad a lleihad ar y Lefi yn parhau i fod yn gyfredol ac yn briodol.
Yn ystod Consensws, mae CITB yn ymgynghori ag o leiaf 11,000 o gyflogwyr sy’n talu’r Lefi. Ym mis Mawrth 2019, roedd bron i 30,000 o gyflogwyr yn agored i dalu’r Lefi.
Mae’r Lefi’n chwarae rhan hanfodol wrth fuddsoddi yn niwydiant adeiladu Prydain, gan sicrhau datblygiad gweithlu medrus i fodloni gofynion y sector nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB:
“Credwn ei bod yn bwysig, fel corff sy’n cael ei arwain ac sy’n atebol i ddiwydiant, ein bod yn rhoi darlun llawn i gyflogwyr o sut rydym yn bwriadu cefnogi’r diwydiant dros oes y Cynllun Strategol a’r Gorchymyn Lefi sy’n cyd-fynd ag ef.
“Nid yw dyddiad cyhoeddi’r adolygiad ITB wedi’i gadarnhau eto gan yr Adran Addysg (DfE), sy’n golygu na allwn gadarnhau dyddiad cyhoeddi Cynllun Strategol CITB eto. O ganlyniad, rydym wedi adolygu dyddiad dechrau Consensws i sicrhau bod y cyflogwyr yn cael yr holl wybodaeth am y broses Consensws.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â press.office@citb.co.uk
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth